22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y gwaith sydd eisoes ar y gweill—gwaith mawr, Llywydd—£13 miliwn o fuddsoddiad yng nghanol tref Castell-nedd, a £5.5 miliwn o hwnnw wedi ei ddarparu gan Lywodraeth…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y gwahanol ffynonellau cymorth ar gyfer ailddatblygu canol trefi yng Ngorllewin De Cymru, bydd y cynllun grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi, a lansiwyd ym mis Ebrill eleni, yn cynnig manteision i drefi…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies, Llywydd, a dwi'n cytuno gyda fe; y ffordd orau i dynnu mwy o blant i mewn i ysgolion Cymraeg yw trwy ddechrau gyda phlant mewn gofal. So, unrhyw beth ni'n gallu ei wneud i roi mwy o gyfleusterau i groesawu plant bach i…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi'n gwybod, wrth gwrs, dros Gymru i gyd, bod nifer fawr o blant sy'n dod o deulu di-Gymraeg yn mynychu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a dwi'n croesawu hynny. Mae'n rhan bwysig o'r cynlluniau sydd gyda ni. Yma yng Nghaerdydd, mae wyth o bob 10 o blant sy'n…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn. Dwi'n ymwybodol o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi achos dwi wedi cael cyfle i siarad yn barod gyda'r Aelod lleol dros Pen-y-bont ac am ddyfodol addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal yna. Ym mhob cwr o Gymru, mae pob Aelod fan…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae gosod y sylfeini i ehangu mynediad at addysg Gymraeg yn ymgyrch tymor hir. Rydyn ni’n torri tir newydd gyda’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i Ken Skates am hynna, ac am dynnu sylw at gryfderau'r economi yn y gogledd, gyda'i lefelau cyflogaeth uchaf erioed, ac fel y bydd yr Aelodau wedi ei weld, gyda'r ffigurau mewnfuddsoddi uniongyrchol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cryfder parhaus yr…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nawr yw'r amser i'r Llywodraeth a etholwyd gan bobl Cymru gyflawni'r maniffesto y cawsom ein hethol arno. Roedd y cynnig i archwilio treth dwristiaeth yno yn llwyr ac yn bendant yn ein maniffesto ac fe'i trafodwyd yn ystod ymgyrch yr etholiad. Fe wnaeth pobl…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys y rhai hynny, wrth gwrs, ar gyfer y gogledd, fel y'u nodir yn ein rhaglen lywodraethu sydd newydd ei chyhoeddi.
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Mike Hedges am hynna. Mae'r traddodiad yn ysgol Glyncollen o ymgyrchu ar y materion hyn yn un real iawn. Rwy'n cofio cwestiwn ar lawr y Senedd hon am y gwaith yr oedd disgyblion yr ysgol yn ei wneud i sicrhau bod llaeth yn cael ei gyflenwi i'r ysgol…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am dynnu sylw at y cynllun treialu sy'n digwydd mewn tua 500 o gartrefi yn ei hetholaeth hi ei hun, a fydd yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i'n dealltwriaeth o sut y gellid bwrw ymlaen â'r cynllun dychwelyd…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd, a chafodd y model a ffefrir gennym ei nodi yn yr ymgynghoriad diweddar. Ochr yn ochr â'r gwaith o adolygu'r…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n falch o glywed bod atgyfeiriadau wedi gwella. Mae hynny'n newyddion da, ac mae'n rhan o adferiad cyffredinol atgyfeiriadau i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn ystod misoedd cyntaf eleni, o'i gymharu â'r cyfnod yn syth ar ôl yr argyfwng ym…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf i yn credu, Llywydd, nad yw'r Aelod yn rhoi clod priodol i'r datblygiadau a wnaed yn y gwasanaeth CAMHS yn y ddwy flynedd cyn dechrau'r pandemig coronafeirws, oherwydd fe wnaeth y ffigurau wella, ac fe wnaethon nhw wella'n sylweddol ledled Cymru. Roedd y…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, i ddechrau, dwi'n cydnabod, wrth gwrs, yr effaith mae coronafeirws wedi'i gael ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Bob tro dwi'n cwrdd â phobl ifanc, trwy'r Senedd Ieuenctid, er enghraifft, mae hwnna'n rhywbeth maen nhw'n codi bob tro rydym ni'n siarad â…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, wel, yn gyntaf, wrth gwrs, llongyfarchiadau i dîm Cymru ar lwyddo i fynd ymlaen i gamau nesaf y bencampwriaeth a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw ddydd Sadwrn pan fyddan nhw'n wynebu Denmarc yn yr Iseldiroedd. Nid yw cyngor Llywodraeth Cymru wedi…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n sicr yn cytuno ag Andrew R.T. Davies, Llywydd, am y gwaith pwysig y mae'r trydydd sector wedi ei wneud yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae wedi cael cymorth cryf gan gronfa benodol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei darparu ac y mae'r trydydd sector…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwyf innau hefyd wedi cael y fraint—ac mae hi'n fraint—yn y gorffennol o ymweld â Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, ac i weld drosof fy hun y gwaith syfrdanol y maen nhw'n ei wneud ac ymrwymiad y bobl sy'n gweithio yno. Mae'r fformiwla yr ydym ni'n ei…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y ddau bwynt pwysig yna. Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, bod llawer iawn o gymorth eisoes wedi ei ddarparu i fusnesau yma yng Nghymru. Yn sir Benfro yn unig, mae bron i 7,000 o grantiau wedi eu talu am swm o filiynau…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Paul Davies am y cwestiwn. A dwi'n cytuno bod argyfwng coronafeirws wedi cael effaith fawr ar fusnesau bach ym maes teithio, ac mae hynny'n mynd i barhau am y misoedd sydd i ddod. So, roedd y Gweinidog dros yr Economi wedi cyhoeddi pecyn o…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Paul Davies am y cwestiwn. Llywydd, ymdrin yn effeithiol â bygythiad y coronafeirws yw’r prif ffordd rydym yn cefnogi’r economi ym Mhreseli Sir Benfro o hyd. Bydd hynny’n galluogi busnesau yn yr etholaeth i fanteisio ar yr holl fuddsoddiadau…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae Delyth Jewell yn iawn wrth ddweud yr adroddir am unigrwydd yn rheolaidd gan boblogaethau ledled y Deyrnas Unedig a bod hynny yn un o effeithiau coronafeirws, nid yn unig yn arolwg y Groes Goch ond yn yr arolygon pythefnos yr ydym ni'n cymryd rhan…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ie, Llywydd. Polisi Llywodraeth Cymru o hyd yw mai atebion i Gymru sy'n berthnasol i bob rhan o Gymru yw'r ffordd orau o ymdrin â chyflwr presennol y feirws. Mae'r Aelod yn gywir, fodd bynnag, i dynnu sylw at y gwahaniaethau rhanbarthol hynny. Mae'n amlwg…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Wel, mae'n wir, am resymau technegol sy'n ymwneud yn bennaf ag ad-drefnu'r ateb yn Lloegr i fodloni gofynion Cymru, nad oedd yn bosibl lansio'r ap yng Nghymru ar yr un pryd ag y cafodd ei lansio yn GIG Lloegr. Nid wyf i'n cytuno bod yr ateb…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn yna. Mae cyfyngiadau yn y de-ddwyrain yn parhau i adlewyrchu cyflwr yr her iechyd cyhoeddus yn sgil y coronafeirws. Yr amrywiolyn delta yw'r ffurf amlycaf bellach ar draws y de-ddwyrain. Tasg yr wythnosau i ddod fydd…