2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ym mis Medi 2025 y byddai cymwysterau TGAU ar wahân mewn ffiseg, cemeg a bioleg yn parhau i fod ar gael.
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn bod fy mhlaid yn benderfynol o gyflwyno dull newydd. Fe wnaf i ei esbonio mor syml â hyn: mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar y wyddoniaeth. Byddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'r arbenigwyr hynny bellach sy'n gallu rhoi'r…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddelio â chanlyniadau ein gorffennol diwydiannol a sicrhau cyfiawnder i'n cymunedau meysydd glo. Fe wnes i ymweld â Chwmtyleri fy hun ar ôl y tirlithriad diweddar hwnnw, a wnaeth wir ail-bwysleisio’r…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno'n fawr â'r teimladau a fynegwyd yn y fan yna, ac mae yn nheitl y Gweinidog: mae Gweinidog Cabinet dros effeithiolrwydd Llywodraeth yn golygu'n union hynny. Mae'n fater o wneud yn siŵr ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gallu chwalu'r seilos hynny ac…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ar draws ein holl ymrwymiadau, bydd y Llywodraeth hon yn mesur cynnydd trwy ddull eglur, wedi'i arwain gan ddata a disgybledig, gan olrhain yr hyn sy'n newid ar lawr gwlad mewn gwirionedd fel y gallwn ni weld beth sy'n gweithio. Mae gan y Cabinet gyfrifoldeb…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n gwestiwn hir iawn, ond ag ateb byr iawn. Mae twneli Bryn-glas yn dagfa adnabyddus ac yn gyfyngiad economaidd i Gymru, ac mae'n amlwg bod angen gweithredu i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4. Gwastraffwyd arian, mae'n rhaid i mi ddweud, wrth gyrraedd…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu y gall y rhan fwyaf o bobl weld pwy sydd wedi bod yn ymladd ers amser maith dros y mater penodol hwnnw, ac yn sicr nid wyf i'n bwriadu aros tan 12 Mehefin. Mae pobl Ynys Môn wedi cael eu siomi ers amser rhy faith o ran gwydnwch croesfannau afon…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n atgoffa arweinydd y grŵp Llafur fod ei blaid yn arfer dweud ei bod yn cefnogi'r dyn a'r fenyw gyffredin sy'n gweithio. Mae fy safbwynt i ar Wylfa yn eglur iawn, iawn. Mae hwn yn fater a gedwir yn ôl, ac roedd y maniffesto yn dod i mewn i'r etholiad hwn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ydw, rwyf i, ar lefel bersonol, wedi mabwysiadu'r dull erioed o ymladd dros y manteision economaidd sy'n dod i'r rhan benodol honno o Gymru o'r datblygiad hwnnw, sy'n fater a gedwir yn ôl. Ond y peth allweddol yma yw y bydd fy Ngweinidog Cabinet dros ynni yn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n mynd i fod yn dymor Senedd hir iawn os yw'n dechrau fel hyn, ein bod ni wedi cael canran benodol yn fwy na chi yn yr etholiad. Gwrandewch, mae gennym ni raglen lywodraethu yr ydym ni wedi ei gosod gerbron pobl Cymru sy'n sicr yn mynd i'r afael â…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaf i ddechrau'r ateb hwn yn yr ysbryd yr wyf i eisiau cyflawni fy musnes yma, drwy nodi bod mwy o bobl wedi pleidleisio dros Blaid Cymru oherwydd eu bod nhw'n ymddiried yn ein haddewidion ni i ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy ar gyfer y…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am gytuno â ni bellach bod iechyd yn flaenoriaeth yma yng Nghymru. Gwrandewch, rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur iawn, iawn bod dwy elfen i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Rydyn ni eisiau lleihau rhestrau aros yn y…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cost gynyddol biliau yn y cyfnod diweddar wedi achosi poen gwirioneddol i bobl. Mae'n elfen, elfen sylweddol, i lawer o bobl pan ddaw i heriau costau byw. Pan