2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae angen ateb arnom ni yn sicr, ac, wrth gwrs, fe gawsoch chi gyfle. Bob tro y gwnaethoch chi daro cytundeb cyllideb a chytundeb deddfwriaeth gyda Llywodraeth flaenorol Cymru, gallech chi fod wedi cyflwyno rhai atebion a rhoi rhywfaint o arian yn y tun er…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau mae eich Llywodraeth yn mynd i'w cymryd i ddelio â'r anhrefn ailadroddus o ganlyniad i gau pont Menai yn rheolaidd? Mae'n achosi dioddefaint i drigolion, cymudwyr a busnesau ar draws y gogledd, ac…
19 Mai 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r Prif Weinidog
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a gaf i eich llongyfarch ar eich penodiad a diolch hefyd am eich datganiad heddiw a dderbyniwyd saith munud yn unig cyn i'r cyfarfod llawn hwn ddechrau? Confensiwn, wrth gwrs, o ran rhannu datganiadau o flaen llaw y byddech wedi…
12 Mai 2026 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Diolch, Llywydd. Cyd-Aelodau o'r Senedd, rwy'n codi heddiw i nodi adeg hanesyddol ac arwyddocaol ym mywyd y Siambr hwn ac, yn wir, y genedl hon. Hoffwn gofnodi, yn gyntaf oll, fy niolch i'r Llywydd sy'n gadael, Elin Jones, am y ffordd y gwnaeth gyflawni…
12 Mai 2026 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Darren Millar.
13 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Diolch am yr ateb byr hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o’r blaenoriaethau y mae pobl yn fy etholaeth i, ac yn wir, cymunedau ehangach Conwy a sir Ddinbych, am ei weld ar eich rhestr yw darparu ysbyty cymunedol newydd ar gyfer pobl gogledd sir Ddinbych. Mae…
13 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer yr arian ychwanegol a ddyrannwyd iddi yng nghyllideb Llywodraeth y DU? OQ61848
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cofio
A gaf i ddatgan buddiant fel aelod o fwrdd Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru? Rwyf eisiau adleisio llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y Siambr eisoes y prynhawn yma am yr angen i ni fel cenedl barhau i ymrwymo i'n cyn-filwyr a sicrhau bod Cymru…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac, yn wir, am y briff y gwnaethoch chi ei roi i mi cyn heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, fel y soniais wrthych chi yn ystod y sesiwn friffio a gawsom, fy mod i braidd yn siomedig gyda'r diffyg ymgysylltu sydd wedi bod ers…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i alw am nifer o ddatganiadau heddiw? Y cyntaf yw datganiad y mae ei angen gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ymadawiad cyfarwyddwr cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Onid yw'n syndod i chi nad yw Aelodau gogledd Cymru yn y Siambr hon yn unedig, ar bob ochr i'r Siambr, ynghylch yr angen am fuddsoddiad yng ngogledd Cymru, mewn pethau fel trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, na chlywais yr…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Diolch yn fawr. Rwy'n meddwl fy mod yn cofio'r Ysgrifennydd Cabinet presennol dros gyllid yn gwneud ymrwymiad clir dros ddegawd yn ôl i wario arian ar ysbyty newydd sbon yn y Rhyl, sydd wedi'i anghofio'n llwyr a heb ei gyllidebu yng nghyllideb Llywodraeth…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, a gaf i ofyn i chi am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am wyddoniaeth ar y cyfle sydd ar gael i sefydlu arsyllfa genedlaethol yma yng Nghymru. Mae'n fater yr wyf wedi'i godi yn y Siambr yn y gorffennol, yn enwedig gyda'ch rhagflaenydd fel…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Hoffwn innau hefyd gysylltu fy hun â'r sylwadau a'r galwadau a wnaed gan Hannah Blythyn. A gaf i ddychwelyd, fodd bynnag, os caf i, at GIG Cymru i Gyn-filwyr, gwasanaeth yr ydym ni'n falch iawn o'i gael yma yng Nghymru?…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. A fyddech chi hefyd yn cytuno bod angen inni weld cydraddoldeb ariannol yng Nghymru: yn lle'r holl fuddsoddiad sy'n mynd i rai rhannau o Gymru, fod lleoedd fel gogledd Cymru, sydd wedi bod ar eu colled yn…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw
Diolch, James, a diolch am rannu'r stori sydd gennych am y teulu. Rwy'n gwybod bod hynny'n anodd i chi ei rannu, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn rhoi cipolwg i ni ar eich profiad personol. Rwy'n credu mai un o'r heriau yma yw ein bod yn tybio bod llawer…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Fe glywsom, mewn cryn fanylder ddoe, am y dulliau a ddefnyddir i gyflawni cymorth i farw yn rhai o'r gwledydd lle mae wedi ei gyfreithloni—nid yw honno'n farwolaeth braf, ychwaith. Mae llawer o bobl yn brwydro am…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw
Dyna fu'r profiad dramor ac mae hi bron yn sicr mai dyna fyddai'r profiad yma hefyd. Felly, beth yw'r ateb? Yr ateb, yn fyr, yw buddsoddi mewn gofal lliniarol, buddsoddi mewn gofal diwedd oes. Gwyddom fod Hospice UK wedi dweud wrthym eu bod yn wynebu argyfwng…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw
Hoffwn ddechrau drwy gydnabod bod cymorth i farw, neu gymorth hunanladdiad, gan fy mod yn credu bod hwnnw'n derm mwy cywir ar gyfer yr hyn a drafodwn, yn fater sensitif ac emosiynol iawn. Mae gan lawer ohonom deulu, ffrindiau ac anwyliaid a welsom yn dioddef…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am les anifeiliaid heddiw, yn benodol mewn perthynas â lles cŵn a chanolfannau achub cŵn? Fel y bydd llawer o Aelodau yn gwybod, rwy'n berchennog balch milgi bach o'r enw Blue, sydd…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i groesawu eich ateb i'r cwestiwn a ofynnwyd gan John Griffiths? Yn wir, rydym ni i gyd yn bryderus, ac rydym ni eisiau gweld ateb i'r argyfwng hwn—ac mae'n argyfwng, yn ogystal â gwrthdaro—yn y dwyrain canol cyn gynted â phosibl. Mae'n bwysig, wrth…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i sefydlu pwyllgor
O ystyried yr araith rydym newydd ei chlywed, rwy'n teimlo ei bod hi'n werth imi ymateb ar ran y Pwyllgor Busnes i ddweud mai bwriad y pwyllgor hwn, wrth gwrs, yw ystyried gweithrediad y Senedd yn y dyfodol yn y seithfed Senedd, ar ôl y set nesaf o…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i sefydlu pwyllgor
Rwy'n cynnig.
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae arnaf ofn nad yw'r ateb hwnnw'n bodloni'r bobl yng Nghonwy a sir Ddinbych rwy'n eu cynrychioli. Mae disgwyl y bydd tua 30,000 o bobl ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol yn cael eu hamddifadu o daliadau tanwydd y gaeaf…