16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd. Rwyf i hefyd yn croesawu penderfyniad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys i fod yn gyflogwr achrededig, ac mae Rhys ab Owen yn iawn i dynnu sylw at lwyddiant…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n dychmygu bod yr Aelod yn gefnogwr cryfach o lawer o economi'r farchnad nag y byddwn i, ond mae'n ymddangos ei fod yn barod i ymyrryd ynddo pan fydd yn credu bod hynny o fantais iddo. Roeddwn i'n falch, Llywydd, o weld bod chwe chwmni gofal wedi…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Mike Hedges am hynna. Mae'n uchelgais yr amlinellodd yr wyf i'n sicr yn ei rannu, a, Llywydd, y newyddion da oedd bod cam mwy ymlaen o ran nifer y cyflogwyr a gafodd eu hachredu fel rhai a oedd yn talu'r cyflog byw gwirioneddol y llynedd nag…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn ôl y Sefydliad Cyflog Byw, yn 2021, 82.1 y cant oedd cyfran y swyddi cyflogeion yng Nghymru a oedd yn cael o leiaf y cyflog byw gwirioneddol yn dâl. Bydd cyhoeddiad ddoe o gynnydd i gyfradd yr awr y…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n credu y bydd Syr Keir Starmer, a arweiniodd dros Lafur yn ystod misoedd hir hynny y trafodaethau ymadael, wedi bod yn cyfeirio at wahaniaeth yr oedd Llywodraeth y DU mor amharod i'w gydnabod. Mae'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, gadewch i ni obeithio na fyddan nhw'n dilyn trywydd o'r fath, oherwydd, fel y mae Adam Price wedi ei ddweud, byddai'n gwneud sefyllfa anodd hyd yn oed yn fwy niweidiol—yn economaidd, o ran masnach, ond hefyd o ran y sefyllfa ar…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Hoffwn ddiolch i arweinydd Plaid Cymru am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth yn werth ei ailadrodd, Llywydd, onid yw, fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, cynghorwyr y Llywodraeth ei hun, yn y cyfnod cyn y gyllideb bythefnos yn ôl, wedi dod i'r…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, ceir sinigiaeth ddwys yn y cwestiwn yna sy'n peri pryder gwirioneddol yn fy marn i. Mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau gwleidyddol pleidiol gan esgus nad yw'n gwneud dim o'r fath. Mae'r ymosodiadau ar Lywodraeth Cymru ar y mater hwn gan ei blaid ef yn…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn dymuno awgrymu nad oeddem ni'n cymryd cyngor y prif swyddog meddygol ar un llaw—mae'n anghywir yn hynny o beth, gyda llaw: rydym ni yn dilyn cyngor y prif swyddog meddygol, ac mae'n cefnogi ein safbwynt ar y pàs COVID—ond yna…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae'r Aelod wedi ei chael hi'n gwbl anghywir. Mae pasys COVID yno i helpu i gadw Cymru ar agor. Maen nhw yno i ddilyn y cyngor sydd gennym ni gan SAGE y dylai Llywodraethau gymryd y mesurau cynnar dwysedd isel hynny y gallwch chi eu rhoi ar…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, nid yw'n ddathliad mawr yng Nghymru o gwbl i gael cynnig £25 miliwn gan Lywodraeth sy'n tynnu bron i £250 miliwn allan o bocedi ein dinasyddion tlotaf. Rwyf i'n galw hynny yn arian mân iawn yn wir. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Alun Davies am hynna. Rwy'n credu ei fod yn hael yn disgrifio polisïau'r Llywodraeth Geidwadol fel canlyniad anallu. Fy marn i yw eu bod nhw'n aml iawn yn benderfyniadau bwriadol gan Lywodraeth sy'n gwybod beth mae'n ei wneud, yn gwybod y bydd…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae aelwydydd o dan bwysau ariannol digynsail o ganlyniad i'r pandemig, ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, costau byw cynyddol a thoriadau i gymorth lles. Mae penderfyniadau bwriadol a niweidiol gan Lywodraeth y DU yn gwthio llawer mwy o aelwydydd…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid wyf i'n adnabod y darlun truenus y mae'r Aelod yn ei gyfleu; byddai croeso mawr i ychydig yn fwy o sirioldeb ynghylch Cymru a'n rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Mae'r Llywodraeth hon wedi cymryd camau radical, sydd fel rheol yn cael eu gwrthwynebu…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n diolch i John Griffiths am hynna, ac yn diolch iddo am fod yn COP i gynrychioli ei bwyllgor ei hun ac i wneud yn siŵr bod Cymru, ar lefel seneddol, yn cael ei chynrychioli ac yn gallu cynnal sgyrsiau, mi wn, â chynrychiolwyr seneddol o rannau…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd COP26 yn rhoi cyfleoedd i Gymru arloesi, cydweithio a datblygu partneriaethau rhyngwladol i'n helpu i gyflawni ein huchelgais sero-net erbyn 2050. Byddwn yn cynyddu ein hallforion sgiliau a…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £27 miliwn, un o'r prosiectau rheoli risg arfordirol mwyaf erioed yng Nghymru yn nwyrain y Rhyl, yn etholaeth yr Aelod—prosiect dwy flynedd a fydd yn gweld 600 metr o wal amddiffyn newydd rhag y môr a phromenâd…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae trigolion Dyffryn Clwyd eisoes wedi wynebu effaith newid yn yr hinsawdd o ran llifogydd afonydd a llifogydd ar y môr. Daw COP26 â syniadau newydd a chyfle i ddysgu o brofiadau mewn rhannau eraill o'r byd, fel y bydd modd eu rhoi nhw i weithio er…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Mae hi'n iawn am y cyfraniad anghymesur y mae Cymru yn ei wneud at y lluoedd arfog. Cymru yw 5 y cant o boblogaeth y DU, ond rydym ni'n darparu 9 y cant o bersonél y lluoedd arfog, ac eto dim ond 2.5 y cant o…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r camau ymarferol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi milwyr a chyn-filwyr yn cael eu nodi yn flynyddol yn ein hadroddiad cyfamod y lluoedd arfog. Mae'r argraffiad diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn tynnu sylw at y cynnydd a…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Carolyn Thomas am hynna, Llywydd, ac yn diolch iddi am ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, at fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, ar ran y cwmni, ac o ganlyniad i'w llythyr rwy'n gwybod bod swyddogion Gweinidog yr economi wedi cyfarfod â FibreSpeed…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Peter Fox am hynna, Llywydd. Fe wnaf i ymholiad ynghylch y cyfleuster cod post a'r hyn sydd wedi digwydd iddo, a byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu at yr Aelod gydag ateb am hynny. Mae'n gwestiwn diddorol am yr hyn sydd y tu hwnt…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Peter Fox am hynna, Llywydd. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd. Lle ceir bylchau, rydym ni'n parhau i gamu i mewn. Mae dros 27,000 o adeiladau bellach wedi sicrhau mynediad at ffeibr llawn ledled Cymru o dan ein rhaglen cyflwyno…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am dynnu sylw at lwyddiant polisi Llywodraeth Cymru o leihau nifer y bobl y mae angen iddyn nhw fod yn y gweithle yn ystod pandemig byd-eang. Yn bersonol, rwy'n credu ei fod yn gyflawniad gwych bod Llywodraeth Cymru wedi gallu…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Llywydd, nod polisi gweithio o bell Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio o bell yn rheolaidd yn ystod y tymor Senedd hwn. Ceir llawer o fanteision amgylcheddol ac economaidd i weithio o bell, a…