23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Rydym ni'n cryfhau ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys trais a cham-drin yn gyhoeddus ac yn y gweithle, yn ogystal ag yn y cartref. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi'n cytuno ag Adam Price achos mae'r bwlch democrataidd yn amlwg i unrhyw berson i'w weld pan ydyn nhw'n darllen beth mae'r wasg yn Llundain wedi ei ddweud am bron popeth sy'n mynd ymlaen yma yng Nghymru, ac roedden nhw'n gwneud yr un peth ddoe hefyd. Ar…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae Adam Price yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffordd y bu'n bosibl, ers dechrau datganoli, creu cytundebau rhwng pleidiau blaengar yma; pleidiau â syniadau, pleidiau â pharodrwydd i dderbyn y cyfrifoldeb o fod mewn Llywodraeth. Yr haf cyntaf un yr…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, erbyn diwedd y tymor Senedd hwn, bydd hi'n 25 mlynedd yn y diffeithwch i Blaid Geidwadol Cymru, ac fel y clywsom ni dros nos ac y clywsom ni eto heddiw, maen nhw'n gweithio yn galed iawn i haeddu'r sefyllfa honno. Hoffwn i dynnu sylw—ni fyddan…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, ymysg ei sylwadau mwy sarhaus, fe wnaeth yr Aelod lwyddo i wasgu brawddeg allan i gydnabod ansawdd uchel y gofal sy'n cael ei ddarparu i'w etholwyr yn y gogledd. Trafodais holl fusnes ymchwiliad gyda Michael Gove, y Gweinidog sy'n gyfrifol am y…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am bopeth a wnes i ac a benderfynais i pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, yn y llawer iawn o gwestiynau a ofynnwyd i mi ar lawr y Senedd hon ac a atebais ar y pryd. Ymwelais ag uned Hergest pan oeddwn i'n Weinidog…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fel y dywedodd yr Aelod, Llywydd, mae'r adroddiad yn wyth mlwydd oed, ac mae llawer o wersi wedi eu dysgu ers hynny. Cefais fy nghalonogi fy hun o weld bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar uned Hergest yn 2018 wedi canfod tystiolaeth bod yr…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rhannais lwyfan â Phrif Weinidog y DU yn COP26. Neilltuodd ei anerchiad mewn ffordd na allwn i helpu ond teimlo a wnaeth adael 40 o arweinwyr rhyngwladol o'n blaenau wedi drysu braidd ynghylch pwysigrwydd ymddygiad gwell gan wartheg wrth fynd i'r afael â'r…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Rhys am y cwestiwn yna ac am fod ar flaen y gad yn y maes yma.
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn gwneud yn dda iawn tan ran olaf ei gwestiwn, oherwydd roedd yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn ac yn cyfeirio at gyfleoedd sydd ar gael i ni yma yng Nghymru. Mae'r angen i ddatblygu ffynonellau protein amgen yn…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae angen sector amaethyddol cynaliadwy ar Gymru a chadwyni bwyd sy'n gweithio tuag at sicrhau sero net. Bydd datblygu technolegau newydd a chreu ffynonellau protein amgen yn cyfrannu at ostyngiadau pellach i'n hallyriadau nwyon tŷ gwydr.
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o bron i £0.75 miliwn i ariannu cyfraniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy at ailwampio'r bont ac i ddarparu ar gyfer gwaith uwchraddio sylweddol yn ei gyfleusterau. Fel yr ydym ni wedi…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd, ac am yr awgrymiadau adeiladol y mae wedi eu cynnig. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths, a hithau'n Weinidog gogledd Cymru, yn cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru yfory ar faterion…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae darparu cerbydau rheilffordd newydd a chychwyn gwasanaethau bysiau Fflecsi newydd, arloesol sy'n ymateb i'r galw ymysg y camau sy'n cael eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn etholaeth yr Aelod.
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynny, Llywydd, ac am dynnu sylw at Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd yfory. Bydd angen gofal newyddenedigol ar un o bob 10 babi yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn synnu o glywed y cafodd 2,800 o fabanod yng…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Joyce Watson, Llywydd. Yn nhymor diwethaf y Senedd, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £110 miliwn mewn datblygiadau newyddenedigol ledled Cymru. Mae hynny yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, sydd bellach ar gael ym mhob bwrdd…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwyf i wedi cynnig dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU gymryd rhan yn y rhaglen hon ar sail proses gwneud penderfyniadau ar y cyd. Roeddwn i'n gyndyn i wneud hynny, Llywydd, gan y dylai'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yma; mae'r rhain yn…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniad bwriadol i eithrio'r Senedd rhag bod yn rhan o ddylunio a darparu'r gronfa honno. Mae'n parhau i sathru ar y setliad datganoli ac i gefnu ar ei haddewid na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaf i gymryd y peth o ddifrif, oherwydd rwyf i hefyd wedi gweld yr ateb a roddodd y bwrdd i'r llythyrau hynny ym mis Gorffennaf eleni—y papur bwrdd, y papur bwrdd manwl iawn, a'r papur bwrdd difrifol iawn a aeth drwy'r pwyntiau a godwyd gan y clinigwyr…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, yr wythnos diwethaf roedd yr Aelod yn cwyno nad oedd digon o fiwrocratiaid y tu ôl i'w desgiau, a'r wythnos hon mae hi eisiau cwyno bod gormod. [Torri ar draws.] Roeddwn i yn y Siambr yr wythnos diwethaf pan gwynodd yr Aelod am brinder pobl y tu…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, penodwyd prif weithredwr newydd, cyfarwyddwr meddygol newydd a dau aelod annibynnol newydd eleni i gryfhau arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel sy'n ofynnol o dan y lefel bresennol o ymyrraeth a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna, sydd, yn fy marn i, yn codi cyfres o faterion pwysig iawn. Mae cyd-destun COVID yn dal i fod yn real iawn i drafnidiaeth gyhoeddus, Llywydd. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwariodd Llywodraeth Cymru…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod. Llywydd, bydd y cyfraniad mwyaf at dwf y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru yn dod drwy ostyngiad parhaus yng nghyfradd y coronafeirws yn yr ardal. Ers dechrau'r pandemig, mae'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wedi gwella…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynna, ac yn diolch iddi hefyd am fod wedi cymryd yr amser i deithio i Glasgow a bod yn rhan o'r trafodaethau COP, fel y gwn y gwnaeth Aelodau eraill mewn rhannau eraill o'r Siambr hefyd. Rwy'n cytuno, Llywydd, â'r hyn a…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod. Llywydd, un o brif effeithiau COP26 fydd y cynnydd y mae wedi ei wneud i ymwybyddiaeth y cyhoedd yng Nghymru o'r angen am weithredu brys. Trwy COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru, ein nod yw ysgogi'r ymdrech gyfunol sydd ei hangen gan…