10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r Aelod yn iawn bod rhaglen o is-ddeddfwriaeth y bydd angen iddi ddeillio o'r pwerau sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i Ddeddf y DU. Rydym ni'n credu y bydd angen 17 darn o ddeddfwriaeth ar wahân i weithredu'r pwerau hynny. Bydd angen canllawiau…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, cymerwyd amddiffyniadau lesddaliadol yn Neddf Diogelwch Adeiladau'r DU. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod, gyda phwyll, ei fod, wrth gwrs, wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a roddodd y pwerau hynny i Gymru allu…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Gweinidogion yn parhau i ymgysylltu yn uniongyrchol â Llywodraeth y DU ac eraill i greu cyfundrefn gadarn o ddiogelwch adeiladau i Gymru. Mae hynny yn cynnwys defnyddio agweddau ar Ddeddf Diogelwch…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor am y pwyntiau pwysig yna. Mae beth ddywedodd e yn wir; mae targed uchelgeisiol gyda ni fel Llywodraeth i adeiladu mwy o dai am rent cymdeithasol yma yng Nghymru, ac mae'r sector, dwi'n cydnabod, yn wynebu nifer o…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol i gefnogi'r sector. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaethon ni dalu £11 miliwn o grantiau ychwanegol a £25 miliwn o fenthyciadau di-log i…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, clywais gri 'Eid Mubarak' John Griffiths yn cael ei adleisio o amgylch y Siambr y prynhawn yma, a gwn y bydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn dymuno llongyfarch ein cydweithwyr Mwslimaidd ac ymuno yn eu dathliadau wrth i fis sanctaidd Ramadan…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rydym ni eisiau i Gymru fod yn genedl oddefgar a chroesawgar, ond yn rhy aml, nid yw profiad bywyd rhai wedi adlewyrchu'r uchelgais hwnnw bob amser. Dangosodd yr ymgynghoriad diweddar ar ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol fod cynnydd clir…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna, ac rwy'n falch iawn o allu trafod y mater hwn ar ddiwrnod pan fo prentisiaethau cyfreithiol yn cael eu lansio yng Nghymru—argymhelliad gan gomisiwn Thomas, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan fy…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae dros 1,200 o brentisiaethau gradd wedi eu llenwi yn ystod tair blynedd cyntaf y rhaglen yng Nghymru. Bydd ein pwyslais ar ehangu yn blaenoriaethu meysydd sy'n mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau, yn hybu…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'n drist gen i ddweud bod yr enghraifft benodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ati yn enghraifft dda o'r ffordd nad yw'r gronfa'n diwallu anghenion Cymru. Roedd gan Trafnidiaeth Cymru gynllun i gynyddu gwasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bydd unrhyw effaith o gyllid ffyniant bro yn cael ei bychanu gan y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu ein cyfran o'r boblogaeth o fuddsoddiad HS2 i Gymru. Dylai Llywodraeth y DU roi ei chyfran deg o gyllid i Gymru, er mwyn caniatáu i'r…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn ddoeth i wneud ei sylwadau terfynol o ddiogelwch ei swyddfa ei hun—[Chwerthin.]—felly rwy'n ei longyfarch ar gael y rhan honno'n iawn. Mewn gwirionedd, cytunais â llawer iawn o'r hyn a oedd ganddo i'w ddweud. Rwy'n credu y…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna? Mae hi'n llygad ei lle wrth ddweud bod troseddau wrth wraidd y digwyddiadau trasig yn ymwneud â marwolaeth Emiliano Sala. Mae'r adolygiad dan arweiniad cefnogwyr, adolygiad Tracey Crouch, yn sicr yn werth…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ni chafodd Llywodraeth Cymru ei gwahodd i gyfrannu at yr adolygiad o lywodraethu pêl-droed yn Lloegr dan arweiniad cefnogwyr. Bydd y rheoleiddiwr annibynnol newydd arfaethedig ar gyfer pêl-droed yn Lloegr yn cael rhywfaint…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hwnna yn bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei wneud ar ran y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli yma yn y Senedd. Fel y mae'n digwydd, cefais gyfle i drafod y cynnig sydd wedi ei gyflwyno gan y ganolfan Prosesu Signalau Digidol gyda swyddogion Llywodraeth…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf i yn gobeithio y bydd yr Aelod yn dod o hyd i amser i roi'r hyn y mae newydd ei ddweud wrthym ni mewn llythyr y gall ei anfon at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y materion hyn, sy'n Weinidog yn Whitehall, nid yng Nghymru. Fel y ceisiais egluro mor syml ag y…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am delathrebu. Yn ôl Ofcom, mae darpariaeth awyr agored 5G gan o leiaf un gweithredwr ar hyn o bryd yn cynnwys mwy na 23 y cant o eiddo yng Nghymru.
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n iawn ac yn briodol, ac yn anochel yn wir, y bydd yr ymchwiliad annibynnol yn wir yn canolbwyntio ar y mater hwn ochr yn ochr â chyfres o faterion eraill y mae teuluoedd wedi eu codi. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, rwyf i wedi cyfarfod fy…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n ceisio rhoi ateb gonest bob tro y byddaf i'n siarad wrth y blwch traddodi hwn. Nid yw hynny'n golygu y byddaf i'n rhoi ateb yr hoffai'r Aelod i mi ei roi. Nid yw hynny'n brawf o onestrwydd. Ni ddylai awgrymu ei fod. Dywedodd eiliad yn ôl…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, unwaith eto i fod yn gwbl eglur gydag arweinydd Plaid Cymru, nid yw hwnnw yn sylw y mae'r Uchel Lys wedi ei wneud wrth glywed unrhyw beth o gwbl am benderfyniadau a wnaed yng Nghymru. Gall yr Aelod geisio os hoffai geisio awgrymu hynny oherwydd iddo…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, ni allai'r Aelod fod yn fwy anghywir. Atebodd ei gwestiwn ei hun yn ei gyfres gyntaf o sylwadau: ni fyddai ymchwiliad annibynnol a oedd yn canolbwyntio ar Gymru yn unig byth yn gallu gwneud synnwyr o'r union fathau o benderfyniadau y mae wedi…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
I fod yn eglur, nid yw'r llys wedi canfod dim byd anghyfreithlon o ran Cymru, oherwydd nid oedd Cymru yn rhan o'r achos Uchel Lys hwnnw. Ni chymerodd unrhyw dystiolaeth o Gymru, ni edrychodd ar unrhyw ddogfennau yn ymwneud â Chymru, felly, gadewch i ni fod yn…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, roedd achos yr Uchel Lys yn achos nad oedd yn ymwneud â Llywodraeth Cymru; roedd yn achos a ddygwyd yn erbyn awdurdodau yn Lloegr. Serch hynny, byddwn yn astudio'r dyfarniad yn ofalus ac yn ymateb iddo yn y dystiolaeth y byddwn yn ei chyflwyno i'r…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni wedi clywed slogan Plaid Cymru traddodiadol iawn yma y prynhawn yma. Mae'n ymddangos mai eu neges ar garreg y drws yn RhCT yw, 'Pleidleisiwch dros Blaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf. Onid yw'n ofnadwy?' Nid oes ganddyn nhw air da i'w ddweud am y…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, gadewch i ni gynnig ychydig o ffeithiau. Mae gan gyngor Rhondda Cynon Taf £8.5 miliwn yn ei gronfa wrth gefn gyffredinol. Mae hynny yn 1 y cant o'i alldro GRE y llynedd. Fel yr esboniais ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, mae awdurdodau lleol yn…