edrychwch chi ar filiau uwch, mae'n arbennig o anodd ei stumogi yng nghyd-destun cyflog uchel…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf i'w wneud yw ailadrodd yr hyn a ddywedais: byddwn ni'n gweithredu trwy dargedu gwaith atal a gorfodi lle mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn angenrheidiol—mae hynny'n golygu mewn perthynas ag afonydd llygredig, ac mae'n golygu…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwy ran i'r ateb yna. Mae mesurau ynghylch gwasgaru slyri yn ymwneud ag osgoi llygredd amgylcheddol mewn afonydd fel nad yw amaethyddiaeth yn cael ei orfodi i ddilyn y calendr ac yn gallu gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar dechnoleg i wasgaru slyri mewn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ymwybodol ac yn bryderus am achosion o salwch a adroddwyd yn ddiweddar pan fo unigolion wedi bod yn nofio yn Afon Tawe. Rwyf i wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ymchwilio i'r adroddiadau, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd rhagor o…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon yn cytuno â phenderfyniad Plaid Cymru i gymryd Dŵr Cymru i ddwylo Cymreig. Mae hynny oherwydd ein bod ni eisiau pennu cyfres o werthoedd, a allai gynnwys tâl uwch weithredwyr, er enghraifft, yn y ffordd y…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wella ansawdd dŵr. Rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd rheolaeth lawn o'n dŵr ac i fynd i'r afael â llygredd drwy ddatblygu system sydd wedi'i gwneud yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynnwys data gwell, afonydd…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Heb os, a dwi'n falch o weld yr Aelod yn ôl ar ei draed, yn llythrennol. Mae'n cynlluniau ni i wella'r gwasanaethau iechyd yn seiliedig ar ddull system gyfan. Fel mae'r Aelod yn ei nodi yn gywir, bydd ein cynllun gweithlu newydd, er enghraifft, yn cynnwys…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n clywed y galwadau, fel y byddaf i'n clywed galwadau, heb amheuaeth, am fuddsoddiad mewn gwahanol rannau o'r wlad. Yr hyn sy'n bwysig i mi, rwy'n credu, yw cydnabod yr heriau y mae etholwyr yr Aelod yn eu hwynebu, i greu lefel o wasanaeth sy'n…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i integreiddio fod yn ganolog i greu cynaliadwyedd o fewn y gwasanaeth iechyd a gofal yn ei gyfanrwydd. Mae cadw pobl allan o'r ysbyty yn rhan bwysig o hynny. Mae sector gofal cymdeithasol cryf wrth ddrws cefn yr ysbyty yn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn cytuno bod darpariaeth gwasanaeth damweiniau ac achosion brys addas, effeithiol, ac o ansawdd uchel yn etholaeth yr Aelod, a ledled Cymru, yn hanfodol bwysig. Mae angen gwelliant sylweddol arnom ni i'r sefyllfa bresennol, ac mae ysbyty'r Faenor…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cyrhaeddodd yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent, sydd wedi'i leoli yn etholaeth Casnewydd ac Islwyn, y targed cenedlaethol ym mis Ebrill. Cafodd naw deg chwech y cant o'r cleifion eu hasesu, eu trin a'u rhyddhau o fewn y cyfnod safonol o bedair…
19 Mai 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu Aelod newydd arall yma heddiw. Nawr, o dan ein cynllun 100 diwrnod cyntaf, byddwn yn cynnull grŵp gorchwyl a gorffen gofal dewisol, sy'n cynnwys arbenigwyr perthnasol. Byddant yn gyfrifol am ddatblygu cynllun cyflawni ar…
19 Mai 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r Prif Weinidog
Rwy'n gwerthfawrogi'r cwestiwn ac rwy'n croesawu'r Aelod yn ôl. Chwi o ychydig ffydd, fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae hi'n gofyn, 'Beth mae gwydnwch a chynaliadwyedd gwledig yn ei olygu?' Mae'n golygu gwydnwch Cymru wledig a chynaliadwyedd. Nid wyf…