9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn adleisio, mewn rhai ffyrdd, fy ngalwad am system drethiant deg. Felly, byddwn, byddwn ni'n adolygu ardrethi busnes, fel yr ydym ni wedi dweud y byddem ni'n ei wneud, gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gweithio'n dda i fusnesau…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ailadrodd, Lywydd, na fydd unrhyw newid i gyfraddau treth incwm. Nid yw'r arfau gennym ni i osod system drethi sy'n gweithio i Gymru. Fe wnaf i ddweud hyn: hoffwn i gyflwyno trethiant pellach yng Nghymru drwy economi sy'n ffynnu a thrwy fusnesau sy'n…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae trethi datganoledig yn gwneud cyfraniad sylweddol at y gyllideb, gan ddarparu £4.4 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith hanfodol yng Nghymru. Mae'r refeniw hwn yn galluogi buddsoddiad i hybu twf economaidd, i wella ein GIG, ysgolion, gofal…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Lywydd, yn syml iawn, mae hon yn Llywodraeth sydd yn credu mewn gweithredu. Y rheswm, weithiau, yr ydym ni'n osgoi geiriau fel 'gwaharddiadau' yw oherwydd y bydd eithriadau bob amser. Rydym ni'n benderfynol, a chan weithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Addysg…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Lywydd, hoffwn roi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod. Rydyn ni eisiau parhau â'r gwaith a wnaed yn flaenorol ac adeiladu arno. Rydym ni'n atgoffa ein hunain o deitl yr adroddiad hwnnw: 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder'. Dim ond rhan o'r cyfiawnder sydd wedi cael ei…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mi gofiwn am byth, wrth gwrs, fel mae'r Aelod yn dweud, ffieidd-dra'r troseddau gan Foden, a do, mi gymerodd ddewrder rhyfeddol ar ran y bobl ifanc yna. Rydym ni yn cymryd pob cam y gallwn ni o fewn ein grym ni i leihau y risg o unrhyw beth fel hyn yn digwydd…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd pawb wedi'u brawychu, wrth gwrs, gan weithredoedd Neil Foden, y mae bellach yn cael ei gosbi amdanyn nhw. Ac rydyn ni'n cofio, onid ydym ni, dewrder pawb a ddaeth ymlaen a siarad a sicrhau'r euogfarn honno. Mae'n rhaid i ni weithredu nawr ar sail yr hyn…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein maniffesto yn eglur: rydym ni wedi cyflwyno amrywiaeth o ymrwymiadau i ysgogi mwy o gysondeb ac atebolrwydd i gryfhau trefniadau diogelu mewn ysgolion ledled Cymru. Mae ein harolygiaeth, Estyn, yn monitro trefniadau diogelu drwy ei fframwaith arolygu…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno i argymhelliad y Prif Weinidog i'w Fawrhydi i berson gael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol
Diolch, Lywydd. Pleser ydy enwebu Elfyn Llwyd ar gyfer swydd y Cwnsler Cyffredinol. Yn fargyfreithiwr ac yn seneddwr profiadol, dwi'n gwybod y bydd Elfyn yn camu i'r rôl efo'r un urddas, yr un angerdd a'r un agwedd bragmataidd a ddiffiniodd ei yrfa yn San…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ein gwaith yw cefnogi amaethyddiaeth fel conglfaen nid yn unig yr economi wledig, ond y gymdeithas wledig. Nid yw'r Llywodraeth hon wedi cefnogi nac wedi galw am leihau nifer y da byw. Mae'r Llywodraeth hon wedi cefnogi polisïau amgylcheddol. Mae'r ffermwyr…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Amaethyddiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi wledig ac yn anadl einioes ein cymunedau gwledig. