15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Ledled y DU, fe ddylem ni—. Mae yna ddiddordeb o ran sicrhau pan fydd Trysorlys yn gwneud penderfyniadau ar wariant eu bod yn cael eu gwneud yn deg. Mae'n berthnasol i'r Alban, yn berthnasol i Ogledd Iwerddon, mae'n berthnasol…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wthio'r achos dros setliad cyllido tecach i Gymru. Mae hynny'n golygu nifer o wahanol bethau. Pan wnes i gyfarfod â Phrif Weinidog y DU yn Glasgow ym mis Gorffennaf, fe wnes i bwysleisio'r angen i fynd i'r afael â…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r gair hwnnw, 'gwydnwch', yn un pwysig. Fe fyddwn ni'n defnyddio 'cynaliadwyedd'. Maen nhw'n golygu'r un peth yn union o ran rhywbeth fel hyn: bod â gwasanaethau sefydlog. Yn yr achos arbennig hwn, roedd y saib yn angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n gwybod i hwn fod yn gyfnod arbennig o ofidus i'r rhai hynny yr effeithiwyd arnynt. Mae'r mater uniongyrchol o ran y gweithlu a oedd yn effeithio ar y gwasanaeth wedi cael ei ddatrys erbyn hyn—dyna'r newyddion cadarnhaol—sy'n caniatáu i gynllunio…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn i fynegi rhwystredigaethau ynglŷn â'r hyn a ddaeth o'r buddsoddiad hwnnw neu beidio. Cafodd ei bwrpas ei newid ar un adeg, ond un peth a wnaethom ni'n glir o'n safbwynt ni—rydym ni'n dal i egluro hynny yn y Llywodraeth—yw bod yn rhaid i ni…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cefnogi'r diwydiant dur a chymunedau dur sy'n dibynnu arno fo ledled Cymru yn hollbwysig i'r Llywodraeth yma. Cyn ymweliad diweddar Prif Weinidog y Deyrnas Unedig â Phort Talbot, mi wnaeth ein Dirprwy Brif Weinidog ni siarad yn gyhoeddus am yr angen i…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
O ystyried pwysigrwydd addysg, rwy'n synnu ei fod wedi gwastraffu rhywfaint o'i gwestiwn yn trafod materion cyfansoddiadol, a bod yn onest. Mae gennym ni benderfyniad fel Llywodraeth i edrych ar ein cofnod hanesyddol fel cenedl addysgu falch—un o'r…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r canlyniadau PISA hyn, a dweud y lleiaf, yn hynod siomedig. Maen nhw'n tanlinellu i mi faint yr her sy'n ein hwynebu. Maen nhw'n atgyfnerthu penderfyniad y Llywodraeth hon i fabwysiadu dull newydd a thrwyadl o godi safonau. Byddwn yn uchelgeisiol, heb…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn, ac mae'n broblem ryngwladol. Rydym ni wedi gweld rhai dinasoedd mawr yn cymryd camau ar Airbnb. Rydym ni'n tueddu yng Nghymru i edrych ar yr ardaloedd glan môr mwy poblogaidd, oherwydd dyna lle tybir fod y problemau yn fwy…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Does dim rhaid i chi feddwl yn galed iawn i weithio allan y tlodi y mae rhywun yn cael ei yrru iddo mewn termau real pan fo ganddyn nhw gyn lleied o'i incwm yn weddill ar ôl talu ei rent. O ran y materion sy'n achosi hynny, mae llu ohonyn nhw. Mae cyflenwad…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel yr wyf i wedi ei nodi sawl gwaith yn y Siambr hon, mae gennym ni lawer o bwysau ar dai. Nid yw'r pwysau hynny, pan edrychwn ni ar y darlun ehangach, yn dod gan bobl sydd wedi cyrraedd o dramor yn ddiweddar. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig canolbwyntio ar y…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaf i gyfeirio'r Aelodau, yn gyntaf oll, at fy natganiad o fuddiant fel cyfranddaliwr mewn cwmni sy'n gosod eiddo domestig. Mae cryfhau'r sector rhentu preifat yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud hynny'n eithaf eglur…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n un o'r meysydd hynny lle mae angen triniaeth gyflym arnoch chi er mwyn osgoi niwed mwy parhaol. Mae gennym ni ddau offthalmolegydd yn eistedd yma yn Siambr y Senedd sy'n