17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Un o’r camau cyntaf a gymerwyd gan y Canghellor oedd gofyn i Drysorlys EF ddarparu asesiad o gyllid cyhoeddus cyn toriad yr haf yn senedd y DU. Bydd hefyd yn cadarnhau ei chynlluniau cyllidol, gan gynnwys pennu dyddiad ar gyfer y gyllideb. Bydd y sicrwydd…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. O ran y rhyddhad ardrethi ychwanegol a ddarparwn i fusnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden, sef y rhyddhad penodol y cyfeirioch chi ato, ni fwriadwyd erioed iddo fod yn rhyddhad parhaol; fe’i cyflwynwyd yn ystod…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Felly, mae gennym becyn cymorth eang iawn i fusnesau. Rydym yn buddsoddi mwy na £0.33 biliwn eleni mewn cymorth i fusnesau mewn perthynas â'u hardrethi busnes. Byddaf yn edrych ar y canllawiau a ddarparwn i awdurdodau lleol ar gyfer cydnabod amgylchiadau…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rydym yn darparu gwerth £134 miliwn o gymorth ardrethi annomestig ychwanegol eleni, ar ben ein gwerth dros £250 miliwn o ryddhadau parhaol. Mae talwyr ardrethi ar gyfer bron i hanner yr eiddo, gan gynnwys miloedd o fusnesau bach, yn cael rhyddhad llawn. Pan…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn. Dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i’r cwestiwn blaenorol y byddwn yn fwy na pharod i drefnu briff technegol ar gyfer fy holl gyd-Aelodau mewn perthynas â'r ffigur HS2 er mwyn darparu rhywfaint o fanylion ynglŷn â'r ffigurau…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Mae'n debyg na fyddwn yn dadlau bod y £700 miliwn yn ddyledus i Gymru; byddwn yn defnyddio iaith wahanol i hynny, yn yr ystyr ei fod yn ganlyniad i chwyddiant ac mae chwyddiant wedi cael yr un effaith dros y ffin. Felly, o ran hynny, nid yw fel pe bai…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod y ffigur o £350 miliwn wedi'i grybwyll yn y dadleuon a gawsom. Credaf inni gael dadl benodol yn y Senedd mewn perthynas â HS2, ac yn y ddadl honno, esboniais y ffigur o £350 miliwn, ond wedyn, wrth i’r ddadl barhau, roeddem yn…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Lywydd, nid oedd yn fwriad gennyf i sarhau na phechu drwy beidio â chynnal y trafodaethau llawnach hynny gyda meinciau'r Ceidwadwyr ar faterion yn ymwneud â'r cyfansoddiad. Fe ymdrechaf i unioni hynny cyn gynted â phosibl.
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wel, dau bwynt o esboniad. Cafwyd y trafodaethau hynny gyda Phlaid Cymru mewn perthynas â’r trafodaethau a gawsom ynglŷn â'r gyllideb er mwyn hwyluso hynt cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rwyf wedi sôn o’r fan hon wrth y Senedd yn…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Gallaf, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Rwyf wedi cyfarfod â dau o gadeiryddion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ac wedi trafod ymateb Llywodraeth Cymru, yn enwedig i’r argymhellion a anelwyd at Lywodraeth Cymru, yn hytrach na…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wel, rydym yn sicr cydnabod y pwysau sydd ar y sector rheilffyrdd yma yng Nghymru, a dyna un o’r rhesymau, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, wrth ymateb i’r effeithiau ar chwyddiant, pam y gwnaethom gynnal yr ymarfer ar draws y Llywodraeth i ailflaenoriaethu…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth y DU i sicrhau tegwch o ran cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar draws ystod o feysydd. Mae penodi’r Arglwydd Hendy yn Weinidog rheilffyrdd yn gam cadarnhaol, o ystyried ei wybodaeth…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Ni fyddwn wedi cael unrhyw drafodaethau uniongyrchol gydag awdurdodau lleol neu randdeiliaid; bydd y trafodaethau hynny’n cael eu harwain gan y Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet bellach, dros addysg. Rwyf newydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â ble…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, a chefais drafodaeth gynnar iawn gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys, Darren Jones. Yn y trafodaethau hynny, tynnais sylw at gyflogau’r sector cyhoeddus fel un o’r materion pwysicaf a mwyaf arwyddocaol i ni yn…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Mae gweithlu ymroddedig a brwdfrydig yn hollbwysig er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i dalu setliadau teg sy’n gwobrwyo gweithwyr ond sy’n fforddiadwy o fewn ein cyllideb.
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth
Diolch, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ac yn falch iawn o'r cynnydd rydym wedi'i wneud wrth gyflawni ein rhaglen lywodraethu a'n rhaglen ddeddfwriaethol, er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol anodd. Er fy mod i'n…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth
Rydym ni i gyd wedi gorfod byw gyda'r anhrefn a achoswyd gan gamgymeriadau economaidd a chamreoli llywodraethau Torïaidd olynol y DU. Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn blaenoriaethu gweithwyr a busnesau Cymru ac yn gweithio i gefnogi economi gryfach sy'n…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd trydydd adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon, gan nodi'r cynnydd yr ydym ni'n parhau i'w wneud tuag at gyflawni ein rhaglen lywodraethu. Unwaith eto mae wedi bod yn flwyddyn llawn heriau a dewisiadau anodd. Rydym ni wedi…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
Diolch. Wrth gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'r partneriaid unwaith eto am eu cydweithio a'u cyfraniadau. Dyma'r Bil cyllid llywodraeth leol cyntaf i ni ei gael yng Nghymru ers datganoli, ac fe wn i fod llawer ohonom wedi ein cyffroi'n fawr iawn, iawn am…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn natblygiad a hynt y Bil drwy'r Senedd. Mae'r broses graffu ar gyfer y Bil wedi bod yn drylwyr ac yn heriol, fel y dylai fod, wrth gwrs. Diolch i Gadeiryddion, aelodau a…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi
Diolch. Mae gennyf orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin i gydnabod y Senedd fod Ei Fawrhydi, ar ôl cael gwybod am y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), wedi cydsynio i'r Bil hwn.
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Lle llawen i orffwys pawen—Darparu llety diogel i anifeiliaid anwes yng Nghymru
Diolch. A diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas am godi’r mater hwn, sydd mor bwysig i gymaint o bobl. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i ymateb ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i'r ddadl y prynhawn yma. Hoffwn gydnabod, i…
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid a phwerau datganoledig
Rydym wedi dweud yn glir iawn—ac rwy’n mynd i ddod at hyn—fod datganoli yn y meysydd hyn bob amser yn mynd i fod yn broses, ac rydym wedi nodi’r prif feysydd blaenoriaeth allweddol y byddwn yn edrych arnynt i gychwyn. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn hefyd wrth…
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid a phwerau datganoledig
Wrth gwrs.
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid a phwerau datganoledig
Diolch. Rwyf wrth fy modd gyda chanlyniadau'r etholiad cyffredinol a'r hyn y bydd yn ei olygu i bobl Cymru. Ar ôl 14 mlynedd hir o Lywodraeth Geidwadol y DU, sydd wedi gweithredu fel cystadleuydd ymosodol yn hytrach na phartner adeiladol, mae gennym gyfle…