20 Medi 2021 , Equality and Social Justice Committee
Dyled a'r pandemig—Sefydliadau cynghori
Diolch, Gadeirydd. Rydyn ni wedi cyffwrdd â rhai o'r pethau roeddwn i'n moyn gofyn, ynglŷn ag effaith anghymesur treth y cyngor ar grwpiau penodol, a'r elfen yma o'r ffaith nad yw'r ffordd mae awdurdodau lleol yn trin adennill dyledion treth y cyngor yn…
20 Medi 2021 , Equality and Social Justice Committee
Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Yn gyflym iawn, jest eisiau ategu yn fanna, rôn i'n falch i glywed bod hyn yn mynd i fynd i sffêr addysg, oherwydd dwi wedi cael gwaith achos yn sgil rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain lle mae yna nifer dda o ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu ar…
20 Medi 2021 , Equality and Social Justice Committee
Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Jest eisiau holi roeddwn i, efallai mewn termau mwy eang: oes gan y Llywodraeth—ac roedd Claire wedi cyfeirio fanna at y gwaith sy'n mynd rhagddo yn yr Alban—a oes gan y Llywodraeth unrhyw ymateb i'r syniad o greu targed, er enghraifft erbyn 2030 neu…
20 Medi 2021 , Equality and Social Justice Committee
Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Os gallaf i jest ofyn un cwestiwn olaf. Rŷch chi'n siarad am dystiolaeth. Yn amlwg mae e'n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd. Wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod y ddyletswydd gymdeithasol economaidd yn ei dyddiau cynnar, ond buaswn i yn hoffi gwybod…
20 Medi 2021 , Equality and Social Justice Committee
Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am hynny. Allaf i ofyn o ran prif-ffrydio? Fe wnaethoch chi gyfeirio ato fe fanna yn eich ateb bod taclo tlodi yn rhywbeth sydd angen mynd i'r afael â fe ar draws sawl portffolio a thrwy'r Llywodraeth. Ydych chi'n gallu rhoi enghreifftiau i ni o sut…
20 Medi 2021 , Equality and Social Justice Committee
Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am hynny. A allaf i jest gofyn yn benodol—? Yn amlwg, mae ehangu cymhwyster prydiau ysgol am ddim yn cael ei gydnabod gan grwpiau sy'n ymgyrchu yn erbyn tlodi a grwpiau dros gyfiawnder cymdeithasol yn un o'r prif fesurau i fedru taclo amddifadedd ac i…
20 Medi 2021 , Equality and Social Justice Committee
Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch, Gadeirydd, a diolch, Weinidog. Eisiau gwybod oeddwn i os oes modd cael diweddariad o ran y trafodaethau neu'r adolygiad sydd wedi bod—mae'n cael ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu ac rydych chi'n cyfeirio ato fe yn fyr iawn yn eich papur…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol
Un ffordd y gall Llywodraeth Cymru liniaru effaith y credyd cynhwysol yw cynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol, y DAF—y cynllun cymorth lles cenedlaethol sy'n darparu grant arian bach ar gyfer costau byw hanfodol, a chefnogaeth i ganiatáu i rywun fyw'n…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol
Dyletswydd y Senedd hon a'r Llywodraeth hon, fel y dywedais ar y dechrau, yw gwasanaethu buddiannau pobl Cymru yn y ffordd orau. Bydd diwedd y cynnydd mewn credyd cynhwysol yn drychinebus i bobl ledled y Deyrnas Unedig, ond bydd teuluoedd yng Nghymru yn cael…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i agor y ddadl bwysig hon ar ran Plaid Cymru, a hoffwn ofyn i fy nghyd Aelodau ddwys ystyried pleidleisio o blaid ein cynnig y prynhawn yma Wrth ymateb i gwestiwn Adam Price yma ddoe, fe glywon ni'r Prif Weinidog…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Mae pris glo wedi bod yn rhy uchel yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau bod popeth yn cael ei wneud fel nad oes rhagor o deuluoedd fel rhai glowyr y Gleision yn talu'r pris ofnadwy ac annerbyniol hwn. Cofiwn amdanynt heddiw.
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Diolch, Llywydd. Mae cymuned cwm Tawe—y gymuned lle dwi'n byw a'r gymuned dwi'n ei chynrychioli—a Chymru gyfan yn cofio heddiw am drychineb pwll glo'r Gleision, a hithau'n 10 mlynedd yn union ers y drychineb. Ar 15 Medi 2011, lladdwyd pedwar glöwr lleol, sef…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch, Weinidog. Rwyf innau, fel Natasha Asghar, yn dymuno codi mater dwyn anifeiliaid anwes gyda'r Gweinidog, ac yn enwedig dwyn cŵn, gan inni weld cynnydd sydyn yn y galw am gŵn bach yn ystod y pandemig, sydd wedi'i gysylltu â'r cynnydd diweddar mewn…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dwyn anifeiliaid anwes ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ56815
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050
—y tu hwnt i'r byd addysg. Beth yw'r cynlluniau, felly, o ran cefnogi'r rhain fel rhan o'r rhaglen waith? Diolch.
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod cwm Tawe yn ei etholaeth ei hun yn ardal ieithyddol arwyddocaol, am ei bod yn cynnwys y nifer a'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac ymysg yr uchaf yng Nghymru gyfan. Mewn perthynas â'r…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyson yn pennu un o'r lefelau uchaf o'r dreth gyngor yng Nghymru. Ni all preswylwyr ddeall pam mae'n costio cymaint yn fwy i gyngor Castell-nedd Port…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru? OQ56766
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mwy na dim ond gwên: A yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael triniaeth ddeintyddol sy'n briodol?
Rwy'n falch o allu gwneud cyfraniad byr i'r ddadl bwysig hon. Mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn nodi, oherwydd y pandemig, sydd wedi gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, fod pobl hŷn a'r rhai sy'n cael eu hystyried yn fregus yn glinigol yn wynebu heriau…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru
Wel, mae'n bleser gwirioneddol dilyn y cyhoeddiad hwn gan y Dirprwy Weinidog y prynhawn yma, ac i siarad ar y cyfle cyntaf y mae'r Senedd hon wedi ei chael i drafod cydraddoldeb LHDTQ+ yng Nghymru, ac rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Fel…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau
Hoffwn i enwebu Rhys ab Owen.
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch, Gweinidog. Er gwaethaf y ffaith bod y rhaglen datblygu gwledig wedi rhedeg am nifer o flynyddoedd gyda'r nod o hyrwyddo twf economaidd gwledig cynaliadwy, rydyn ni'n dal i weld lefelau incwm yn rhai o'n hardaloedd gwledig ni yng Ngorllewin De Cymru yn…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen datblygu gwledig yng Ngorllewin De Cymru? OQ56653
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
Yn gyntaf, felly, ar y cynllun ac ar yr ymgynghoriad, allwch chi esbonio sut mae argymhellion yr Athro Ogbonna wedi'u hymgorffori i mewn i'r cynllun? Yn ogystal, rydych yn ymestyn y cyfnod ymgynghoriad er mwyn sicrhau mwy o fewnbwn. Beth yw eich proses chi o…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
Mae'n rhaid i ni roi i bawb bresenoldeb yn ein hanes, rhan i'w chwarae wrth ddychmygu ein dyfodol a llais ac amlygrwydd yn y presennol.