7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Hyd yn hyn, heb gynnwys y cymorth a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £56 miliwn i'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch drwy'r gronfa cadernid economaidd, a bydd cyllid brys, wrth gwrs, ar gael yn awr tan ddiwedd mis Awst…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae gennym heriau gwirioneddol yn y maes hwn, fel y dywed Joyce Watson. Mae gennym ostyngiad o rhwng chwarter a thraean yn y gweithgarwch drwy ein porthladdoedd. Nawr, nid problem yng Nghaergybi yn unig yw honno; mae'n sicr yn broblem fawr i'r fasnach ag ynys…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Gan nad oes gennym gynnig cadarn, dylwn ddechrau drwy ddweud nad oes gennym gynnig i weithio gydag ef. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, mae'r Gweinidog blaenorol wedi ysgrifennu, a bydd y Gweinidog cyllid a minnau'n ysgrifennu eto, cyn ein cyfarfod…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rwyf wedi cael ystod o drafodaethau ar borthladdoedd rhydd gyda chyd-Weinidogion, gan gynnwys y Gweinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw gynnig gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phorthladd rhydd yng Nghymru. Er hynny, mae…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, bydd angen i ddewisiadau mwy hirdymor fod yn amodol ar ein hystyriaethau cyllidebol, ond rwy'n falch fod y Llywodraeth hon yn meddwl o ddifrif am fuddsoddi yn nyfodol trefi—ac mae manwerthu'n rhan bwysig o ymdeimlad o le i'r bobl sy'n byw yn y trefi…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Iawn. Mewn gwirionedd, yn fy ymateb cychwynnol, dylwn fod wedi dweud yn glir, pan siaradaf am weithio gyda hwy, y sector manwerthu, rwy'n golygu busnesau ac undebau llafur. Mae'r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol wedi bod yn adeiladol iawn…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Rydym yn llwyr gydnabod bod pandemig COVID wedi cael effaith aruthrol ar y sector manwerthu. Dyna pam ein bod yn gweithio'n agos gyda hwy i ddatblygu strategaeth fanwerthu a fydd yn amlinellu ein blaenoriaethau a chydweledigaeth ar gyfer dyfodol y…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rydym yn edrych ar arloesi digidol ym maes gweithgynhyrchu. Rydym eisoes wedi creu hyb yng Nghymru a gefnogir gennym hefyd, felly rydym yn edrych ar sut y mae hyn yn gweithio i wahanol fusnesau mewn gwahanol sectorau. Mae hefyd yn rhan o'r gwaith rydym yn…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Credaf mai dyna'r pwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud ar y diwedd, gan y gall technoleg, o'i defnyddio'n gyfrifol, roi mwy o hyblygrwydd i weithwyr a'u galluogi i fod yn fwy cynhyrchiol, fel y mae llawer o fusnesau wedi'i ddarganfod yn ystod y pandemig…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth i ailadeiladu'r economi yn adeiladu ar ganfyddiadau adolygiad yr Athro Phillip Brown yn 2019, gyda ffocws ar gyflymu trawsnewid diwydiannol drwy fanteisio ar dechnolegau newydd a tharfol, megis deallusrwydd…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Yn amlwg, os na fydd Llywodraeth y DU yn rhoi ystyriaeth briodol i'r hyn a fydd yn digwydd nesaf gyda'r pandemig y mae pob un ohonom am ei weld yn dod i ben, gallai hynny arwain at ganlyniadau sylweddol o ran iechyd y cyhoedd a'r economi, ac mae digon o…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae ein safbwynt ar wybodaeth am y farchnad lafur a'r cysylltiadau sydd gennym nid yn unig â'r arolygon ehangach ond gyda'r sectorau busnes eu hunain yn un rydym yn parhau i'w ystyried, wrth inni drafod y llwybr pellach tuag at agor rhannau o'n heconomi, fel…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Credaf mai'r her wrth roi ateb gonest i'r cwestiwn hwnnw yw nad ydym yn gwybod beth yw'r holl broblemau sy'n codi gyda hynny, ac mae'n rhaid inni