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth gref i'n ffermwyr. Yn ein 100 diwrnod cyntaf, byddwn ni'n cadarnhau cylch cyllido amlflwyddyn yn hytrach na'r taliad cynllun…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wrth ei flas y bydd profi'r pwdin, a bydd y blas yn yr achos hwn yn ymwneud â ph'un ai ydyn ni'n gwireddu'r addewidion yr ydyn ni wedi'u gwneud ar ein hymrwymiad i nid yn unig i barhau â'r model partneriaeth gymdeithasol a oedd eisoes ar waith ond ei gryfhau…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Byddwn ni'n cyflawni gwaith teg drwy ymwreiddio partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'n gwasanaethau cyhoeddus a'r Llywodraeth, cydnabod gweithwyr fel arbenigwyr, a sicrhau eu bod yn cael eu clywed wrth lunio gwaith darparu gwasanaethau ac amodau…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a gafodd eu gwneud ar yr angen i ymwreiddio popeth yr ydyn ni'n ei wneud o ran hawliau pobl anabl. Yma, byddwn i'n gobeithio y gallen ni gael cytundeb ar draws y Siambr hon ar y dull gweithredu, ac mae'n ymwneud â datblygu gwaith a…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn ni'n bwrw ymlaen â chynigion i ymgorffori confensiynau hawliau dynol allweddol y Cenhedloedd Unedig, sy'n cynnwys confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, yng nghyfraith Cymru. Bydd hyn yn datblygu hawliau ac amddiffyniadau presennol, ac…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn crybwyll llawer o bethau yr wyf i'n wir yn cytuno â nhw, fel rôl y dafarn gymunedol fel trydydd man, fel y cafodd ei ddisgrifio i mi yn ddiweddar. Mae gennych chi gartref, mae gennych chi'r gweithle neu'r ysgol, efallai, ac yna mae gennych…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd ein maniffesto yn cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau penodol i helpu i adfywio canol ein trefi, gan gynnwys diwygio'r system ardrethi annomestig. Byddwn ni'n archwilio sut i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ni i gefnogi sector lletygarwch llewyrchus…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae llywodraeth leol yn bartner allweddol, fel y gŵyr yr Aelod, wrth ddarparu gofal. Roedd yn un o'r rhesymau pam y gwnaethon ni sicrhau, trwy'r cytundeb ar y gyllideb ar gyfer 2026-27, fod y sylfeini cadarnaf posibl yn cael eu gosod ar gyfer llywodraeth…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n benderfynol ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud i ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol mwy cydgysylltiedig, i leihau darnio ac i wella profiad y claf. Mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn, bob amser, i sicrhau cysondeb gofal ym mhob rhan o…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn ni'n ysgogi newid ar draws maes gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â phwysau a gwella mynediad at gymorth. Byddwn ni'n symud gofal yn agosach at adref, gan helpu pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach. Byddwn ni'n gwella gweithio cydgysylltiedig, yn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dyma'r cyfle cyntaf i ni fod â Llywodraeth Plaid Cymru, y cyfle cyntaf i ni roi ein hegwyddorion ar waith yn y Llywodraeth. Mae ymdrechu am y lefel uchaf bosibl o safonau addysg yn egwyddor graidd, yn ogystal ag yn bolisi, i fy mhlaid a'r Llywodraeth rwy'n ei…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gan yr Aelod fwy o wybodaeth na'r mwyafrif, o'i swydd flaenorol, am yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu ym maes addysg. Mae'n bwysig nodi, wrth gwrs, bod yr arian yn Lloegr er mwyn clirio dyledion hanesyddol. Nawr, nid fy lle i yw canmol y cyn-Weinidog…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch bod yr Aelod wedi defnyddio'r gair 'cenhadaeth'. Mae hon yn genhadaeth bersonol i ni—mae'n genhadaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi bod yn eglur bod addysg a safonau yn ein hysgolion yn flaenoriaeth bendant i Lywodraeth Plaid Cymru. Rydyn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae addysg yn ganolog i'n huchelgais ar gyfer Cymru, gan ddatgloi cyfleoedd i bob plentyn a helpu i greu cenedl fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol. Dyna pam mae codi safonau ym mhob ysgol yn genhadaeth graidd i'r Llywodraeth hon. Trwy ein cynllun…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch bod yr Aelod wedi mwynhau fy nghanu ym 1983. Pe bai'r camerâu wedi bod yn dilyn fy arddegau cyfan, bydden nhw wedi fy ngweld i'n astudio ffiseg ar gyfer TGAU a ffiseg ar gyfer Safon Uwch hefyd. Rwy'n cefnogi'r egwyddor o allu addysgu'r tair…