24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae pob un o'r rheina'n bwyntiau pwysig iawn y mae Peter Fox yn eu gwneud, a gwn y bydd yn siarad o brofiad o orfod negodi'r cytundebau hyn. Mae'n iawn—mae llawer o gwmnïau adeiladu cyfrifol ar gael, gyda Tirion y cyfeiriais ato yng nghyd-destun…
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n falch iawn o safle'r Felin; rwyf wedi ymweld â hi droeon. Bydd yn creu 800 o gartrefi newydd yng nghanol Caerdydd ar safle tir llwyd. Mae'n deyrnged mewn sawl ffordd i'n cyn gyd-Aelod Edwina Hart, a lwyddodd i greu cyfundrefn ariannu arloesol…
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn ychwanegol.
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio'r ffordd y codir taliadau ystadau am fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau. Mae'r trefniadau presennol yn rhy gymhleth ac yn rhy aml yn annheg. Byddwn yn cyflwyno cynigion ar gyfer…
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prynhawn da i'r Aelod.
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cyfeiriais yn fy ateb gwreiddiol at y ffaith bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn adolygu'r ffordd y mae ei strwythur o wasanaethau ysbytai, ac nid gwasanaethau ysbyty yn unig, wedi eu trefnu ar hyn o bryd. Nid wyf i'n cytuno â'r pwynt a…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am hynna. Agorodd Ysbyty Athrofaol y Faenor yn 2020, yn unol â'r gyllideb ac yn gynt na'r disgwyl. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi adolygu ei fodel clinigol i sicrhau'r ddarpariaeth orau bosibl…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i Mike Hedges. Mae'r darlun, rwy'n meddwl, yn un cymysg, onid yw? Mae llawer o bethau wedi newid dros y cyfnod ers yr ail ryfel byd. Mae rhai o'r pethau hynny yn gwneud unigrwydd ac ynysigrwydd yn anoddach, mae rhai pethau wedi erydu'r…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, a gyhoeddwyd ym mis Medi y llynedd, wedi ei gweithredu drwy gronfa gwerth £1.5 miliwn sy'n darparu amrywiaeth eang o gymorth lleol ac arloesol. Byddwn yn cyhoeddi'r…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Jane Dodds. Rŷn ni'n rhoi cymorth i'r awdurdodau lleol mewn nifer o ffyrdd. Rŷn ni wedi rhoi mwy o arian iddyn nhw yn ystod y pandemig i'w helpu nhw i ymdopi â'r sefyllfa yna. Cyfeiriais yn yr ateb gwreiddiol i Sam Kurtz at y cyngor newydd…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn atodol pwysig yna. Roedd achos Victoria Climbié ei hun yn un arall mewn cyfres faith o ymchwiliadau amddiffyn plant arwyddocaol. Yr un sylfaenol yn yr oes fodern oedd yr un i farwolaeth Maria Colwell yn ôl ym 1974, a cheir…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau diogelu rhanbarthol ac awdurdodau lleol i gryfhau a gwella arferion diogelu ledled Cymru. Mae gweithdrefnau diogelu newydd i Gymru gyfan wedi eu datblygu gyda'r…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Hefin David am hynna ac rwy'n cydnabod y diddordeb cyson y mae wedi ei ddangos i wneud yn siŵr bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ag ysbyty'r Faenor gystal ag y gallan nhw fod, ac rwy'n falch iawn o ddweud wrtho ein bod ni ar y camau…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Hefin David am hynna, Llywydd. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad ychwanegol o £50 miliwn mewn mesurau teithio llesol ledled Cymru. Bydd pob awdurdod lleol, gan gynnwys Caerffili, yn cael isafswm o £500,000 o…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae Adam Price wedi ei ddweud am Jake Daniels? Mae wedi cymryd dyn ifanc 17 mlwydd oed i ddod ymlaen yn y ffordd honno, ac am wers yw honno i bobl eraill sy'n hŷn na'r dyn ifanc dewr iawn hwnnw, a gadewch i…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, yn dilyn y digwyddiad blynyddol lle cyhoeddir y cyfrifiad cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, ysgrifennais at arweinwyr pob corff sector cyhoeddus yng Nghymru, yn eu hannog i ddod ymlaen fel cyflogwyr cyflog byw…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, y tro diwethaf i mi gael trafodaeth gydag unrhyw Weinidog y DU am swyddi gwasanaeth sifil, i glywed y Gweinidog hwnnw yn clodfori bwriadau Llywodraeth y DU i wasgaru swyddi gwasanaeth sifil o gwmpas y wlad, ac i ddod â mwy o gyflogaeth i Gymru a…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, record Llywodraeth Cymru o dalu'r cynllun taliadau sylfaenol, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei wybod, yw'r gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod y gorau ers blynyddoedd lawer, ac yn sicr yn llawer iawn gwell nag y mae dros ein ffin…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, i ailadrodd yr hyn a ddywedais i, Llywydd, oherwydd nid wyf i eisiau i'r hyn a ddywedais i'r tro diwethaf gael ei gamddeall na'i gamliwio, roedd y pwynt a oedd yn cael ei wneud i mi yn flaenorol yn ymwneud â phrinder bwyd yn cael ei gyflenwi drwy'r…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid yn camddeall yr hyn yr oedd gan lywodraethwr Banc Lloegr i'w ddweud. Yr hyn yr oedd yn cyfeirio ato oedd y cynnydd i gost bwyd oherwydd digwyddiadau yn Wcráin ac, fel y dywedodd yn eglur iawn wrth y pwyllgor…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch. Gwnaeth yr Aelod nifer o bwyntiau pwysig cyn iddo golli ei ffordd a throi at wleidyddiaeth isel, sef, wrth gwrs, y nodwedd sy'n nodweddiadol o'i blaid yn rhy aml o lawer. Pan oedd yn gwneud pwyntiau synhwyrol, cyfeiriodd at y pwysau sydd ar…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd—[Torri ar draws.]
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd ym Mrycheiniog a Maesyfed. Mae'r bwrdd yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau cyfalaf sy'n arwain at ddatblygiadau o ran effeithlonrwydd gwasanaethau wrth iddo adfer gwasanaethau hanfodol ac…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, a gaf i ddiolch i Buffy Williams am y pwyntiau yna? Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, bod angen i ni wneud yn siŵr bod aelwydydd yng Nghymru mor ymwybodol o'r cymorth â phosibl. Ac rydym ni'n gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd, gan weithio'n agos gyda'n…
17 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Russell George am dynnu fy sylw at y mater yna. Bydd yn gwybod y cafodd y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ei lunio yn gyflym iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael cymaint o gymorth â phosibl i ddwylo aelwydydd yr oedd angen y cymorth hwnnw…