15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone. Wrth gwrs, mae ein huchelgais ar gyfer cartrefi di-garbon yn ymestyn y tu hwnt i gartrefi'r sector cyhoeddus a fydd yn cael eu hadeiladu yn ystod tymor y Senedd hon. Un o'r rhesymau dros roi tai ochr yn ochr â…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Dirprwy Lywydd, dwi'n cytuno â'r Aelod. Wrth gwrs, bydd rhaid i ni gymryd yr amser i weithio ar adroddiad y comisiwn a nifer o bethau eraill rŷn ni eisiau eu gwneud, a bydd y Ddeddf ar y rhestr o bethau rŷn ni eisiau eu gwneud yn ystod y tymor hwn, pan fydd…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, rwy'n diolch i Vikki Howells am y cwestiynau penodol iawn hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r awdurdodau lleol hynny sydd wedi camu ymlaen i gynnig ein cynorthwyo ni gyda chynllun treialu incwm sylfaenol, gan gynnig ei wneud yn eu hardaloedd eu hunain. Fel y…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, Aelod dewr o'r Blaid Geidwadol sy'n penderfynu codi buddiannau ffermwyr ar lawr y Senedd y prynhawn yma, pan fo eu Llywodraeth nhw newydd lofnodi cytundeb masnach gydag Awstralia a fydd yn niweidio ffermwyr yng Nghymru heb unrhyw amheuaeth o gwbl…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Diolch yn fawr i Alun Davies am beth ddywedodd e am y ddogfen. Os rŷm ni'n mynd i fod yn radical, yn fy marn i roedd hi'n bwysig i ddod â'r ddogfen o flaen y Senedd cyn gynted ag yr oedd yn bosib i wneud hynny. Pan ŷm ni'n ei wneud e fel yna, fel yr esboniais…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, wrth gwrs rydw i'n cytuno â beth ddywedodd Siân Gwenllian ar y diwedd am yr effaith mae COVID wedi'i chael. Mae'r Llywodraeth hon yn awyddus dros ben i wneud popeth y gallwn ni wneud i helpu'r plentyn i ddod dros y pandemig. Dyna pam rŷm ni wedi…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiynau yna, Llywydd. Fe gadeiriais i gyfarfod o fwrdd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru lle cytunwyd, gyda chalon drom iawn, na allem ddatblygu'r Bil diwygio bysiau ym mlwyddyn olaf tymor diwethaf y Senedd, a hynny…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Nid yw'r strategaeth ryngwladol yn rhan o'r rhaglen lywodraethu, a'r rheswm am hynny yw ei fod yn ddarn o waith sy'n parhau ers tymor diwethaf y Senedd. Fe benderfynais wrth ffurfio'r Llywodraeth newydd mai swyddfa'r…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Wel, Llywydd, rwy'n diolch i Rhianon Passmore am hynny. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n cydnabod bod newid hinsawdd wrth galon y Llywodraeth hon, a'n bod ni wedi creu gweinyddiaeth a Gweinidog i ddwyn ynghyd yr edafedd amrywiol sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud y…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, roedd yn bron 18 mis i mewn i dymor diwethaf y Senedd, rwy'n credu, cyn i'r Llywodraeth gyhoeddi ei rhaglen lywodraethu, ac roedd honno'n ddogfen fanwl dros ben; roedd ynddi'r holl sioe, y nodau a'r targedau, ac ati, y gallai ef fod yn chwilio…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am beth ddywedodd e ar ddechrau beth roedd e wedi ei ddweud am y posibiliadau o gydweithio ar nifer o bethau sydd yn y rhaglen lle mae'r syniadau sydd gyda ni yn syniadau o'r un fath ac yn yr un maes ag a…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Soniodd yr Aelod am 1,800 o diwtoriaid: mae 1,000 ohonyn nhw wedi cael eu recriwtio eisoes gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r cyllid a ddarparwyd gennym ni'n gynharach y llynedd, pan wnaethom ddarparu cyllid pellach. Mae cydweithwyr mewn awdurdodau lleol…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau manwl hynny. Fe wnaf i