8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Polisi Ynni
Diolch, Delyth. Wel, i ymdrin â'r un olaf yna yn gyntaf, roeddem ni'n ystyried yn ofalus iawn a ddylwn i fynd i COP27, neu yn wir, a ddylai'r Prif Weinidog fynd, ond rydw i mewn gwirionedd yn mynd i COP15 yng Nghanada—y COP bioamrywiaeth—sef y COP sy'n gwneud…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Polisi Ynni
Wel, Janet, fel arfer, rwyf wir yn teimlo'r angen i ddechrau drwy eich atgoffa eich bod chi'n Dori, ac mai Llywodraeth y Torïaid yw'r un wnaeth dynnu'r buddsoddiad o Wylfa. Efallai y dylem ni brynu ychydig o hanes y 15 mlynedd diwethaf i chi a'i roi i'ch…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Polisi Ynni
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth i arweinwyr byd-eang gwrdd yn yr Aifft ar gyfer COP27, rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch sut y byddwn yn parhau i arwain y gwaith pontio o danwydd ffosil i system ynni yn seiliedig ar ynni…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Fe fyddwn i'n fwy na pharod i gwrdd â chi a'r cyngor, a'r datblygwr, yn wir, Sarah. Rydym ni wedi cyflwyno newidiadau i Ran L o'r rheoliadau adeiladu. Maen nhw'n niwtral o ran technoleg, felly rydym ni'n dweud bod angen newid o 37 y cant yn yr…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Wel, fe wnaethoch chi ateb eich cwestiwn chi eich hun i ryw raddau nawr, Mark. Ond, fel dywedais i o'r blaen, rydym ni'n edrych yn fanwl ar ddull gweithredu ffabrig a'r gwaethaf yn gyntaf, ond mae hi'n anodd iawn targedu un tŷ yn unig weithiau. Felly, yn fy…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Ynglŷn â'r pwynt olaf yna: mae hwnnw'n gynllun gwych, onid ydyw? Felly, mae'r math o weithredu ar y cyd yr ydych chi'n ei weld pan fyddwch chi'n gallu gweithredu'r mathau o gynlluniau effeithlonrwydd ynni ar y cyd yr ydych chi'n eu cael yn yr achos hwnnw yn…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Diolch yn fawr am hynna. Fel dywedais i wrth un neu ddau o bobl eraill hefyd, yn gyntaf i gyd rwyf i am ddweud y bydd y rhaglen newydd yn dechrau cyn y gaeaf nesaf. Felly, fe fyddwn ni'n ei chaffael a'i dechrau cyn y gaeaf nesaf, a dim ond ar gyfer bod yn…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Ie wir, Sam, rwyf i'n sicr o'r farn fod angen i ni ystyried rhaglen sy'n cymell pobl. Un o ddirgelion y byd i mi—rydych chi a minnau wedi trafod hyn yn rhinwedd eich swydd flaenorol, fel minnau—yw pam nad yw prisiau tai yn adlewyrchu gwelliannau amrywiol…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Ateb byr iawn, Jenny, yw oherwydd nad ydym ni wedi dysgu popeth eto o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Felly, mae'r gwasanaeth cyngor ynni ar gael i helpu perchen-feddianwyr, ond fe hoffem ni i hynny fod yn rhywbeth sy'n llawer mwy penodol, ac rydym…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Dros y ddwy flynedd.
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Diolch yn fawr, Mabon. Dim ond i ddweud, rwyf i'n cytuno â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, o ran yr effaith niweidiol y mae tai gwael yn ei chael ar iechyd pobl. Mae llawer o dystiolaeth yn dangos bod tai yn un o'r pethau mwyaf sylfaenol a all…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Diolch i chi, Janet. Nid wyf i'n gwbl siŵr ym mha le yr oedd y cwestiynau yn hynna. Ond, dim ond i ddweud cwpl o bethau, fe ddylech chi fod yn ofalus iawn gydag ystadegau; maen nhw'n dwyllodrus iawn. Roeddech chi'n dewis edrych ar ganran y tai gyda…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Fe fyddwn ni'n parhau i ddysgu o raglenni blaenorol a chyfredol. Mae sawl cynllun yng Nghymru a'r DU wedi bod o fudd gwirioneddol i aelwydydd agored i niwed. Serch hynny, rydym ni'n ymdrin â gwaddol rhai cynlluniau a gafodd eu cynllunio a'u cyflwyno mewn…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
Diolch, Llywydd. Mae'r argyfwng costau byw yn cael ei yrru i raddau helaeth gan gynnydd mewn prisiau ynni sy'n effeithio ar bris pob math o nwyddau y mae pobl yn eu defnyddio. Er bod hyn yn cael effaith andwyol ar ein safonau byw ni i gyd, mae'n cael effaith…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol
Ydy, yn hollol, Alun. Felly, fel rwy'n dweud, dyma un o'r amryw bethau y mae angen i ni eu gwneud i ddod at ein gilydd i allu cyflawni'r math o grid ynni ar draws Cymru mae arnom ni ei eisiau. Felly, mae'r mentrau trefol yn ddiddorol iawn. Rydym yn disgwyl i…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol
Diolch yn fawr iawn, Jane, am hynny. Rwy'n falch iawn, fel y dywedaf, wrth fy modd, yn cyhoeddi hyn, yr hyn sy'n fuddsoddiad tymor hir iawn i bobl Cymru. Rwy'n siŵr na fydd hi'n ddadleuol, dim ots pwy fydd y Llywodraeth ar ein holau, oherwydd dylen ni fod…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol
Ie, diolch i chi, Jenny. Rydych chi'n hollol gywir. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny i gyd. Er hynny, mae rhai enghreifftiau da iawn, o amgylch Cymru, yr ydym ni'n cyfeirio pobl atyn nhw. Felly, Pen y Cymoedd, wn i ddim a ydych chi wedi llwyddo i fynd yno, ond…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol
Diolch yn fawr, Peter. Rwy'n cofio hynny'n iawn, gyda phleser mawr hefyd. Ac un o'r pethau mae arnom ni eisiau ei wneud yw cynorthwyo cynghorau i gyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n gwneud nifer o bethau eraill hefyd—felly, er enghraifft, gwella…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol
Diolch yn fawr, Huw. Felly, yn amlwg, dydw i ddim yn mynd i wneud sylw ar yr agwedd benodol yna, ond yn gyffredinol, un o'r rhesymau mae arnom ni eisiau cwmni gwladol sy'n eiddo i ni, ddinasyddion Cymru, yw i roi pwysau ar yr holl ddatblygiadau eraill ledled…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol
Ac rydw i, o'm rhan fy hun, yn ddiolchgar iawn iddyn nhw yn wir, Llywydd, oherwydd mae arna i ofn nad yw fy Nghymraeg i yn ddigon da i drafod ynni adnewyddadwy yn fanwl ar hyn o bryd, er cymaint yr hoffwn iddi fod. Felly, Delyth, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol
Diolch, Janet. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'ch cyfraniad yn y fan yna ynghylch y gwasanaeth effeithlonrwydd ynni, ac yn amlwg nid dyna yw prif bwrpas y datganiad hwn. Yn amlwg, rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth effeithlonrwydd ynni i sicrhau y gallwn gael…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol
Diolch, Llywydd dros dro Rydym wedi treulio llawer iawn o amser yn y Siambr hon yn siarad am yr argyfwng costau byw, sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r cynnydd mawr yng nghost ynni. Mae cadw pobl Prydain yn gaeth i bris tanwydd ffosil yn ddrwg i dalwyr biliau…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru
Felly, Ddirprwy Lywydd, mae fy amser wedi dod i ben yn awr, er fy mod wedi derbyn nifer o ymyriadau. Yn y tymor byr sydd ar gael, rwyf wedi nodi rhai o'r camau allweddol a gymerwyd gennym yn unol ag argymhellion y pwyllgor. Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad…
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru
Rydych chi'n ei dynnu'n ôl. Tro pedol arall gan y Ceidwadwyr, yma ar lawr y Senedd. [Chwerthin.]
19 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru
Diolch, Ddirprwy Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, a diolch yn fawr i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu hadroddiad gwerthfawr iawn. Mae'r argyfwng a nododd y Cadeirydd yn ei ragair yn amlwg wedi dyfnhau…