3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Buffy Williams am y pwyntiau pwysig iawn yna, ac rwy'n cymeradwyo cyngor Rhondda Cynon Taf am bopeth y mae wedi ei wneud i gynorthwyo ei drigolion yn ddiweddar ac eto yn awr gyda'r argyfwng costau byw. Darllenais gyda diddordeb y…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rydym yn gweithio yn agos gyda'r cyngor bwrdeistref mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd i wella bywydau pobl yn y Rhondda. I roi un enghraifft, mae dros 600 o blant yn y fwrdeistref yn manteisio ar gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru bellach, gan adael…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae wedi bod yn barth di-eironi ers tro byd ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y Senedd hon—[Chwerthin.] Llywydd, ni chlywais y geiriau 'Blaenau Gwent' unwaith yn y cwestiwn sydd newydd ei ofyn i mi, ac eto, hyd y gwelaf i, mae'r cwestiwn ar y papur trefn yn…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae Alun Davies yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn yn y fan yna. Mae elw BP wedi mwy na dyblu yn ystod y tri mis diwethaf. Oherwydd effaith prisiau nwy ac olew cynyddol, mae cwmnïau cyflenwi ynni yn gwneud elw ychwanegol o £745 bob eiliad…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae ein pecyn costau byw gwerth £380 miliwn yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi aelwydydd ym Mlaenau Gwent ac yn helpu teuluoedd yno sydd mewn trafferthion oherwydd prisiau sy'n cynyddu yn gyflym. Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae arnaf ofn bod yr Aelod yn methu'r pwynt. Mae llawer o feirniadaethau dilys sydd i'w gwneud o Lywodraeth y DU, ond nid yw'r honiad y dylai Llywodraeth y DU fod yn gyfrifol am yr ymchwiliad cyhoeddus yn un ohonyn nhw. Fel yr eglurais yn fy ateb cychwynnol…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, ni fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain yr ymchwiliad. Cyfrifoldeb y cadeirydd annibynnol, y Farwnes Heather Hallett, fydd gwneud hynny. Roedd y Farwnes Hallett yn arfer bod yn uwch-farnwr uchel ei pharch. Mae ganddi hi brofiad helaeth o…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n diolch i Peter Fox am y cwestiynau atodol yna. Nid oes amheuaeth bod cyflyrau COVID wedi effeithio yn fwy sylweddol fyth ar ddeintyddiaeth na rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, oherwydd natur triniaethau sy'n cynhyrchu aerosolau, fel y bydd…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae buddsoddiad ychwanegol, diwygio contractau a chanllawiau newydd yn gysylltiedig â COVID ymhlith y mesurau sy'n cael eu cymryd y mis yma i gynyddu mynediad diogel at wasanaethau deintyddol y GIG.
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn i Jayne Bryant am y cwestiwn yna, ac rwy'n croesawu'n fawr y fenter Prosiect Perthyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd. Mae'n flaenoriaeth polisi cyhoeddus gwbl bendant i'r Llywodraeth hon weld mwy o blant yn derbyn gofal yn nes at eu…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, y ffordd orau o ddarparu gofal o'r fath yw fel gwasanaeth cyhoeddus ac mor agos i gartrefi pobl â phosibl. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi darparu £3.5 miliwn o gyllid refeniw i fyrddau partneriaethau rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau preswyl…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiynau ychwanegol yna. Gaf i ddweud wrtho fe, pan oeddwn i wedi bod yn sgwrsio gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, dwi ddim yn fodlon jest i gael llais mewn penderfyniadau y maen nhw'n mynd i'w gwneud…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn. Llywydd, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bodloni'r addewid i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw ychwaith wedi bodloni'r addewid na fyddai Cymru yn colli unrhyw bwerau. Bydd…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd awdurdodau lleol. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu sicrhau, yn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, yn hwyr fel yr oedden nhw, gydnabyddiaeth mai'r ffordd orau o wario'r swm…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, addewais yn gynharach y byddwn yn cynorthwyo Paul Davies ymhellach gyda ffigurau sy'n dangos i ba raddau y mae Cymru ar ei cholled o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed gan ei Lywodraeth. Rhoddaf ragolwg iddo nawr. Y llynedd, £328 miliwn oedd y…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, cyhoeddwyd y gronfa ffyniant gyffredin yn 2017, ond dim ond ddechrau'r mis hwn y dechreuodd trafodaethau ystyrlon gyda Llywodraeth y DU. Safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw na allwn ni gymeradwyo dull sy'n cymryd cyllid a phenderfyniadau oddi wrth…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae hyn braidd yn anobeithiol, Llywydd, onid yw? Edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn ôl ar ei thraed ymhen pythefnos, pan all wneud sylwadau ar ddigywilydd-dra pobl yng Nghymru a fydd yn mynd i'r papur pleidleisio i wneud eu dyfarniad ar ei Llywodraeth…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i John Griffiths am hynna. Rwy'n credu mai'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid a ddaeth i'r casgliad nad yw'r pecyn cymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu yn Lloegr yn cynnwys llawer o dargedu adnoddau yn uniongyrchol ar gyfer y tlotaf…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bydd teuluoedd Dwyrain Casnewydd yn cael eu cynorthwyo gan becyn £380 miliwn Llywodraeth Cymru y bwriedir iddo helpu teuluoedd ledled Cymru gyda biliau aelwyd cynyddol. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu o fewn ein pwerau i amddiffyn y…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, nid cymryd mwy o amser yn strategeiddio ymhellach yw'r ffordd yr ydym ni'n gwneud y marwolaethau hynny yn rhai y gellir eu hatal yn fy marn i. Mae hynny i gyd ar waith gennym ni. Y lle yr wyf i eisiau i egni'r system ganolbwyntio yw ar…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n credu bod hynny'n sicr yn wir, Llywydd. Dyna'r pwynt yr oeddwn i'n ceisio ei wneud pan ddywedais i mai un o'r rhesymau pam mae gennym ni gyfraddau goroesi o'r math sydd gennym ni yw oherwydd bod pobl yn cyflwyno gyda'u canser yn hwyr. Ac mae pobl…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae cyfraddau goroesi am flwyddyn a chyfraddau goroesi am bum mlynedd o ganser yng Nghymru wedi gwella yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Efallai nad ydyn nhw yn yr un sefyllfa ag y gall gwledydd eraill gyflawni pethau drwy eu system iechyd o hyd…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy wedi bod yn un o bileri sylfaenol y dyfodol yr ydym ni'n ei weld ar gyfer amaethyddiaeth yma yng Nghymru erioed, a cheir llawer iawn o fanteision i ffermwyr Cymru yn y maes cynhyrchu bwyd cynaliadwy hwnnw. Ceir llawer o…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, a gaf i yn gyntaf fod yn eglur gydag arweinydd yr wrthblaid—nid oes argyfwng yn y cyflenwad bwyd yng Nghymru? Mae pwysau mewn marchnadoedd bwyd byd-eang oherwydd y rhyfel yn Wcráin, ac rydym ni'n gweld rhai mesurau dros dro y mae'n rhaid i…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn yr hydref, Llywydd, ac mor gynnar yn yr hydref ag y gallwn ni wneud i hynny ddigwydd. Rhan o'r rheswm pam mae'r Bil wedi ei ohirio yw rhai o'r rhesymau y mae'r Aelod ei hun wedi cyfeirio atyn nhw ar lawr y Senedd, ac yn gwbl…