Cwestiwn ysgrifenedig WQ97792
- Gofynnwyd gan
- Cefin CampbellPlaid
- I'w ateb gan
- Cabinet Secretary for Education
- Cyflwynwyd
- Dyddiad ateb
- Atebwyd
- Amser i'w ateb
- 8 diwrnod
Cwestiwn
Mae'r testun hwn yn Saesneg gan nad oes fersiwn Gymraeg ar gael.
Will the Cabinet Secretary respond to the 49 suggested actions outlined in the National Behaviour Summit's final report, published in July 2025 and if so, when?
Ateb
Atebwyd gan Cabinet Secretary for Education
Roedd adroddiad yr Uwchgynhadledd Ymddygiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf yn nodi 47 o gamau gweithredu: canolbwyntiodd 25 ohonynt ar weithredu camau mewn ysgolion a 22 ohonynt ar roi cymorth i ddarparwyr addysg bellach. Er eu bod wedi'u grwpio yn ôl sector, mae cyfleoedd amlwg ar gyfer cydweithredu ar draws meysydd a chydgysylltu strategol yn bodoli.
Mae sawl cam gweithredu sy'n canolbwyntio ar ysgolion yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r pum blaenoriaeth bennaf a gyhoeddwyd ar ôl yr Uwchgynhadledd, gan greu sylfaen glir ar gyfer gwneud cynnydd. Bydd cyflawni'r camau gweithredu mwy cymhleth yn gofyn am feithrin cysylltiadau cryf a sicrhau cydweithredu cyson â phartneriaid allweddol.
Roedd y Datganiad Llafar ar Bresenoldeb ac Ymddygiad mewn Ysgolion a gyflwynais yr wythnos diwethaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn dilyn yr Uwchgynhadledd. Rwy'n parhau i flaenoriaethu'r pum cam gweithredu pennaf, i gryfhau'r cymorth i wella ymddygiad mewn ysgolion gan gynnwys:
· Creu strwythurau i gefnogi gweithio aml-asiantaethol
· Diweddaru'r canllawiau i ysgolion
· Sefydlu system ar gyfer rhannu arferion gorau
· Datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol ynghylch ymddygiad
· Sicrhau bod diffiniadau cyson o ddigwyddiadau a'u bod yn cael eu cofnodi mewn ffordd gyson, ynghyd â set ddata glir ar lefel awdurdod lleol a Chymru.
Rydym yn datblygu ymateb polisi amlasiantaethol i fynd i'r afael ag ymddygiad a'i effeithiau ehangach, ac yn gweithio gyda phob un o'r pedwar Heddlu yng Nghymru i gryfhau'r cydweithredu rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a'r heddlu drwy'r Rhaglen Ysgolion Bro.
Rydym yn diweddaru'r canllawiau yn gyflym i sicrhau eglurder a chysondeb ledled Cymru, ac mae fforymau rhanddeiliaid yn gweithio i adnewyddu polisïau ar wahardd a chadw disgyblion, ac ar ffonau symudol, gan gynnwys sicrhau cymorth newydd i ysgolion.
Rydym yn datblygu system gadarn i rannu arferion gorau rhwng ysgolion—yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hyn yn adeiladu ar wersi gwerthfawr a ddysgwyd am ddulliau atal trais sy'n cael eu profi ar hyn o bryd.
Er mwyn gwella dysgu proffesiynol, ar ddechrau'r tymor roeddem wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd ar ymddygiad sy'n cynnig adnodd cyfoethog o ymchwil ac arweiniad ymarferol i ysgolion. Bydd gwaith cydgysylltu ehangach ag ymarferwyr sy'n lansio'r tymor hwn, dan arweiniad partneriaid Sefydliadau Addysg Uwch, yn llywio cynnig ar gyfer rhaglen ddysgu proffesiynol strwythuredig, a fydd yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â Dysgu.