Llywydd, hoffwn longyfarch yr holl Aelodau ar eu hetholiad i'r Senedd hon, ac, yn benodol, Rhun ar ei benodiad fel y Prif Weinidog newydd. Mae'n fyd cythryblus a rhanedig iawn, felly gadewch i ni i gyd drin ein gilydd gyda'r urddas a'r parch, hyd yn oed yn ystod y dadleuon mwyaf heriol, y mae'r bobl a wnaeth ein hethol yn haeddu eu gweld bob un dydd.
Mae gennym ni Senedd newydd, fwy bellach. Mae gennym ni ddwy blaid newydd yn cael eu cynrychioli yma ac mae gennym ni blaid wahanol wrth y llyw. Mae'n amlwg fy mod i'n drist iawn am golled Llafur Cymru. Cawsom ein cynrychioli gan dîm penderfynol o ymgeiswyr hynod dalentog a'n cefnogi gan wirfoddolwyr a threfnwyr gwych.
Llywydd, does neb yn gwybod yn well na'n plaid ni ei bod hi'n fraint llywodraethu. Mae'r fraint honno a'r cyfrifoldeb aruthrol sy'n mynd law yn llaw â hi bellach yn gorwedd ar wahanol ysgwyddau. Hoffwn dalu teyrnged i'r Aelodau hynny sydd wedi mynd o'n blaenau a'r cydweithwyr nad ydyn nhw wedi cael eu dychwelyd i'r lle hwn, yn enwedig i'm rhagflaenydd yn ein plaid, Eluned Morgan, a weithiodd mor galed yn y swydd, a ddangosodd gymaint o urddas ar adeg anodd iddi hi yn bersonol ac i'n plaid.
Rŵan, heb os nac oni bai, gwaith yw diben y lle hwn, ac rwy'n falch o'n cyflawniadau, gan gynnwys yn ddiweddar lleihau rhestrau aros yn y GIG am naw mis yn olynol ac ariannu cymaint o ysgolion newydd yr unfed ganrif ar hugain i'n plant; darparu fflyd gwerth £800 miliwn o drenau newydd sgleiniog a chynnydd digynsail ar systemau metro y gogledd a'r de; ac wrth gwrs deddfu i ddiogelu ein hamgylchedd, i ymdrin â thomenni glo ac i lanhau'r aer yr ydym ni'n ei anadlu. Rwy'n gobeithio gweld yr un math o waith caled a chyflawniad gan y blaid sydd bellach mewn grym, ac edrychaf ymlaen at fy mhlaid yn gweithredu fel gwrthblaid effeithiol, yn craffu ar Rhun a'i gyd-Aelodau ac yn eu dwyn i gyfrif yn ôl yr angen i wella deddfwriaeth. Nawr, rwy'n gobeithio fel Gweinidog fy mod i wedi dangos i Aelodau Plaid Cymru sut mae cydweithredu a herio ill dau o fudd i'r Llywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl Cymru yn gweld y bydd Llafur Cymru, yn ystod y tymor hwn, fel gwrthblaid yn parhau i ganolbwyntio'n ofalus iawn ar wasanaethu eu buddiannau a gwella eu bywydau.
Efallai mai grŵp o naw yn unig ydym ni bellach, ond yn anad dim rydym ni'n gymrodoriaeth, a gadewch i ni gofio, yn The Fellowship of the Ring dim ond naw rhyfelwr wnaeth oresgyn anfanteision enfawr i drechu ymerodraeth, dan arweiniad eu Gandalf eu hunain, a fydd bellach yn ein harwain ac yn amddiffyn ein democratiaeth gyda'i fyrllysg newydd sgleiniog. [Chwerthin.]
Byddwch yn siŵr na fyddwn ni'n esgusodi plaid y Llywodraeth ar unrhyw adeg, fel na wnaethon nhw, yn gwbl briodol, i ni. O fewn ein grŵp, mae gennym ni gyfuniad o brofiad aruthrol ac egni ac arbenigedd newydd, ond yn anad dim mae gennym ni angerdd a phwrpas, ac i ddyfynnu gan fardd sy'n gyfarwydd i lawer: