28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Sam Rowlands am hynna ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae'n ei wneud, ac nid addysg uwch yn unig, ond addysg bellach hefyd, ac mae'r gogledd yn arbennig o wyn ei byd, rwy'n credu, o ran ansawdd yr addysg bellach sy'n cael ei darparu…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn cyfres o gyfarfodydd â chyflogwyr mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys yn y gogledd. Ac nid prinder gwaith yw'r stori allan yna, fel y gwyddoch, erbyn hyn, ond prinder…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bywiogrwydd parhaus yr economi yn y gogledd-ddwyrain yw'r cymorth gorau un i bobl ifanc sy'n dechrau gweithio yn etholaeth yr Aelod. I'r rhai ymhellach o'r farchnad lafur, mae'r warant i bobl ifanc yn cynnig amrywiaeth o gymorth i baratoi pobl ifanc…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Er mwyn ei roi yn ei gyd-destun am eiliad, derbyniodd Cymru 22 y cant o ddyraniad DU yr Undeb Ewropeaidd o'r rownd olaf o gronfeydd strwythurol—22 y cant. Cawsom ni 10 y cant o'r gronfa ffyniant bro. Cofiwch, Llywydd—cofiwch—nid oeddem ni i…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, dim ond i wneud yn siŵr bod hyn ar y cofnod yn gywir, mae'r swm o arian sydd ar gael i Gymru gyfan o'r gronfa ffyniant bro yn llai na'r arian sydd ar gael i dde-ddwyrain Lloegr. Nawr, a ddylen ni synnu at hynny? Wel, nid ydw i'n credu y bydden…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae ansefydlogrwydd Llywodraeth y DU a newidiadau gweinidogol aml yn y DU wedi'i gwneud hi'n anodd ffurfio cysylltiadau dibynadwy a chynhyrchiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni'n parhau i bwyso am weithredu'r peirianwaith cysylltiadau…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth; rwy'n credu ei fod yn ddatganiad o ffaith y bydd safonau byw yn disgyn yn y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf, i raddau nad ydym ni erioed wedi'u gweld o'r blaen. Llywydd, rwy'n credu bod…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys yng Ngorllewin Casnewydd, yn wynebu'r cwymp mwyaf a mwyaf serth mewn safonau byw y cafodd eu cofnodi erioed. Y flwyddyn ariannol hon, byddwn ni'n gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi'i dargedu a rhaglenni…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae'r rheiny wir yn bwyntiau pwysig iawn y gwnaeth Huw Irranca-Davies y prynhawn yma. Y gobaith gorau sydd gennym ni o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn camu'n ôl o'r dibyn y mae wedi'i greu ei hun yw y bydd yn gwrando, nid yn unig ar leisiau yma…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio ei rhaglen ddeddfwriaethol mewn ffyrdd sy'n diystyru confensiwn Sewel ac yn tanseilio'r setliad datganoli yn llechwraidd. O'r Biliau presennol, mae'r Bil Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) mympwyol ac…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rŷn ni wedi bod ar ôl hanes gwasanaethau fasgiwlar yn y gogledd yn fwy nag unwaith ar lawr y Senedd. Dwi ddim yn cytuno, dydy’r bwrdd iechyd ddim yn cytuno a dydy’r colegau brenhinol ddim yn cytuno gyda beth mae'r Aelod wedi awgrymu dros y…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn, Llywydd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd sawl adroddiad yn helpu’r bwrdd gyda’r gwaith angenrheidiol o wella’r gwasanaeth fasgiwlar i gleifion yn Arfon. Bydd hynny'n cynnwys yr ail-arolygiad diweddar o’r gwasanaeth gan…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n dechrau drwy dalu teyrnged i'r gwaith sy'n digwydd ym Mrynawel—prosiect sy'n uno pobl ar draws y Siambr hon yn y gwaith sydd wedi'i fuddsoddi i'w wneud yn llwyddiant. Mae'r dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio yng Nghymru yn ddull lleihau…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod. Mae'n iawn i ddweud bod marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau yn y flwyddyn ddiwethaf y mae'r ffigurau ar gael ar ei chyfer wedi cynyddu yng Nghymru, fel y gwnaethon nhw ym mhob rhan o'r…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo pobl sydd â phroblemau defnyddio cyffuriau ac alcohol. Rydym ni'n buddsoddi bron i £64 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau yn y flwyddyn ariannol hon, a bydd hynny'n cynyddu i bron i £67 miliwn yn 2023-24.
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn cytuno ynghylch pwysigrwydd ynni cymunedol lleol. Yn y datganiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma, rwy'n rhagweld y bydd ganddi rywbeth i'w ddweud am dargedau newydd a mwy uchelgeisiol yn y rhan honno o'r hyn rydyn…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gennym ni gynllun morol. Cyhoeddwyd cynllun morol cyntaf Cymru ym mis Tachwedd 2019 a gosodwyd yr adolygiad tair blynedd gyntaf o'r cynllun hwnnw gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd. Felly, nid wyf i'n hollol siŵr beth mae'r Aelod yn gofyn amdano pan fo'r…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Polisi'r Llywodraeth yw cael Ystâd y Goron wedi ei ddatganoli i ni yma yng Nghymru. Rŷm ni wedi cael mwy nag un sgwrs gydag Ystâd y Goron ac rŷm ni wedi rhoi yr un syniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Fel dwi'n gwybod y bydd Llyr Gruffydd yn gwybod…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yr wythnos diwethaf cafodd les gwely'r môr ei dyfarnu i'r prosiect Mona, ac mae hynny’n garreg filltir. Os bydd yr amodau'n iawn, bydd modd denu buddsoddiad mawr o’r sector preifat i greu dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru.
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, mae llawer o bobl yn y gwasanaeth iechyd yn gweithio llai nag wythnos pum diwrnod. Mae'n rhan o natur newidiol y ffordd y mae pobl sydd yn y swyddi hynny lle ceir pwysau mawr yn dewis gwneud eu dyfodol eu hunain. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, cyhoeddwyd ffigurau yr wythnos diwethaf ar berfformiad yn GIG Cymru. Dyma'r gwasanaeth argyfwng a ddisgrifiodd yr Aelod: gostyngodd yr holl arosiadau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ym mis Tachwedd. Gostyngodd cyfanswm y bobl a oedd yn aros…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwyf wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau yr wyf i wedi dweud yn y Siambr hon bod y GIG yng Nghymru o dan bwysau aruthrol ac nad yw'n gallu gwneud yr holl bethau yr hoffem iddo eu gwneud yn y ffordd yr hoffem iddo eu gwneud nhw. Os yw…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r cyllidebau cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gostwng bob blwyddyn; maen nhw 8 y cant yn is y flwyddyn nesaf nag y maen nhw eleni. O ble mae'r Aelod yn meddwl y mae'r arian yn dod i wneud y pethau y mae'n eu hawgrymu? Nid yn unig hynny, ond nid…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gadewch i mi ddechrau am eiliad, Llywydd, drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid wrth agor yr ail gwestiwn hwn, sef fy mod i'n credu fod swyddogaeth bosibl i un o bwyllgorau'r Senedd o ran helpu i sicrhau llwybr i URC at well dyfodol trwy…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r safbwyntiau y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid wrth orffen ei gwestiwn. Cynhaliwyd y cyfarfod rhwng Dawn Bowden ac Undeb Rygbi Cymru brynhawn ddoe. Yn y cyfarfod hwnnw, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ei gwneud yn eglur i Undeb…