10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Weinidog, cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, bob tro y soniwch am y Dirprwy Weinidog yn cynnal astudiaeth ddofn—deep dive—rwy’n ei ddychmygu’n gorfforol yn plymio’n ddwfn o bryd i’w gilydd. [Chwerthin.] Ond diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cynnwys Pleidleiswyr
Felly, gan ddod yn ôl at yr ensyniad y byddai dull adnabod pleidleiswyr yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl o'u hawliau democrataidd sylfaenol, mae'n amlwg nad yw wedi cael unrhyw effaith yng Ngogledd Iwerddon. Ac mae gennym broblem yn etholiadau'r…
9 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cynnwys Pleidleiswyr
Rwyf yn dal i synnu at y sylwadau sy'n ceisio awgrymu bod cysylltiadau rhwng terfysg y Capitol a'r drafodaeth ar gynhwysiant pleidleiswyr yma heddiw. Ond diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw. Yn gyntaf, hoffwn ddechrau ailadrodd y pwyntiau y mae…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi wyrddach
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Rwyf i'n sicr yn croesawu'r uchelgais i adeiladu economi gryfach a gwyrddach yma yng Nghymru. Rhan allweddol o sicrhau a gweld llwyddiant yr economi werdd honno yw'r rhan y gall awdurdodau lleol ei chwarae…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, byddwn i'n croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i ymdrin â'r hyn sy'n ymddangos yn brinder sgiliau cynyddol yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, cefais i'r pleser o gwrdd â nifer o fusnesau bach…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur
Rwy'n sicr yn cydnabod hynny a byddaf yn parhau i gefnogi manteision ynni'r llanw o fy ochr i. Efallai nad yw'r cynllun penodol hwnnw wedi bod mor effeithiol â rhai eraill, ond nid yw'n golygu bod ynni'r llanw a'r dechnoleg yn beth drwg. Ac rwy'n credu bod y…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon heddiw, sy'n amlwg yn eang ei chyrhaeddiad o safbwynt ei theitl—gallai'r Aelodau ddilyn sawl trywydd mewn perthynas â'r ddadl hon heddiw. Hefyd, hoffwn groesawu a chefnogi adran gyntaf y cynnig…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n siŵr fod pob plaid ar draws y Siambr yn cefnogi camau i sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu cyrraedd, ac rwyf bob amser yn hapus i ddatgan buddiant fel perchennog daeargi Glen of Imaal hyfryd sy'n ddwy oed. Mae'n bwysig iawn fod gennym y…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr heddiw ynghylch setliadau llywodraeth leol. Weinidog, ymddengys bod gwahaniaeth sylweddol ar adegau rhwng yr hyn y mae arweinwyr cynghorau ac aelodau a etholir yn lleol yn ei ddweud yw'r cyllid…
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod gan ogledd Cymru enw da o'r radd flaenaf am gyflwyno digwyddiadau eithriadol a bod yn gyrchfan fyd-enwog. Ac yn dilyn pwynt y gwnes i ei godi gyda chi cyn yr haf, o ran cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU, rwy'n…
29 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb cryno, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae rhannau sylweddol o economi gogledd Cymru o fewn y sector adeiladu, ac yn ddiweddar cefais y fraint o gyfarfod â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, y CITB, a amlinellodd rai o'r heriau…
29 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
8. Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56919
29 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Yn gyntaf oll, gadewch imi fynegi fy nghefnogaeth innau hefyd i alwad yr Aelod am fuddsoddi ym mhorthladd Caergybi, yn unol â'r cwestiynau a godais gyda'r Prif Weinidog yn y Siambr bythefnos yn ôl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae gan Ynys Môn gyfleoedd unigryw…
28 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad
Ac un o'r elfennau mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu yw cyllid ar gyfer y capasiti hwn o £125,000 i'r awdurdodau lleol hyn er mwyn galluogi'r capasiti hwnnw, fel y gall awdurdodau lleol dynnu'r cyllid hwn i lawr. Pa fath o gymorth y byddech chi'n bwriadu…
28 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw ar y cronfeydd pwysig hyn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn ôl ym mis Mehefin, cawsom ddadl y Llywodraeth ar y pwnc hwn, ac fel y byddech yn ei ddisgwyl, canolbwyntiais fy sylw a fy amser…
28 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb i Siân Gwenllian yn y fan yna. Rwy'n sicr yn cydymdeimlo â'r sylwadau a wnaed drwy Siân Gwenllian gyda'r geiriau gan berchnogion cartrefi gofal a gweithwyr cartrefi gofal. Mae'n anodd, rwy'n credu, i lawer ohonom ni…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am hynny hefyd, Weinidog. Fel y gwyddoch, un o'r materion a godwyd gan y cynghorau yn eu gohebiaeth â Llywodraeth Cymru yw pa mor anodd yw dwyn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif ar brydiau. Yn y llythyr gan arweinwyr y 22 cyngor y cyfeiriais ato, llythyr…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, ddechrau mis Gorffennaf, galwodd arweinwyr 22 awdurdod lleol Cymru ar Lywodraeth Cymru i adolygu pwerau a chylch gwaith y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ofalu am yr amgylchedd yma yng…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Sut y byddech yn disgrifio'r berthynas sydd gan gynghorau â Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd?
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Affganistan
Diolch, Gweinidog, am ddod â'r datganiad heddiw. Rwy'n credu bod llawer o'r pwyntiau yr oeddwn i'n mynd i'w codi gyda chi, mae'n debyg, wedi cael eu gofyn a'u hateb eisoes y prynhawn yma, ond fe hoffwn i gydnabod y gwaith eithriadol sydd wedi cael ei wneud…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw bargen twf gogledd Cymru i'r rhanbarth. Hoffwn i groesawu'r gwaith ar draws Llywodraethau, gydag awdurdodau lleol a chyrff eraill, i weld y cynnydd hwn yr ydym ni i gyd yn dymuno…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gynnydd bargen twf Gogledd Cymru? OQ56839
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Paratoi’r Gyllideb: Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23
Diolch am y cyfle i drafod paratoadau o ran y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fwy neu lai. Mae hon yn ddadl amserol, ac mae'n amlwg yn un eithriadol o bwysig wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19, a hoffwn i droi fy nghyfraniad at lywodraeth…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu'r buddsoddiad hwnnw yn yr ysgol feddygol ym Mangor. Rwy'n siŵr y byddech chithau hefyd yn cytuno bod cael y cyfleusterau iawn ledled y rhanbarth a'r wlad yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod gofal iechyd o…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
8. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru? OQ56795