7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Heledd Fychan. Llywydd, rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Yn ogystal â'i gyllid craidd ar gyfer iechyd meddwl, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael £3.3 miliwn o…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am hynna, Llywydd. Mae'n iawn wrth ddweud mai'r ateb hirdymor—ac wrth ddweud 'hirdymor' rwy'n golygu yn ystod tymor y Senedd hon—yw'r diwygiad radical o wasanaethau bysiau y byddwn yn eu cyflwyno drwy'r Bil bysiau, i…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies, Llywydd? Ers dechrau pandemig COVID-19, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r diwydiant bysiau i barhau i gynnal gwasanaethau, gan ddarparu £130 miliwn o gyllid ychwanegol i atal cymunedau rhag cael eu hynysu.
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, a gaf i ddiolch i Sam Kurtz am hynna, oherwydd mae'n gwneud pwyntiau pwysig iawn ynghylch arwyddocâd newyddiaduraeth Gymraeg? Ac mae Llywodraeth Cymru, unwaith eto, yn buddsoddi'n uniongyrchol yn y maes hwn mewn ffordd sy'n cael ei chyfiawnhau gan yr…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i John Griffiths am hynna, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu anfon neges o longyfarchiadau i'r South Wales Argus wythnos yn ôl ar ei ben-blwydd yn gant tri deg oed. Mae John Griffiths yn iawn, Llywydd, mae'r awydd am newyddion am Gymru a…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y camau a gymerwyd i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru mae ymrwymiad i ddarparu cymorth ariannol i newyddiaduraeth sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Bydd y cymorth hwnnw yn parhau dros dair blwyddyn…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Pe bai'r Aelod wedi bod yn gwrando ar fy ateb blaenorol, byddai wedi clywed yr ateb i'w gwestiwn. Os ydym ni'n mynd i gael ymchwiliad, yna byddai'n ddefnyddiol, oni fyddai, i sefydlu rhywfaint o gywirdeb sylfaenol yn y ffeithiau y mae pobl yn eu cyflwyno. Nid…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n gwneud cyfres o bwyntiau sy'n sicr yn haeddu cael eu hystyried yn ofalus. Rwyf i wedi dweud droeon ar lawr y Senedd bod y gyfradd y mae plant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru yn anghynaladwy…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol i ddargyfeirio achosion yn ddiogel o'r gofrestr amddiffyn plant gan ddefnyddio gweithdrefnau a ddatblygwyd mewn partneriaeth â byrddau diogelu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r byrddau…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae fy man cychwyn i yr un fath ag un Penny Mordaunt—Gweinidog y DU a oedd yn gyfrifol ar y pryd—a ddywedodd mai man cychwyn Llywodraeth y DU oedd bod menywod trawsryweddol yn fenywod. Dyna fy man cychwyn i yn y ddadl hon. Mae'n faes anodd lle mae pobl yn…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, sefydlwyd Chwaraeon Cymru drwy siarter frenhinol ar 4 Chwefror 1972. Ers 1999, y sefydliad hwnnw, yn hytrach na chyrff y DU, sydd wedi bod yn gyfrifol am bolisi cynhwysiant mewn chwaraeon yng Nghymru. Serch hynny, mae'r cyngor yn gweithio gyda…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, cyfeiriodd Adam Price at fater yn y fan yna na ddylem ni ei osgoi, a ddylem ni? Wyddoch chi, rydym ni wrth ein bodd y bydd Cymru yn cael ei chynrychioli yn Qatar, ond ni ddylem ni edrych y ffordd arall oddi wrth yr amheuon a fyddai gennym ni fel…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, hoffwn ddefnyddio'r agoriad y mae Adam Price wedi ei gynnig i dalu teyrnged eto i'r tîm o Wcráin a'u cefnogwyr yn y maes. Pan feddyliwch chi am gefndir y gêm honno, roedden nhw'n anhygoel o ymroddedig. Ni roddodd y tîm y gorau iddi ar unrhyw…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiwn, Llywydd. Braint oedd bod yn y stadiwm ar nos Sul ac roedd y teimlad yn y stadiwm mor gryf y tu ôl i dîm Cymru. Ond nid jest i dîm Cymru, y parch roedd pobl yn ei ddangos at bobl oedd yno i gefnogi Wcráin hefyd…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bydd arweinydd yr wrthblaid, mi wn, yn deall, hyd yn oed pe bai penderfyniad wedi cael ei wneud i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, na fyddai wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl dros y penwythnos diwethaf, oherwydd byddai, hyd yn oed o heddiw…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n gwahaniaethu rhwng y ddau bwynt y mae arweinydd yr wrthblaid wedi eu gwneud. Rwy'n credu, o ran capasiti, ei bod hi'n wirioneddol anodd disgwyl i gwmni trenau, ag asedau sefydlog a chronfa sefydlog o staff sy'n gallu darparu'r gwasanaethau…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac mae'n sicr yn wir fod torfeydd dau ddigwyddiad mawr yng Nghaerdydd a dechrau'r gwyliau hanner tymor wedi arwain at lawer iawn o draffig i gyd yn ceisio cyrraedd Caerdydd mewn cyfnod cyfyngedig. Pryd bynnag y bydd…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Peter Fox am y cwestiwn ychwanegol yna, Llywydd. Gwn fod ganddo arbenigedd ei hun; ef oedd arweinydd Cyngor Sir Fynwy pan greodd y cyngor fferm solar, cynllun yr oedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o'i gefnogi. Felly, gwn y bydd wedi gweld drosto'i…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Jayne Bryant am hynna. Rwy'n cofio ei chyfraniad yr adeg honno, oherwydd, fel yr wyf i'n ei gofio, roedd yng nghyd-destun y pwerau newydd a oedd yn cael eu darparu i awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon—cynigion a…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi creu dros 300 o fannau gwyrdd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae 22 ohonyn nhw wedi cael eu datblygu yng Nghasnewydd, gan gynnwys y gwaith, y…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, bob naw mis, mae Prif Weinidog y DU yn penodi mwy o bobl i Dŷ'r Arglwyddi nag yr ydym ni'n cynnig eu hychwanegu at aelodaeth y Senedd—bob naw mis. Ble mae'r refferendwm ar hynny, tybed? Nawr, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r cyhoedd eisoes wedi lleisio eu barn. Fe wnaethon nhw ethol Aelodau i'r Senedd hon mewn niferoedd digonol i sicrhau, fel y dywedodd Darren Millar, y diwygiad mwyaf i'r Senedd ers ei sefydlu. Mae'r rheini ohonom ni a safodd ar faniffestos o blaid…
7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithredu casgliadau'r Senedd ar y mater hwn.
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Y Jiwbilî Blatinwm
Nawr, wythnos nesaf, Llywydd, fe fydd llawer ledled Cymru yn defnyddio cyfle'r gwyliau cyhoeddus estynedig i ddathlu'r Jiwbilî Blatinwm—o gyngerdd yng nghastell Caerdydd i bicnic yn Llantrisant, te parti ym Mhorth Tywyn a regatta ym mae Tremadog. Llywydd…
24 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Y Jiwbilî Blatinwm
Wedi dweud hynny, Llywydd, nid yw rhai pethau wedi newid. Yn ystod 70 o flynyddoedd o newid mawr, mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi bod yn bresennol bob amser ym mywydau pobl Cymru a thu hwnt. Rydyn ni'n meddwl am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i wneud ei…