17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae ein rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd cymwys wedi elwa hefyd ar y taliad cymorth tanwydd gaeaf o £200. Ac yn ogystal, mae taliad costau byw o…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd awdioleg a'r effaith y mae'n ei chael ar fywydau pobl. Mae'n ffaith drist, yn ystod y pandemig, fod llawer o bobl oedrannus, yn arbennig—ac mae gwasanaethau awdioleg yn cael eu…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r cynllun adfer gofal arfaethedig, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, yn ymrwymo i leihau amseroedd aros am therapi i 14 wythnos erbyn gwanwyn 2024. Mae'r rhestr aros ar gyfer gosod cymorth clyw i oedolion am y tro cyntaf wedi ei chynnwys yn yr ymrwymiad…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, dim ond oherwydd yr arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i gyngor dinas Abertawe, sef y corff cyhoeddus arweiniol o ran prosiect Blue Eden, i fynd yn ei flaen y mae'r prosiect hwn yn fyw. Pan dynnodd Llywodraeth y DU y plwg ar…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd y dyfodol hwnnw yn golygu cynhyrchu o leiaf ddigon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain yn llawn, gan gadw cyfoeth a gwerth yma yng Nghymru ar yr un pryd. Bydd mwy o ynni adnewyddadwy…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn condemnio'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi. Roeddem ni'n cefnogi, fel Llywodraeth Cymru, Bil Aelodau preifat Barry Gardiner a fyddai wedi gwahardd yr arfer a'i gwneud yn amhosibl iddo ddigwydd. Yn anffodus, fe wnaeth Llywodraeth y DU orchymyn…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid yw diswyddo ac ailgyflogi yn cyd-fynd â gwerthoedd partneriaethau cymdeithasol Cymru. Mae defnyddio'r bygythiad o ddiswyddo i wanhau telerau ac amodau cyflogaeth yn achos o gam-drin grym cyflogwr. Rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu i roi…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yng Nghymru, gyfarfod â Dr Cass ym mis Mawrth. O ganlyniad, mae gennym ni ymrwymiad y bydd y tîm adolygu yn gweithio gyda'r gwasanaeth a'r darparwyr yma yng Nghymru, fel y…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, comisiynwyd adolygiad Cass gan GIG Lloegr ar gyfer GIG Lloegr. Mae'n un ffynhonnell o dystiolaeth, ymhlith eraill, y gellir ei defnyddio i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc traws yng Nghymru.
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n bwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud, Llywydd, a phan roedd y llwybr yn cael ei ddatblygu, roedd rhai rhannau bach heriol o'r llwybr lle bu'n rhaid meithrin y cysylltiadau hynny, ac weithiau daethpwyd i gytundebau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
O diar. O diar. Rydych chi'n adnabod pas ysbyty pan ddaw eich ffordd chi yng Nghymru, onid ydych? [Chwerthin.] Wel, yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud, Llywydd, rwyf i wedi cael y fantais o weld copi ymlaen llaw o adroddiad y grŵp, felly gwn am rai o'r pethau…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, yn 2012, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr pwrpasol ar hyd arfordir cyfan. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd bellach yn dathlu'r cyflawniad hwnnw. Diolch i'r Aelod am arwain yr adolygiad annibynnol o lwybr…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n falch iawn bod yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi ymestyn ei rhaglen i Gymru ac wedi penodi dau weithiwr i weithio yn y ffordd honno dan arweiniad cymheiriaid. Mae stigma yn sicr yn rhan o'r rhwystr i bobl ddod ymlaen i gael triniaeth ar gyfer…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n gyfarwydd ag adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd yn 2019 wrth gwrs, ac mae'r pandemig wedi torri ar draws ei argymhellion—gwn fod yr Aelod yn deall hyn. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi cael rhywfaint o dystiolaeth genedlaethol bwysig iawn o…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, gallaf i weld y manteision o gael strategaeth genedlaethol, ond mae strategaeth genedlaethol a grŵp o bobl sy'n gweithio ar lefel genedlaethol gyda ni yn barod. Dwi ddim eisiau gweld cronfa genedlaethol. Os ydyn ni'n dechrau cael cronfa…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, er bod adnoddau wedi gorfod cael eu cyfeirio i fannau eraill yn ystod y pandemig, roedd y camau a gymerwyd i daclo digartrefedd ar y stryd yn golygu bod nifer fawr o gleifion newydd yn gallu cael triniaeth effeithiol. Mae cynlluniau allweddol yn…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bydd Bil yn dod o flaen y Senedd, a bydd cyfleoen i bob Aelod fan hyn i dreial tynnu ar y cyfleoen fydd yn y Bil i wneud mwy i greu Senedd sy'n adlewyrchu'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi llwyddo i wneud rhai pethau dros y blynyddoedd, yn…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid wyf innau ychwaith yn synnu at wrthwynebiad y Ceidwadwyr Cymreig i ddatblygu democratiaeth ymhellach yma yng Nghymru. Yr holl ddadleuon a glywaf yn cael eu defnyddio yw'r union ddadleuon a ddefnyddiwyd ganddyn nhw wrth wrthwynebu datganoli yn y…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol iawn yn natblygiad y sefydliad hwn. Fe wnes i ddod â fy nghopi o gomisiwn Richard gyda mi, a phan roeddwn i'n meddwl am ddod i lawr yma y prynhawn yma, cofiais yn eglur sefyll ochr yn ochr â'r Prif…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n hapus i edrych ar y mater y mae'r Aelod yn ei godi. Rydym ni'n cyhoeddi llawer iawn o ddata ar weithlu Cymru. Os oes bylchau ynddo y gellir eu llenwi yn synhwyrol, yna wrth gwrs rwy'n hapus i edrych ar y pwynt y mae'r Aelod wedi ei godi.
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid oes llawer yr wyf i'n anghytuno ag ef yn yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud, ac rwy'n sicr yn cytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd fferyllwyr a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae. Maen nhw'n chwarae rhan arbennig o arwyddocaol ar hyn o…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Mae'n iawn i ddweud bod yn rhaid i ni hyfforddi'r gweithlu meddygon teulu sydd ei angen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru. Cawsom gyfnod nid…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na, Llywydd, nid wyf i'n bwriadu newid y polisi hwnnw. Mae'n bolisi sy'n cael ei ddylanwadu yn uniongyrchol gan leisiau'r bobl ifanc eu hunain. Rwy'n argymell i'r Aelod adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, lle disgrifiodd pobl ifanc yn y system ofal sut…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn ychwanegol yna. Ac rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd y pwyllgor y mae'n ei gadeirio a'r ffordd y gall y Pwyllgor Deisebau sicrhau bod tystiolaeth uniongyrchol pobl yng Nghymru yn dylanwadu ar y trafodaethau…
10 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae gwrando ar lais plant yn rhan annatod o'n gwaith ac, yn wir, wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd hon. Yr haf hwn, byddwn yn dod â phobl ifanc â phrofiad o ofal ynghyd i drafod ein hagenda…