19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Ydy, mae'n wir. Felly, dim ond plastr ar glwyf enfawr yw hwn, a bydd yn achosi problemau gwirioneddol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal ag i gwsmeriaid domestig. Serch hynny, mae'n bwysig fod y cymorth sydd ar gael yn cyrraedd pobl a busnesau…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Wrth gwrs.
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rhannaf bryderon yr Aelod ynglŷn â’r broses sydd wedi ein harwain at y sefyllfa bresennol, a rhannaf y pryder—fel yr oeddwn yn ei rannu ynglŷn â'r Bil cynhyrchion plastig…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Gallaf, mae hynny'n gywir. Mae'r ffaith bod y Bil wedi ymddangos ar yr amserlen seneddol mor gyflym wedi golygu na welsom ddim ohono ymlaen llaw. Fel roeddwn am fynd ymlaen i ddweud, mae ein hegwyddorion Cabinet fodd bynnag yn nodi sefyllfaoedd lle gallai fod…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Gwnaf, yn sicr.
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Bil Prisiau Ynni wedi'u cadw'n ôl. Mae'r darpariaethau o fewn y cymhwysedd datganoledig a drafodir gennym heddiw yn ymwneud â phwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i roi cymorth tuag at…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Yn ffurfiol.
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Rhianon. Yr ateb i'r argyfwng ynni hwn yw peidio ag ehangu echdynnu tanwyddau ffosil newydd. Nid ydym yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i ehangu trwyddedau olew a nwy newydd ym môr y Gogledd ac agor safleoedd ffracio newydd yn Lloegr. Bydd ein…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Rhianon. Bydd ein polisïau o gefnogi cartrefi, busnesau a'r sector cyhoeddus i leihau'r galw am ynni ynghyd â chamau gweithredu cadarnhaol i gynyddu'r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu'n ddomestig yn gwella diogelwch ynni ym…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Wel, wyddoch chi, Mark, byddwn yn dweud unwaith eto fod gallu'r Ceidwadwyr i ddyfynnu ystadegau y tu hwnt i'r sefyllfa facro-economaidd yn rhyfeddol. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi gosod y lefelau uchaf erioed o gyllid grant tai cymdeithasol drwy'r…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rydym yn cefnogi'r sector tai i barhau i gyflenwi cartrefi newydd yng nghyd-destun yr heriau presennol. Mae ein dull newydd o asesu'r farchnad dai leol yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio cyflenwad tai cynaliadwy a fydd yn ateb yr angen lleol.
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn sicr, Tom. Un o'r problemau gyda hynny, mewn gwirionedd, yw'r ffordd y mae'r system gynllunio'n rhyngweithio â'r system ailgylchu, fel mae'n digwydd. Felly, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Rydym hefyd, fel y…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Gyda phleser. Roedd ein cyfradd ailgylchu trefol yn 65.4 y cant yn 2020-21, ein canran uchaf erioed, sy'n fwy na'r targed o 64 y cant. Mae'r llwyddiant hwn, er gwaethaf yr holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig, yn dyst i waith caled ein hawdurdodau lleol ac…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n anodd iawn rhoi diweddariad i chi ar amserlen pob datblygwr am resymau amlwg, Rhys, ond rydym yn gweithio gyda hwy i ddeall beth yw'r amserlen ar gyfer eu hadeiladau. Rwy'n falch iawn o ddweud bod rhai adeiladau yn cael eu hadfer yn awr ac rwy'n…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn sicr. Ar 7 Hydref, cyhoeddais fod 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i gytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru. Mae gwaith bellach ar y gweill i greu'r ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol a fydd yn sail i'r cytundeb, ac rwy'n rhagweld y bydd drafft o'r ddogfennaeth…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n gwneud gwahaniaeth eithaf mawr i sut mae'r system gynllunio yn gweithio, Darren. Rwy'n dweud wrthych chi, mae'n gwneud gwahaniaeth, ac nid yw'n gyfleustod. Nid wyf yn gwybod beth yw manylion cytundeb Llywodraeth y DU gydag Openreach i wneud y gwaith…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ie, ond rwy'n dweud wrthych eich bod chi wedi dweud mai cyfleustod ydyw ac nid yw hynny'n wir.
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Wel, i ddechrau, nid cyfleustod mohono. Dylai gael ei drin fel un, ond nid yw'n cael ei drin fel un, ac mewn gwirionedd mae hynny'n arwain at gyfres gyfan o ganlyniadau. Felly un o'r pethau cyntaf yr hoffwn ei awgrymu yw eich bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ei…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu hadolygu'n gyson drwy ymgynghori ag awdurdodau cynllunio lleol, busnesau a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn datblygu a'r system gynllunio. Mae'r newidiadau diweddaraf yn helpu i sicrhau hyblygrwydd i…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae gennyf gryn ddiddordeb mewn treialu hawl i gartref digonol yn ystod tymor y Senedd hon, yn sicr. Ond un o'r pethau y mae'n rhaid inni eu sicrhau yw ein bod yn gosod y dominos mewn rhes yn gyntaf. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn siarad—mae fy synnwyr o…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn hollol, Mabon, mae gennym arferion yn datblygu yn y sector rhentu sy’n amlwg yn gosod rhwystrau i bobl sydd am rentu. Yn amlwg, yr hyn yr hoffem ei wneud yw adeiladu llawer o gartrefi cymdeithasol yn gyflym. Rwyf newydd gael sgwrs gyda’r meinciau gyferbyn…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rwy'n ateb y cwestiwn. Y grant cynnal ardrethi sy'n talu am y bobl hynny. Ynte? Mae hwnnw wedi’i dorri gan Lywodraethau Ceidwadol olynol dros y 10 mlynedd diwethaf. Cynllunwyr yw'r staff ystafell gefn hynny y mae Llywodraethau Ceidwadol mor hoff o'u gwawdio…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Unwaith eto, Janet, sut y credwch chi y caiff y bobl hynny eu talu?
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Unwaith eto, Janet, mae hyn fel ceisio trafod y 1930au heb gyfeirio at y dirwasgiad. Mae’r syniad y gallwch chi ddweud wrthyf fod fy nharged ar gyfer ffosffadau yn atal adeiladu tai, pan fyddwch yn honni drwy'r amser eich bod yn credu mewn argyfwng hinsawdd a…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Unwaith eto, Janet, mae gofyn y cwestiynau hyn i mi yn absenoldeb llwyr unrhyw ddealltwriaeth o’r trefniadau ariannol cyffredinol yn y DU ar hyn o bryd yn rhyfeddol. Rydym yn wynebu argyfwng costau byw ar draws y DU, yn gyfan gwbl o ganlyniad i benderfyniadau…