fy ngorau glas i ateb cymaint ohonyn nhw ag y gallaf mor gyflym ag y gallaf. Mae'r 12,000 o staff ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, yn ymrwymiad o bum mlynedd gan fod y…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Felly, mae ein rhaglen lywodraethu ni, yn bennaf oll, yn ymwneud ag adferiad o'r pandemig, o ran sicrhau y gall ein GIG ni ofalu am bawb sydd angen ei gymorth, yn enwedig pawb sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl a phoen am gyfnod maith. Mae'n…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, fe luniwyd y rhaglen lywodraethu hon o amgylch yr amcanion llesiant hynny; cyfres o amcanion a fwriadwyd i wneud y mwyaf o'n cyfraniad ni at y nodau o ran llesiant a chyflawni camau gweithredu dros dymor y Llywodraeth hon a fydd yn waddol cadarn i…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Llywydd, diolch yn fawr. Heddiw, llai na chwe wythnos ar ôl yr etholiad, mae rhaglen lywodraethu'r Llywodraeth Lafur Cymru newydd hon wedi’i chyhoeddi. Mae’n gynllun uchelgeisiol a radical sy’n cyflawni’r addewidion maniffesto a wnaethom ni yn ystod yr…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae'n gwbl gywir, wrth gwrs, wrth ddweud bod y ffigurau a gyhoeddir yn farwolaethau 'achos uniongyrchol alcohol', ac mae'r broblem o gamddefnyddio alcohol yn un llawer ehangach na hynny. O ran y pwynt penodol olaf…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i Dr Hussain am y cwestiwn yna, Llywydd? Er gwaethaf amrywiadau, mae marwolaethau yn ymwneud ag alcohol yn benodol wedi aros yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ffigurau rhagarweiniol yn awgrymu cynnydd i'r niferoedd yn 2020…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mae cerddwyr bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd ar 30 mya o'i gymharu â thraffig yn symud ar 20 mya, felly mae lleihau cyflymder yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau. Ac mae hynny yn…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ar ôl cwblhau'r gweithdrefnau statudol angenrheidiol, bwriedir cyflwyno terfyn diofyn o 20 mya yn genedlaethol ym mis Ebrill 2023.
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, hoffwn ddechrau trwy gytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am ymrwymiad diflino aelodau staff mewn awdurdodau lleol ledled Cymru yn ystod y pandemig, ac, yn wir, arweinyddiaeth y cynghorau hynny. Drwy gydol y pandemig, byddwn wedi cyfarfod ag…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae arwyddocâd y rhan sy'n cael ei chwarae gan lywodraeth leol wedi cael sylw cwbl briodol yn ystod y pandemig. Mae partneriaeth Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, busnesau preifat a'r trydydd sector wedi bod yn ganolog i'n hymdrechion cyfunol i…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, byddai o gymorth pe byddai cwestiwn yr Aelod yn seiliedig ar ddim ond ychydig o ffeithiau syml, oni fyddai? Lol yw dweud bod biliau'r dreth gyngor yng Nghymru yn uwch nag y maen nhw yn Lloegr. Mae'r dreth gyngor band D gyfartalog yng Nghymru £167 y…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, £1,731 yw'r dreth gyngor band D gyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2021-22. Rhoddir yr hyblygrwydd i awdurdodau lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru bennu eu cyllidebau blynyddol a lefelau'r dreth gyngor er mwyn adlewyrchu eu…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr unwaith eto i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn, a dwi'n cytuno â fe: mae'n un peth i'r Llywodraeth wneud pethau—y Llywodraeth fan hyn, neu awdurdodau lleol—ac mae lot o bethau rŷn ni yn gallu eu gwneud, ac mae yna lot o bethau rŷn ni'n mynd i'w…