7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Jenny Rathbone am hynna. Rwy'n sicr yn rhannu ei brwdfrydedd ynghylch gwaith bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ar eu safle yn Llandochau, o ran defnyddio'r tir sydd ganddyn nhw ar gael yno ar gyfer mentrau llesiant. Mae'r ffrwyth sy'n cael ei…
7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna. Llywydd, mae gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn parhau i fwrw ymlaen ag egwyddorion gofal iechyd darbodus atal salwch, partneriaeth ar y cyd â chleifion ar y daith i welliant, ac arallgyfeirio'r gweithlu fel bod…
7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, y ffaith ei fod mor siriol sy'n ei gadw i fynd, Llywydd—yn sicr nid cywirdeb ei afael ar y ffeithiau sy'n gwneud hynny. Mewn rhai ffyrdd, llwyddodd yr Aelod i ateb ei gwestiwn ei hun, yn y pen draw, drwy dynnu sylw at y ffaith mai'r rheswm pam mae…
7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna, ac am dynnu sylw at y datblygiad pwysig iawn hwnnw yn ardal Rhondda Cynon Taf. A Llywydd, mae'n enghraifft wirioneddol, rwy'n meddwl, o'r dull partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru ar waith. Cafodd y tri…
7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cyfres o raglenni cenedlaethol yn cynorthwyo'r bwrdd iechyd i ddarparu gwell mynediad at ei wasanaethau. Mae'r rhaglenni hyn yn cynnig y cyngor clinigol diweddaraf a mynediad at yr arferion gorau diweddaraf fel…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, aeth plaid yr Aelod at bobl Cymru yn etholiad diwethaf y Senedd yn addo'r rhaglen adeiladu ffyrdd fwyaf erioed yn hanes Cymru, a gwrthodwyd y cynnig hwnnw yn bendant gan bobl Cymru. Wrth gwrs, gall yr Aelod barhau i roi'r peth y mae pobl wedi ei…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig unioni'r cofnod yma: cyllid brys oedd ef, fel dywedodd yr Aelod. Ac ni ellir ymestyn cyllid brys am gyfnod amhenodol y tu hwnt i'r pwynt lle arweiniodd y sefyllfa frys at y miliynau ar filiynau o bunnau y mae…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, gweithredu cynigion comisiwn Burns sy'n darparu'r ffordd fwyaf effeithiol o hyrwyddo teithio cynaliadwy. Mae'r cyhoeddiad y mis hwn yn adroddiad blynyddol uned gyflawni Burns yn nodi'r cynnydd go iawn a wnaed eisoes, a chynlluniau ar gyfer y dyfodol…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Jane Dodds am hynna, ac wrth gwrs rwy'n cytuno gyda'r gosodiad sylfaenol y mae hi wedi ei gyflwyno y byddai croeso mawr i fuddsoddiad pellach ar draws y Deyrnas Unedig mewn gwasanaethau deintyddol. Ni osododd Llywodraeth Cymru derfyn fforddiadwyedd…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i James Evans am hynna, Llywydd. Bydd yr Aelodau yn gwybod yn wreiddiol ar y papur trefn heddiw bod datganiad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau ym maes gwasanaethau deintyddol yng Nghymru, ac un o'r pethau y byddai wedi eu hadrodd i'r Senedd oedd…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'n rhaid i atal nid ymyrryd fod y nod i ofal deintyddol o ansawdd da i blant. Mae'r Cynllun Gwên yn gweithredu'n llawn eto bellach, ac mae bron i 240,000 o blant wedi cael eu trin mewn gwasanaethau deintyddol cyffredinol ers mis Ebrill 2022. O'r…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn ychwanegol. Dwi'n cytuno, wrth gwrs: siomedig oedd e fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn fodlon cefnogi'r cais roedd Cyngor Gwynedd wedi'i roi i mewn. Llywydd, fe ges i'r cyfle nôl ym mis Ionawr…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr, Llywydd, i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Roedd y ganolfan yn rhan o gais Cyngor Gwynedd i gronfa ffyniant bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig; doedd y cais ddim yn llwyddiannus. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn helpu partneriaid lleol i…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, a'r Senedd, wedi mabwysiadu dull rhagofalus o ymdrin â'r mater o addasu planhigion yn enetig erioed; rwy'n credu ein bod ni'n iawn i wneud hynny. Rwy'n credu pe gallem ni fod yn sicr y byddai'n…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn.
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Mike Hedges am y cwestiwn pellach yna. Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn sy'n haeddu cael eu trafod yn gyhoeddus yn fwy trylwyr a rheolaidd. Mae newyddion da, rwy'n credu, yn yr ymateb iddo: mae'r nodyn sydd gen i yn dweud wrthyf…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, ein polisi yw lleihau, i'r lefel isaf bosibl, effaith plaladdwyr ar bobl, bywyd gwyllt, planhigion a'r amgylchedd ehangach. Bu gostyngiad cyson yn y defnydd o blaladdwyr amaethyddol yng Nghymru dros y cyfnod datganoli, ond mae mwy y gallwn ni, ac y…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, cyhoeddwyd adroddiad y King's Fund ym mis Tachwedd 2022, nid ym mis Tachwedd 2020, pan wnaed y penderfyniad. Rwy'n cynghori'r Aelod i ddarllen yr hyn a ddywedwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain ar 6 Rhagfyr, pan wnaethon nhw ddweud mai problem…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, o ystyried ei gyfraniad hyd yn hyn y prynhawn yma, rwy'n credu y bydd yr Aelod yn dymuno myfyrio ar ei ddefnydd o'r gair 'gwamal' yng nghyswllt cyfraniadau unrhyw un arall. Gadewch i mi ddweud wrtho nawr fy mod i'n gwrthod yn llwyr yr hyn yr wyf i'n ei…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, cymerodd y Gweinidog iechyd Llafur gyfrifoldeb ddoe, a cheir 60 munud i'r Aelodau ofyn cwestiynau i'r Gweinidog yn ddiweddarach y prynhawn yma.
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, y cam cyntaf yw penodi nifer fach o unigolion i gyflawni'r swyddogaethau cyfreithiol ac i sefydlogi'r sefydliad. Rydych chi'n gwybod bod cadeirydd wedi ei benodi a bydd tri aelod arall ochr yn ochr â'r cadeirydd, a'u gwaith yn y tymor byr yw…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n deall nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, a'r hyn yr wyf i'n credu y mae angen iddo ei wneud yw caniatáu i'r stori barhau i ddatblygu. Yr hyn a welsoch chi ddoe oedd y gyfres gyntaf o fesurau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd. Ceir…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, nid wyf i'n credu, fy hun, Llywydd, y gallai fod wedi bod yn syndod i unrhyw un a oedd yn weddol gyfarwydd â gweithrediad y bwrdd. Rwy'n edrych nawr ar y llythyr a anfonwyd gan Janet Finch-Saunders, aelod o grŵp arweinydd yr wrthblaid ei hun, at y…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Gareth Davies am y cwestiynau pellach yna. Rwy'n cytuno ag ef—yn sicr nid yw'n fater o ddadlau gwleidyddol bod angen diwallu anghenion y trigolion lleol hynny. Fel rheol, Llywydd, mae'r gronfa ffyrdd cydnerth yn cymryd ceisiadau gan…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, gallaf gadarnhau bod y cyngor wedi gwneud cais am gyllid trwy ein cronfa ffyrdd cydnerth i gynorthwyo gydag ailosod y bont.