11 Ionawr 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, yr hyn yr oeddech chi'n gofyn oedd: a ydyn ni'n cynnal y gyllideb ar yr un lefel ag oedd hi y llynedd, a'r ateb i hynny yw 'ydyn'.
11 Ionawr 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, y cynllun rŷn ni wedi cynnig yn y gyllideb ddrafft yw ein bod ni yn cynnal yr arian sydd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a'n bod ni'n ailbroffilio, os hoffech chi. Rŷn ni wedi cytuno hyn ar y cyd â Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio—ein bod…
11 Ionawr 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, ddim o ran y cynllun gwersi Cymraeg. O ran gwaith y coleg, dŷn ni ddim yn ariannu'r coleg ar sail y rhifau o ddysgwyr sydd yn mynychu addysg ôl-16, er enghraifft, felly mae'n gyllideb fwy agored na hynny, oherwydd mae llawer ohono fe i'w wneud â hyrwyddo…
11 Ionawr 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Ocê. Wel, fel roeddwn i'n dweud, mae dau brif gategori, felly: y toriad sydd yn effeithio ar Gomisiynydd y Gymraeg, ac mae'r toriad hwnnw'n gyson gyda'r toriadau mae pob un o'r comisiynwyr yn derbyn eleni, sef rhyw 5 y cant. Mae'r comisiynydd yn darogan bod…
11 Ionawr 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae e dal yn realistig, dwi'n credu. Mae gyda ni her ariannol ar hyn o bryd, wrth gwrs, felly os edrychwch chi dros y tair blynedd ers inni osod y gyllideb yn 2022, mae'r cynnydd roedden ni'n darogan yn y gyllideb yn sylweddol—felly 15 y cant yn y…
11 Ionawr 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Bore da.
11 Ionawr 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Owain Lloyd, cyfarwyddwr yr adran. Bethan Webb, is-gyfarwyddwr yr adran.
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol
O fewn ein cyllideb ddrafft, Lywydd, rydym wedi diogelu'r cyllid ar gyfer y grant datblygu disgyblion, y siaradodd Jane Dodds mor huawdl yn ei gylch, ac os yw'r Senedd yn cytuno, bydd hyn yn darparu £128 miliwn o gyllid i gefnogi ein dysgwyr mwyaf…
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol
Diolch, Llywydd. Mae mynd i'r afael â thlodi yn egwyddor sylfaenol i'r Llywodraeth hon, ac mae'n ganolog i'r rhaglen lywodraethu. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi siarad heddiw am ein strategaeth tlodi plant a minnau wedi siarad am PISA, ond mae'n…
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol
Ffurfiol.
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr
Ond Ddirprwy Lywydd, rwyf eisiau bod yn glir: nid yw canlyniadau Cymru lle rwy'n dymuno iddynt fod. Yn 2018, yn groes i honiad Tom Giffard a Peter Fox, roeddem wedi dechrau gweld gwelliant cryf mewn safonau llythrennedd a rhifedd, diolch i waith caled ein…
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y bydd Aelodau yn gwybod, cynhaliwyd profion PISA yn 2022, pan oedd effeithiau'r pandemig yn dal i gael eu teimlo ac roedd COVID yn dal i amharu'n ddifrifol ar addysg. Nid Cymru yn unig sydd yn y sefyllfa hon; mae COVID wedi…
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr
Yn ffurfiol.
12 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Wel, mae'r ddau gwestiwn ynghlwm ar un lefel, onid ydyn nhw? Dwi ddim yn mynd i wneud unrhyw ddatganiad am gyllideb y flwyddyn nesaf, am resymau y bydd yr Aelod yn eu deall, ond bydd hynny'n glir ddigon ymhen y diwrnodau nesaf. Ond, actually, dwi ddim yn…
12 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny, pob un ohonyn nhw'n gwestiynau teg iawn. Felly, o ran y cwestiwn o fynediad teg, mae cyllid, yn amlwg, yn rhan o hynny, ond mae ymwybyddiaeth yn rhan arall ohono. Felly, o ran y cwestiwn cyllido yn benodol, yn…
12 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Bydd dysgu proffesiynol achrededig yn parhau i gael ei arwain gan sefydliadau unigol yn unol â'r gofynion achredu presennol, a bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn parhau i gymeradwyo darpariaeth arweinyddiaeth. Bydd y trefniadau…
12 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Diolch, Dirprwy Lywydd. Y dylanwad pwysicaf ar lwyddiant dysgwyr yn y system addysg yw ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Mae'r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, a lansiwyd ychydig dros flwyddyn yn ôl, eisoes yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
O ran y pwynt eglurder, os edrychwch chi ar y canlyniadau mathemateg a darllen eleni a'u cymharu nhw â'r ffigurau yn 2012, er enghraifft, dŷn nhw ddim, o safbwynt yr OECD—. Dyw'r gwahaniaeth ddim yn ystadegol bwysig, fel petai—statistically significant. Mae o…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Wel, rwy'n cytuno â swm a sylwedd y pwynt a wnaeth Luke Fletcher. Nid wyf i'n credu fy hunan y dylem ni eu disgrifio nhw'n genhedlaeth goll. Rwy'n credu mai cenhedlaeth o bobl ifanc ydyn nhw, fel rwy'n credu i Jenny Rathbone ddweud, sy'n arbennig o…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Roedd gennyf i ddarlithydd prifysgol a roddodd lyfr yn anrheg i gydweithiwr drwy ddweud: 'I'r person hwn sy'n credu nad y gwrthwyneb i siarad yw aros ond gwrando'. Mae'n rhaid i mi ddweud, fe atebwyd llawer o'r cwestiynau a ofynnodd yr Aelod i mi yn benodol…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Fe hoffwn i gytuno â'r pwynt a wnaeth Jenny Rathbone ar y diwedd. Mae'r wybodaeth a gawn ni oddi wrth PISA yn wybodaeth ddefnyddiol iawn, ond nid dyna'r unig wybodaeth sydd gennym ni, ac yn sicr nid dyma'r unig wybodaeth sydd ei hangen arnom ni. Ei…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Diolch i Heledd Fychan am gwestiynau pwysig. Dwi ddim eisiau tanseilio rhai o'r pwyntiau pwysig wnaeth hi, ond jest er mwyn cywiro ambell bwynt, dyw'r canlyniadau ddim yn dda, ond nid dyma'r canlyniadau gwaethaf. Mae hynny'n bwysig i'w gydnabod, oherwydd…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ymateb yn bwyllog i ganlyniadau fel hyn. Mae gan ddysgwyr yng Nghymru hawl i ddisgwyl hynny gennym ni. Roedd cwestiynau'r Aelod yn cynnwys llawer, llawer o gamddehongliadau a gwallau…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Ddoe, fe gynhaliwyd cyfarfod ein tasglu presenoldeb cenedlaethol ni ac fe fydd yn cyfarfod unwaith eto ym mis Ionawr. Fe fydd hynny'n ein helpu ni i roi ystyriaeth greadigol ar draws y system i ddarganfod datrysiadau i faterion sy'n gofyn dylanwad a mewnbwn…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae canlyniadau PISA 2022 yn cael eu cyhoeddi heddiw. Nid dyma’r canlyniadau y byddem ni wedi hoffi eu gweld. Er bod y canlyniadau yn siomedig, mae’n hanfodol deall beth maen nhw’n ei ddweud wrthym ni, felly rwy’n meddwl ei bod yn…