gwybod llawer mwy nag yr wyf i. Cyfeiriodd yr Aelod at gyflwyno darparwyr preifat…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n cydnabod bod pobl sy'n aros am lawdriniaeth cataract eisiau triniaeth cyn gynted â phosibl, yn amlwg. Dyna pam rydym ni wedi ymrwymo £145 miliwn ychwanegol eleni i leihau amseroedd aros, i wella mynediad ac i gefnogi trawsnewid gwasanaethau dan…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid yw'n fater yr wyf i wedi ei drafod yn benodol gyda'r Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, ond mae'n sicr yn rhywbeth yr wyf i'n barod i edrych arno a gweld ble fyddai ein safbwynt. Yn y pen draw, rwy'n bryderus iawn am effaith y dyledion y mae…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n fater y mae'n rhaid i ddarpar fyfyrwyr ei ystyried fwy a mwy. Cefais fy stopio gan ŵr ifanc ddoe a oedd wedi cynhyrfu o weld gwleidydd ac eisiau llun. Roedd yn astudio ar gyfer gradd gwleidyddiaeth, athroniaeth ac economeg yn y Brifysgol Agored ac roedd…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf i wir yn gwerthfawrogi'r ffordd y mae'r cwestiwn wedi cael ei fframio, oherwydd rwy'n cysylltu fy hun â'r disgrifiad hwnnw o fregusrwydd y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae'n rhywbeth a ddylai ein poeni ni i gyd am ddyfodol addysg a dysgu ei hun, am yr…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ffioedd dysgu yn cael eu pennu gan sefydliadau addysg uwch, ac mae myfyrwyr cymwys yn derbyn benthyciadau i dalu cost lawn eu haddysg. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ffioedd ochr yn ochr â chynaliadwyedd hirdymor addysg uwch ei hun yn ein hadolygiad…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Pryd fyddwn ni'n gweld newid yn y Ceidwadwyr o'r grwgnach yr ydym ni bob amser yn ei glywed o'u meinciau ar y materion hyn, yn hytrach na gweithio'n adeiladol? Mae gennym ni gynnig yma i weithio'n adeiladol, i chwilio am syniadau, ac mae hynny'n cynnwys…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n myfyrio heddiw ar y glymblaid hon o farweidd-dra sydd gan Reform, y Ceidwadwyr a Llafur pan ddaw i symud Cymru ymlaen. Mae symud Cymru ymlaen a chwilio am atebion ymarferol i'n problemau yn golygu dysgu oddi wrth eraill o ran dyfodol y gwasanaeth…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cryn dipyn i'w ddehongli yn y cwestiwn hwnnw. Mae cyfeiriad yn y fan yna at yr angen i weithio mewn ffordd gydsyniol. Rwy'n dechrau'r tymor hwn yn y ffordd y dechreuais y tymor cyntaf ar ôl yr etholiad gan ei gwneud hi'n eglur iawn, iawn bod hon yn…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at anghydfod sy'n achosi rhwystredigaeth gwirioneddol. Mae'n sicr yn rhywbeth yr wyf i'n ei deimlo. Mae'n anghydfod a etifeddwyd gennym ni, wrth gwrs, gan y weinyddiaeth flaenorol. Yr hyn sy'n eglur, fel y dywedodd y cyn-Brif…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe ddywedaf i wrthych chi beth, mae holl stereoteipiau Reform yn cael eu clywed heddiw. Mae cyfrifoldeb gan Lywodraeth y DU am y rhybudd brys. A wyddoch chi beth, a wnaethon nhw ei wneud yn iawn? Yn amlwg wnaethon nhw ddim ei wneud yn iawn. Roedd problem…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe ddywedaf i wrthych chi beth, Lywydd, os yw'r Aelod yn meddwl y gallwch chi wneud un peth ar y pryd yn unig mewn Llywodraeth, dylai gefnu ar ei huchelgeisiau nawr, oherwydd mae'r cwbl yn fater o ymdrin â llu o faterion sydd o fudd adeiladu ein cenedl. Mae'n…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wyddoch chi beth roedd gen i fandad i fynd ar ei drywydd? Yr hyn yr oedd gen i fandad i fynd ar ei drywydd oedd y gorau i Gymru, bob amser. Felly, pan fyddaf i'n ymgynnull ag arweinwyr o'r un anian ar draws yr ynysoedd hyn, yn edrych ar sut y gallwn ni…