15 Tachwedd 2021 , Equality and Social Justice Committee
Gofal plant a chyflogaeth rhieni—sesiwn dystiolaeth 1
Ie, jest hefyd eisiau rhoi cyfle i Shavanah i sôn am hyn. Ond, ie, yn amlwg, mae yna gyfyngiadau ymarferol. Rŷn ni'n gwybod beth sydd angen cael ei wneud, ond mae yna gyfyngiadau ariannol, a sut ŷch chi'n gweld y rheina'n effeithio ar y blaenoriaethau yma?…
15 Tachwedd 2021 , Equality and Social Justice Committee
Gofal plant a chyflogaeth rhieni—sesiwn dystiolaeth 1
Diolch. Mae COVID, onid yw e, wrth gwrs, wedi effeithio ar y pethau ad hoc yna yr oedd menywod wastad wedi defnyddio yn ystod amser gwyliau, pan mae'r cyfnod gwyliau sydd ganddyn nhw i'w cymryd gan y gwaith byth yn ymestyn yn ddigon hir. Felly, rwy'n credu…
15 Tachwedd 2021 , Equality and Social Justice Committee
Gofal plant a chyflogaeth rhieni—sesiwn dystiolaeth 1
Diolch, Gadeirydd. Prynhawn da. Rŷn ni wedi cyffwrdd yn fanna, onid ŷm ni, ar dargedu ac ar gyllid, felly eisiau gofyn oeddwn i i chi'ch tair pa newidiadau yn narpariaeth gofal plant sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru y dylai'r Llywodraeth…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sbeicio
—rydym eisiau i'n merched dyfu i fyny ynddi heb ofn. Geilw hyn am fyw na lliniaru risgiau; rhaid anelu at bolisi i ddileu'r risgiau hynny'n gyfan gwbl. Diolch.
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sbeicio
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch hefyd o siarad yn y ddadl bwysig hon, oherwydd mae hwn yn fater sydd, yn llythrennol, yn fy nghadw'n effro yn y nos oherwydd bod gennyf ferch 19 oed. Mae'n dweud wrthyf, bob tro y bydd yn mynd allan i far neu glwb, neu i…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Weinidog, mae cwm Tawe yn ardal o bwysigrwydd ieithyddol. Yn gynt eleni, mewn ymateb i bryderon gan ymgyrchwyr ac arbenigwyr iaith, fe wnaethoch chi gydnabod bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot heb ystyried yn iawn effaith eu cynlluniau i godi ysgol enfawr…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Dirprwy Weinidog. Pythefnos yn ôl, gan ddatgan bod yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni newid y ffordd rŷn ni'n teithio, fe gyhoeddoch chi ddiweddariad ar gyfer cynllun metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, a hynny gan nodi bod 17 y cant o…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r system drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ57145
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021
Gweinidog, ar ddechrau eich datganiad, fe wnaethoch chi amlinellu'r cyfraddau achosion uchel iawn sydd gennym yma yng Nghymru o hyd yn anffodus, ac mae'r cyfraddau hyn yn parhau i effeithio ar addysg. Dros fis yn ôl, gofynnais i'r Gweinidog addysg a fyddai…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Brif Weinidog. Gwelwn yn glir yn ein gweithleoedd y modd y mae anghydraddoldebau economaidd yn cyfuno gydag anghydraddoldebau eraill, megis rhywedd, ac mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi yn ddiweddar yn datgelu bod y bwlch cyflog ar sail rhywedd yn…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Ngorllewin De Cymru? OQ57167
4 Tachwedd 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ie, jest hoffwn ddatgan bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe.
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif
Cyflawnir sero-net drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae effeithlonrwydd ynni adeiladau, fel y gŵyr y Gweinidog, yn un llwybr yn unig tuag at y targed hwnnw, ac mae ffactorau eraill hefyd yn bwysig, soniwyd am rai ganddo, megis bod teithio llesol a…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Prif Weinidog. Bythefnos yn ôl, cyd-gyflwynais gynnig gwrth-hiliaeth yma yn y Senedd a gwnes i ddadlau bod angen i'n holl sefydliadau, gan gynnwys yr heddlu, fod yn rhagweithiol yn eu hymdrechion gwrth-hiliaeth. Fodd bynnag, daeth i'r amlwg yn…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion gwrth-hiliaeth y Llywodraeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ57100
1 Tachwedd 2021 , Equality and Social Justice Committee
Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
Diolch. Mae'n dilyn ymlaen yn dda fanna o beth oedd Sarah yn sôn amdano fe jest nawr o ran y diffyg arbenigedd, efallai, a rhai o'r heriau allweddol yna sy'n ein hwynebu ni yng Nghymru o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb. Ro'n i ishie gofyn…
1 Tachwedd 2021 , Equality and Social Justice Committee
Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
Diolch, Gadeirydd. Mi wnaethon ni gyffwrdd ar effaith COVID yn gynharach, ac eisiau gofyn oeddwn i—. Rŷn ni’n gwybod bod y pandemig wedi amlygu a gwaethygu’r anghydraddoldebau yn y gymdeithas—rhai rŷn ni’n hen gyfarwydd â nhw—ac mae hefyd wedi codi llawer o…
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
Ar ein taith tuag at statws cenedlaethol llawn, mae'n hanfodol ein bod ni'n wynebu'r hiliaeth yn ein gorffennol—ein bod ni'n pasio deddfwriaeth ac yn datblygu arferion diwylliannol, sefydliadol ac addysgol sy'n mynd i'r afael â hiliaeth yn y presennol, a'n…
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
—sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
Yng Nghymru a Lloegr, mae'r heddlu naw gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio eu grymoedd stop and search a bron wyth gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio tasers ar bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nag ar bobl wyn. Mae canran y bobl ddu yng ngharchardai…
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
Fel yr ydym wedi ei glywed heddiw, rydym ni wedi cael y ddadl hon yn y Siambr dair blynedd yn olynol, pan fu'r cynnig wedi ei eirio yn debyg iawn, ond eto mae troseddau casineb hiliol yn dal i gynyddu. Sut mae'r Llywodraeth yn gyfrifol am hyn? Rydym ni, wrth…
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
Rwy'n gobeithio ein bod ni oll yn cydsefyll gyda dioddefwyr hiliaeth, ond mae lle inni fod yn gwneud llawer mwy i daclo troseddau casineb. Yn ôl ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn 2020-21, bu cynnydd o 16 y cant mewn troseddau casineb o'r flwyddyn flaenorol, ac…
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
Mae hanes pobl dduon yn rhan annatod o hanes Cymru. Mae agweddau i'w dathlu, er enghraifft cyfieithu naratifau caethweision John Marrant, Moses Roper a Josiah Henson i'r Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daniodd angerdd diddymu radicalaidd y Cymry…
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru yn cydgyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Wrth i ni drafod y cynnig, rydym hefyd wrth gwrs yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mis sy'n dathlu ffigyrau du pwysig yn ein hanes, yn ogystal â nodi mor greiddiol yw profiad a…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Weinidog, os ydym am wella sefyllfa economaidd pobl Gorllewin De Cymru, mae angen inni daclo'r lefelau uchel ac annheg o drethi cyngor mewn awdurdodau lleol a mynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ôl-ddyledion trethi cyngor. Mae cyngor Castell-nedd Port…