7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni wedi ymrwymo i wella cysylltedd ar gyfer pobl ledled Cymru drwy gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth sy'n gyfoes ac integredig. Gan weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, fe fyddwn ni'n darparu gwell gwasanaethau rheilffyrdd ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn amlwg, nid yw clymu yn anghyfreithlon, fel dywedodd yr Aelod, ond mae hwnnw'n arfer sy'n codi pryderon sylweddol ynglŷn â lles. Nid oes unrhyw gynlluniau i adolygu'r ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, ond mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn ei gwneud hi'n ofynnol…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mi ydyn ni am adeiladu ar y safonau uchel sydd gennym ni’n barod yng Nghymru. Yn ein maniffesto, mi wnaethon ni ymrwymo i ddatblygu cynllun iechyd a lles anifeiliaid sy’n seiliedig ar wyddoniaeth. Mi fyddwn ni’n gweithio efo rhanddeiliaid, partneriaid…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
'Nid wyf i'n gallu rhoi dyddiad' yw'r ateb. Mae hi'n werth tynnu sylw at ehangder y broblem a gafodd ei chreu. O ran bydwreigiaeth, mae hynny mor ddifrifol ag yw mewn unrhyw faes arall. O'r 135 sydd wedi graddio, mae 70 dal i fod heb swyddi. Nawr, mae hynny'n…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag AaGIC, sefydliadau GIG Cymru a'r prifysgolion i fonitro canlyniadau cyflogaeth ar gyfer nyrsys a graddedigion bydwreigiaeth sydd newydd gymhwyso yn dilyn proses symleiddio GIG Cymru yn 2026. Cynhaliodd y Gweinidog…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
O ystyried y pwysau ar wasanaethau canser, mae hi'n bryderus iawn o ddarllen y materion a godwyd gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr. Rwy'n sicr yn cydnabod y pryderon hynny ac yn cytuno bod capasiti gweithlu mewn radioleg ac oncoleg yn her sylweddol ar hyn o…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r GIG yn wynebu pwysau parhaus oherwydd y galw cynyddol am ymchwiliadau a thriniaeth ar gyfer canser, ochr yn ochr ag anghenion gofal a dewisiadau triniaeth sy'n cynyddu yn eu cymhlethdod. Rydym ni'n cyflwyno cynllun canser cenedlaethol a strategaeth…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf i wedi dadlau'r achos ers amser maith—ac rwy'n croesawu'r sylwadau yna gan yr Aelod—bod yn rhaid i dorri'r ddibyniaeth ar asiantaethau fod wrth hanfod gwneud ein gwasanaethau iechyd yn fwy cynaliadwy. Rwy'n nodi bod rhan o'r cynlluniau hynny gan fwrdd…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Llywodraeth yn cadw ei lefel hi o ymyrraeth dan adolygiad bob amser. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau bod y byrddau iechyd yn cyflawni er mwyn pobl Cymru. Mae hi'n bryderus iawn, ac felly y bu hi. Fe dreuliais i'r rhan helaethaf…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Materion i'r byrddau iechyd eu hunain, wrth gwrs, yw penderfyniadau ar y gweithlu. Mae angen i bob sefydliad yn y GIG fod â chynllun gweithlu eglur sy'n cefnogi darpariaeth ddiogel o'u modelau gwasanaeth, gan gadw'r cynlluniau hynny dan adolygiad, yng…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rhaid i gynllunio'r gweithlu wella ar draws GIG Cymru, a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno strategaeth gweithlu genedlaethol newydd ar gyfer y GIG. Byddaf yn ymgysylltu â sefydliadau, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ar ein…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n bryder gwirioneddol, y miloedd o welyau cymunedol rydyn ni wedi'u gweld yn cael eu colli dros y degawdau diwethaf yng Nghymru, ac mae hynny'n cael effaith. Mae colli gwelyau cymunedol yn golygu her ychwanegol o ran symud cleifion allan o ysbytai…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae yna nifer o bwyntiau y mae angen mynd i'r afael â nhw yn y fan yna. O ran nifer y bobl o Gymru sy'n gorfod cael mynediad at wasanaethau dros y ffin yn Lloegr oherwydd nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru, mae hynny'n ddadl rydw i wedi'i gwneud ers amser…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Meddai ef drwy ymagweddu gwleidyddol, a dyna'r pwynt. Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o sicrhau nad oes unrhyw ran o Gymru yn teimlo ei bod yn colli allan ar y lefel o wasanaeth iechyd sydd ei angen arni, boed yn bobl ar draws y gogledd sy'n wynebu'r…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gywir, wrth gwrs. Mae yna lawer o lif y ddwy ffordd. Os ydyn ni'n edrych ar ofal sylfaenol, mae yna 13,000 o bobl o Gymru wedi’u cofrestru efo GPs yn Lloegr, a bron i 21,000 o bobl o Loegr wedi’u cofrestru efo GPs yng Nghymru. Felly, mae hon yn…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n broblem fawr. Mae rhannu cofnodion meddygol ar draws ffiniau yn gymhleth oherwydd bod GIG Cymru a GIG Lloegr yn defnyddio sawl system ddigidol. Mae gan sefydliadau lleol drefniadau cilyddol lle y bo'n bosibl, wedi'u cefnogi gan egwyddorion trawsffiniol…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn glir na ddylai cleifion o Gymru sy'n cael gofal iechyd yn Lloegr wynebu rhwystrau anghymesur wrth gael mynediad at wasanaethau. Er mai byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am gynllunio, sicrhau a darparu gwasanaethau iechyd i'w…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roeddwn i'n siarad mewn digwyddiad busnes yng Nghaerdydd ychydig cyn yr etholiad ac roedd y plethora presennol o sefydliadau sy'n ceisio gwneud gwaith da yn cael eu cymharu â phlât o sbageti, ac mai'r hyn yr oedd angen i ni ei wneud oedd datod y plât hwnnw a…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un o'r pethau pwysicaf i'w hystyried wrth sefydlu asiantaeth yw sut allwn ni ei sefydlu i wneud y mwyaf o'r dalent, yr asedau a'r adnoddau helaeth sydd gennym ledled Cymru gyfan. Bydd angen iddi greu'r math o amodau i fusnesau arloesi, tyfu a chael mynediad…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni'r adnoddau cywir i adeiladu economi gryfach i Gymru, ac rydyn ni'n credu'n gryf bod cael asiantaeth ddatblygu yn rhan bwysig o wneud hynny. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gwrthwynebu'r syniad o gael asiantaeth…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni wedi cyhoeddi ein targedau i haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Mae galwadau eang wedi bod am asiantaeth ddatblygu newydd i helpu Cymru i wynebu'r her honno. Bydd y Gweinidog Cabinet dros Fenter…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Er bod Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio pob ysgol annibynnol gofrestredig, mater i'r perchenogion yw sut maen nhw'n llywodraethu ac yn rheoli eu hunain. Nodaf hefyd, wrth gwrs, mai materion a gedwir yn ôl yw'r penderfyniadau hynny ar TAW, y penderfyniadau…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae fy Ngweinidog Cabinet dros addysg wedi cyhoeddi ein bod ni hefyd yng Nghymru eisiau cyflwyno'r canllawiau statudol hynny i gyflawni'r nod y mae'r Aelod yn dweud ei fod eisiau ei gyflawni. Mae amseru hyn, yn y bôn, o gwmpas gwyliau'r haf ac eisiau gweithio…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ceisio bod mor adeiladol ag y gallaf yma. Mae'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu o ran ADY wedi cael eu hachosi gan 27 mlynedd o Weinidogion addysg Llafur. Rydyn ni eisiau gweithio gyda'r grŵp presennol hwn ac unrhyw un arall i wneud yn siŵr ein bod ni'n…
7 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod, wrth gwrs, ar ddiwedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, na wnaethon nhw benderfyniad i wario arian ar anghenion dysgu ychwanegol oherwydd bod penderfyniad wedi'i wneud gan yr arweinydd Llafur ar y pryd nad dyna oedd y flaenoriaeth…