fod yn onest ynglŷn â hyn. Gwyddom ein bod ynghanol ymchwydd sylweddol o heintiau coronafeirws. Gwyddom fod y…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Credaf fod un neu ddau o bwyntiau i'w gwneud mewn ymateb. Y cyntaf, wrth gwrs, yw bod gennym gynnig mwy hael o lawer i gefnogi busnesau yma yng Nghymru, gan gynnwys y sector twristiaeth, na'r hyn a geir dros y ffin, ac nid yn unig o ran y cymorth cyffredinol…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Iawn, rwy’n cydnabod y realiti fod teithio llesol yn darparu cyfleoedd newydd i hyrwyddo twristiaeth mewn sawl rhan o Gymru, ac mae’r fenter y mae’r Aelod yn ei nodi yn enghraifft dda o’r potensial hwnnw. Nid wyf yn siŵr y gallaf roi sicrwydd llwyr iddo y…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae i sir Ddinbych, a gogledd Cymru gyfan, le amlwg yng ngweithgareddau hyrwyddo Croeso Cymru. Byddwn yn parhau i hyrwyddo cynnig twristiaeth sylweddol sir Ddinbych, ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad, gan gynnwys digwyddiadau unigryw fel Eisteddfod Gerddorol…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, mae'n rhywbeth y mae fy rhagflaenydd, Ken Skates, wedi'i gydnabod, ynglŷn â phwysigrwydd gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a buddiannau economaidd cyffredin. A chredwn fod Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn helpu i ddadlau'r achos dros…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Gallaf, ac wrth gwrs, yn ein maniffesto ar gyfer yr etholiad, soniasom am gael Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus. Ac rwyf wedi cyfarfod ag ystod o brentisiaid a pheirianwyr y genhedlaeth nesaf yn ystod fy ymweliadau ag Airbus a Toyota, ac edrychaf…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Rydym wedi sicrhau bod lefelau digynsail o gyllid ar gael i gefnogi busnesau Cymru drwy'r pandemig. Mae busnesau yn sir y Fflint wedi derbyn £69.7 miliwn mewn cymorth grant ers mis Ebrill 2020, sy'n ychwanegol at ein cymorth helaeth a ddarparwyd gan…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
Rwy'n hapus i roi sicrwydd i'r Aelod ein bod ni'n parhau i ymgysylltu cymaint ag y gallem ni ac y dylem ni fod yn ei wneud â'r cwmni mewn trafodaethau ynghylch eu dyfodol. Mae tua 180 o swyddi rhwng y ddau safle. Mae'r swyddi hynny'n werthfawr, ac rydym ni…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
Wel, mae hwn yn bwynt mewn gwirionedd ynglŷn â sut yr ydym yn parhau i fuddsoddi yn y gweithlu. Ac mae hwn yn faes lle nad yw'r gwaith y byddech chi wedi ei wneud yn y diwydiant dur 20 mlynedd yn ôl y gwaith yr ydych chi'n ei wneud heddiw o reidrwydd ac ni…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
Rwy'n credu bod yr heriau hynny yn hollol deg, ac roeddwn i'n edrych ar y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol wrth sôn am y gofynion ynni gan y cwmnïau hyn—oherwydd, wrth gwrs, fel y bydd Aelodau Caerdydd yn gwybod, mae llawer iawn o'r galw sy'n mynd i drydan…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
Wel, dyma'r union faterion yr wyf i wedi cael sgyrsiau rheolaidd yn eu cylch, nid yn unig â David Rees yn nhymhorau blaenorol y Senedd, ond ar ddechrau'r un yma ac yn wir yn fy sgyrsiau â Community, sef y prif undeb dur ar y Cyngor Dur. Mae amrywiaeth o…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
Rwy'n credu bod dau gwestiwn yn y fan yna, Llywydd, yn ogystal â'r gwahoddiad. Y cwestiwn ynghylch y gwahoddiad: mewn egwyddor, gwnaf, a byddaf yn hapus i weithio gyda chi i geisio dod o hyd i gyfle priodol i ddod i Shotton. Rwy'n credu bod y cwestiwn arall…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
Diolch am y cwestiynau. Fe wnaf i ymdrin ag ymchwil a datblygu nid yn unig yn y sector dur ond yn fwy cyffredinol, a dyma un o'r heriau yn gyffredinol ar gyfer ein dyfodol economaidd, oherwydd pan ddaw'n fater o ddosbarthu cyllid arloesi ac ymchwil a…