Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i longyfarch y Prif Weinidog ar ei phenodiad ym mhleidlais y Senedd heddiw? Rwy'n ei llongyfarch ar yr araith honno hefyd a oedd wedi'i saernio'n ofalus, a oedd yn crynhoi llawer o'r meddyliau a'r teimladau y byddai llawer o bobl yn y Siambr hon yn eu harddel a hefyd am dynnu sylw at rôl y Dirprwy Brif Weinidog rydych chi wedi'i chreu ar gyfer Huw Irranca a'r profiad y mae'n ei ddwyn i fainc y Llywodraeth hefyd. Rwyf hefyd yn llongyfarch y darpar Brif Weinidog am fod, yn amlwg, y fenyw gyntaf i ddal y swydd honno. Mae honno'n foment arwyddocaol yn ein hanes gwleidyddol, ac mae'n rhywbeth y dylid ei barchu a'i gydnabod yn briodol, oherwydd pan oeddwn yn siarad â fy merched i y bore yma, gwnaethant yr union bwynt sef bydd bod â menyw yn Brif Weinidog yng nghanol y Siambr honno yn creu deinameg wahanol yn y Senedd, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem yn amlwg fyfyrio arno a'i werthfawrogi hefyd. Ac rwy'n eich llongyfarch ar gyflawni hynny ac, yn y pen draw, dros y 18 mis nesaf tan etholiad y Senedd, yr hyn y gallech ei gyflawni. Yn amlwg, bydd yr etholwyr yn cael cyfle i siarad yn yr etholiad hwnnw, ac o ystyried y fasged 'i mewn' y bydd gennych chi—y fasged 'i mewn' sylweddol iawn o restrau aros y GIG, canlyniadau addysg Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, a'r sefyllfa economaidd yr ydym yn cael ein hunain ynddi, gyda Tata ac economi farwaidd Cymru—yna, yn amlwg, mae'r rheini'n faterion mawr i chi fynd i'r afael â nhw gyda'ch Cabinet.
Rydym yng nghanol toriad, yn amlwg, felly bydd hi'n anodd i ni yn ystod yr wythnosau nesaf herio a gwneud pwyntiau, ond rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn ymgysylltu â'r Senedd drwy'r toriad, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn deall y brys y bydd hi'n ei ddwyn i swyddogaeth y Prif Weinidog, oherwydd chi yw'r trydydd Prif Weinidog eleni, ac mae hynny'n amlwg wedi cael effaith ddeifiol iawn ar gyflawniadau'r Llywodraeth ac wrth gyflawni mentrau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyflwyno yma yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig ceisio deall, o ran y cyfeiriad y bydd y Prif Weinidog yn ei ddilyn gyda'i Llywodraeth newydd, pa bolisïau sy'n debygol o gael eu cyflwyno eto gan y Llywodraeth honno, beth fydd yn cael eu hatgyfodi o'r Llywodraeth flaenorol o dan y Prif Weinidog blaenorol tybed, oherwydd cafodd tri pheth arwyddocaol eu gwthio o'r neilltu yn y cyfnod hwnnw: ailbrisio'r dreth gyngor, y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn amlwg, roedd materion yn ymwneud ag iechyd ac addysg a'r economi a oedd yn dod yn gyson i lawr y Siambr hon yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Byddwn i'n awyddus iawn i ddeall yr egni y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd hi'n gallu ei gyflwyno o gadair y Prif Weinidog, yr egni yr oedd hi'n credu nad oedd yn bosibl o'r gadair iechyd wrth fynd i'r afael â'r materion dwfn hynny o fewn ein gwasanaeth iechyd, oherwydd mae llawer o bobl yng Nghymru wedi'u siomi'n greulon gan yr oedi hwnnw, ac rwy'n siŵr ei bod hi'n teimlo hynny'n bersonol, oherwydd ei bod wedi cael y sgyrsiau hynny gyda meddygon a chleifion a theuluoedd ar hyd a lled Cymru. Ond rwy'n gobeithio'n fawr bydd yr araith grefftus a chelfydd ei saernïaeth honno a roesoch chi—araith glyfar iawn—yn cael ei throsi i gyflawniad y Llywodraeth. Ac rwy'n edrych ymlaen, lle y gallwn ni, at weithio gyda chi ac yn y pen draw i gyflawni dros Gymru, oherwydd mae Cymru'n wlad sydd â dyfodol gwych o'i blaen yn y pen draw, gyda llawer iawn o botensial, a'r gallu hwnnw i fanteisio ar y potensial hwnnw a chynnig y cyfle hwnnw i bobl ifanc a phobl ganol oed a phobl hŷn sy'n gwella Cymru gyfan ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein potensial yn llawn.
Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi, Brif Weinidog, ac yn y pen draw, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr hon, y byddwch chi a minnau'n dadlau, a byddaf yn gofyn llawer o gwestiynau yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Rwy'n credu mai chi fydd y pedwerydd Prif Weinidog a fydd yn gorfod gwrando ar y rheini. Mae'n debyg bod hynny'n adlewyrchu, efallai, fy methiant etholiadol mewn etholiadau yn hytrach na'ch gallu chi i ateb y cwestiynau hynny. [Chwerthin.] Ond nodais fod y darpar Ddirprwy Brif Weinidog ychydig yn aflonydd yn ei gadair pan oeddech yn sôn am y dynion mewn siwtiau llwyd yn symud i un ochr, ac fe wnes i edrych yn fanwl iawn i weld a oedd hi'n siwt lwyd, ond rwy'n credu bod ychydig o las yna. [Chwerthin.] Ond, unwaith eto, penodiad arwyddocaol arall i swydd y Dirprwy Brif Weinidog, ac fel rhywun a oedd yma yn y cyfnod rhwng 2007 a 2011, byddai'n ddiddorol iawn ceisio deall sut y bydd hynny'n gweithio o fewn lluniad y Llywodraeth y byddwch yn bwriadu ei chreu yma ym Mae Caerdydd. A yw'n deitl neu a yw'n mynd i fod yn ychwanegiad sylweddol at gapasiti'r Llywodraeth a swyddogaeth y Llywodraeth yma yng Nghymru? Ond llongyfarchiadau; rwy'n dymuno'n dda i chi. [Cymeradwyaeth.]