Y peth cyntaf sydd wedi digwydd, o ran darparu sefydlogrwydd, yw rhoi trefniadau dros dro mewn lle, lle mae dyletswyddau'r prif weithredwr a'r prif swyddog cynnwys yn cael eu rhannu gan Elin Morris, prif swyddog gweithredol, a Geraint Evans, cyfarwyddwr strategaeth cynnwys a chyhoeddi. Mae hynny wedi llwyddo i greu sefydlogrwydd ac mae e wedi llwyddo i wneud ein staff—. Ac i fi, a liciwn i bwysleisio hyn ar y cychwyn, y flaenoriaeth fan hyn, yr hyn sydd yn ganolog i'r holl gwestiwn yma, yw lles a diogelwch ein staff ni, ac maen nhw wedi ymateb yn bositif i'r trefniadau newydd hynny. Maen nhw'n deall, wrth gwrs, mai trefniadau dros dro ydyn nhw. Maes o law, mi fydd angen penodi prif weithredwr parhaol, llawnamser, ac efallai mater i'r prif weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda'r bwrdd, fydd penderfynu ar siâp y tîm rheoli. Dyw e ddim o angenrheidrwydd yn golygu llenwi y swyddi oedd yn y patrwm blaenorol.
Roeddwn i'n falch iawn, fel y gallwch chi ddychmygu, i weld ymhlith papurau’r pwyllgor ar gyfer heddiw eich bod chi wedi cael ymateb gan BECTU sydd yn cadarnhau yr hyn dwi'n ei ddweud, mai nid fy adlewyrchiad i yw e ar y ffaith bod staff bellach yn hapus—mae BECTU yn cadarnhau hynny. Maen nhw wedi cael, os dwi'n deall yn iawn, dau gyfarfod gydag aelodau staff o fewn S4C, un ym mis Rhagfyr ac un dydd Gwener wythnos diwethaf, ac mae'r ymateb yn bositif. Felly, dyna’r cam cyntaf, os liciwch chi. Y cam nesaf, ac efallai y down ni at hwn maes o law, yw i edrych ar yr hyn nawr sydd eisiau—. Byddwn i'n cytuno 100 y cant gyda’ch sylwadau chi, Gadeirydd, bod angen ailennyn hyder yn y sefydliad, oherwydd o'r foment derbynion ni'r llythyr cyntaf hwnnw, fel aelodau anweithredol y bwrdd, ar 28 Ebrill y llynedd, yn codi'r pryderon yma—a nid yn eu codi nhw gydag S4C am y tro cyntaf ond yn eu codi nhw gyda ni fel aelodau anweithredol am y tro cyntaf—dwi'n credu cafodd llawer o niwed ei wneud i enw da'r sefydliad, i hyder y sefydliad, i hunan-barch llawer o bobl. Mae e wedi bod y cyfnod anoddaf, byddwn i'n meddwl, yn hanes S4C.
Felly, fel rhan o'r broses honno—ac eto, liciwn i gyfeirio at lythyr BECTU, lle maen nhw'n gwneud awgrymiadau—rŷn ni'n awyddus i weithio gyda nhw, gyda'n staff, i wneud yr hyn sydd ei angen i ailennill yr hyder hwnnw. Byddwn i'n ei roi e o dan bedwar penawd, sef arweinyddiaeth—ac mae hwn yn ymwneud, yn amlwg, â phenodi prif weithredwr newydd; diwylliant—creu diwylliant lle mae pobl yn gallu bod yn ddiogel yn eu gwaith a ddim yn byw mewn ofn; bod y polisïau presennol mewn lle, a bod y polisïau yn addas ar gyfer diogelu staff ac yn cynnig ffordd i bobl ddelio â phryderon sy'n codi; ac yn olaf, gyda llywodraethiant: oes yna faterion ynghylch y model llywodraethiant presennol sydd angen edrych arnyn nhw o'r newydd? Bydd angen mynd ati i wneud y cyfan yna yn ystod y misoedd sydd i ddod.