25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yn Wrecsam i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn ar Ffordd yr Wyddgrug. Mae ein huchelgeisiau cyffredin i ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig a theithio llesol a hwyluso pêl-droed…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, ac fel y dywed Russell George, mae’n broblem dda i’w chael, ond yn sicr, mae'n un y mae angen inni fod yn gweithio i’w datrys. Felly, mae'r eiddo y gallwn ei ddarparu a'i nodi yn rhan o'n cynnig economaidd i Gymru, gan…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy’n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma. Fel y mae'n cydnabod yn gywir ddigon, nid yw'n fater datganoledig, ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn fater nad yw Llywodraeth Cymru yn poeni amdano. Ac yn wir, yn ddiweddar…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae ein cynllun ar gyfer cefnogi’r economi ledled Cymru wedi’i nodi yn ein cenhadaeth economaidd, yn benodol i sicrhau pontio teg i economi werdd a chynhyrchiol, platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant, partneriaethau cryfach ar gyfer…
6 Awst 2024 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Eluned Morgan.
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Wynebu'r argyfwng: Mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru
Mae ein cynllun gweithredu rhoi diwedd ar ddigartrefedd, sy’n cynnwys camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc ym maes tai a chymorth, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lle mae gan bawb gartref diogel sy’n diwallu eu hanghenion ac sy'n cefnogi…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Wynebu'r argyfwng: Mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru
Diolch. Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma, ond hefyd i'r holl gyd-Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau fod atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26
Mae hynny'n garedig iawn; diolch. Hoffwn ddweud 'diolch' wrth gyd-Aelodau sydd wedi ymgysylltu â'r cwestiynau ynghylch arbedion ac effeithiolrwydd gwariant a defnyddio dulliau gweithredu eraill fel cynllunio. Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn ymyriadau pwysig…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26
Mae yna offer ar gael i Lywodraeth y DU wrth gwrs—er enghraifft, y cyhoeddiadau ynghylch pobl â statws byw tu allan i'r wlad, mewn perthynas â TAW ar gyfer ysgolion preifat. Dyma ychydig o feysydd lle mae wedi dweud y bydd yn gweithredu, ac fe welsoch chi…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw, a hoffwn ddiolch yn fawr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma, ac wrth gwrs hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymarfer ymgysylltu'r pwyllgor, sy'n…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r cyllid a ddarparwn ar gyfer tai yn gyfalaf, ac yn yr ystyr hwnnw mae'n cymryd cyfran lawer mwy o'r gyllideb gyfalaf. Ac mewn gwirionedd, mae ein hymrwymiad i dai cymdeithasol yn amlwg wedi'i ategu gan ein cyllid o dros £1.4…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Byddaf yn parhau i gael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio fel rhan o'n proses gyllidebol flynyddol, ac mae monitro rheolaidd hefyd yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r portffolio hwnnw. Er fy mod yn cydnabod yr…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Byddai angen i unrhyw benderfyniadau yn hynny o beth gael eu gwneud o fewn y prif grŵp gwariant penodol, ond gallaf ddweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i drafod ei gynigion, gyda fy nghyd-Aelod Lynne…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Yn ddiweddar, cytunais i ddyrannu £5 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i'r prif grŵp gwariant diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n gwybod y gellir comisiynu cwmnïau buddiannau cymunedol a busnesau eraill o fewn clystyrau gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaethau lleol i'r gymuned, ac rydym eisiau gweld mwy o fyrddau iechyd lleol a gwasanaethau llesiant yn cydweithio i ddarparu'r…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o'r broses gyllidebol flynyddol a'n gwaith monitro rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys trafodaethau ar baratoadau ar gyfer cyllideb ddrafft 2025-26, gan…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n credu mai un pwynt pwysig i'w wneud, er bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi cyfeirio at gyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru, yw na nodwyd unrhyw gyllid erioed ar gyfer hynny mewn gwirionedd, felly rwy'n credu ei bod yn…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wel, rydym yn gobeithio cael cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid cyn diwedd y mis hwn. Bydd yn cael ei gynnal yn Belfast y tro hwn, oherwydd un o gryfderau'r peirianwaith rhynglywodraethol o amgylch cyllid yw ein bod yn symud rhwng…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Cefais alwad ffôn adeiladol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ddydd Mercher diwethaf, ac yn ystod yr alwad honno fe wnaethom gyffwrdd â sawl pwnc, gan gynnwys cyllid teg i Gymru. Bydd cyfle i gael trafodaeth fwy sylweddol gyda'r Prif Ysgrifennydd yn y…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wel, hoffwn gywiro James Evans, oherwydd nid wyf yn credu fy mod erioed wedi defnyddio'r ymadrodd 'agor y tapiau' mewn perthynas â Llywodraeth newydd y DU pan ddaeth, o ran yr hyn y gallai hynny ei olygu i ni, ac ni fyddwn erioed wedi defnyddio'r ymadrodd…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru setliad cyllidebol y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol. Mae Canghellor y Trysorlys wedi dweud y bydd hi'n nodi manylion ynglŷn ag amseriad cyllideb y DU cyn toriad yr haf. Byddwn yn gwybod mwy am y rhagolygon…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n credu mai'r pwynt yma yw ein bod yn sôn am fusnesau sydd wedi'u lleoli yma yng Nghymru a phobl sy'n byw yma yng Nghymru, ac yng Nghymru, mae'r sylfaen drethu yn wahanol iawn. Felly, rydym yn wahanol iawn i Loegr o ran ein hardrethi annomestig. Mae…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, a hoffwn gydnabod cefnogaeth gyson Vikki Howells i dreth ar dir gwag, gan gydnabod ei bwysigrwydd i adfywio cymunedau. Rwy'n hoffi'r cyfeiriad at 'grot spots'—rwy'n credu y byddem yn bendant eisiau mynd i'r afael â'r…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Un o’n hegwyddorion allweddol o ran treth yw codi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl. Mae trethi datganoledig a lleol yn codi refeniw hanfodol sy’n cefnogi ac sydd o fudd i gymunedau ledled Cymru. Yn 2023-24, cododd y trethi hyn dros…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Roedd gennyf innau hefyd gryn ddiddordeb yng nghynnwys Araith y Brenin heddiw. Un o’r pethau a ddaliodd fy sylw, sy’n rhywbeth y bûm yn galw amdano, yw’r Bil cyfrifoldeb cyllidebol. Bydd hynny’n ei gwneud yn ofynnol i’r…