30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yn hollol, ac mae hynny'n rhywbeth roeddem yn pwyso ar Lywodraeth y DU i'w ddarparu cyn datganiad yr hydref a chyn y gyllideb cyn honno, mewn gwirionedd. Ond o ran trafodaethau gyda chwmnïau ynni, mae'r rheini'n tueddu i ddigwydd rhwng y Gweinidog Cyfiawnder…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y trafodaethau cyllidebol parhaus sy'n digwydd yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond rwyf am ddweud bod y pwysau ar addysg, fel y disgrifiodd yr Aelod, wedi cael ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru yn amlwg iawn gan…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr: mae angen i Lywodraeth y DU fod yn defnyddio ei holl ddylanwad ar y cwmnïau ynni i leihau effaith yr argyfwng costau byw ar y bobl fwyaf agored i niwed. Ac i dawelu meddwl yr Aelod—a gallwn glywed llawer o gefnogaeth i'r hyn a…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae chwyddiant o dros 10 y cant wedi erydu gwerth cyllidebau llywodraeth leol i raddau pryderus. Yn ogystal ag effaith costau cynyddol ar gyfer ynni, cyflogau, trafnidiaeth a bwyd, mae cynghorau hefyd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r effeithiau ar eu…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae'r cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai, a weinyddir gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, 26 y cant yn llai yn 2022-23 nag yn y flwyddyn flaenorol. A chan gofio ein bod mewn cyfnod ofnadwy, o ran y pwysau ar aelwydydd, nid dyma'r amser o…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd ledled Cymru, ac i gefnogi hyn rydym yn buddsoddi dros £197 miliwn mewn gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai, yn ogystal â'r buddsoddiad mwyaf erioed o £310 miliwn mewn tai…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae digartrefedd yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â sut y gallwn weithio gydag awdurdodau lleol i roi atebion trawsbynciol ar waith.
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Bydd eich etholwyr yn cael eu hamddifadu. Bydd pob un o'n hetholwyr yn cael eu hamddifadu, am fod cymaint o fwlch mewn cyllid cyhoeddus, ac mae goblygiadau yn sgil hynny i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'r gwasanaethau y mae pobl yn eu cael yn eu cymunedau…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Er mwyn rhoi syniad o sut rydym yn ymdrin â'r trafodaethau cyllidebol ar draws y Llywodraeth, rydym yn edrych, yn anad dim, ar dri nod penodol. Y cyntaf, yn amlwg, yw cyflwyno cyllideb gytbwys, ac mewn gwirionedd, mae…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Er gwaethaf rhywfaint o arian refeniw ychwanegol drwy ddatganiad yr hydref, nid yw hyn wedi bod yn agos ddigon i lenwi’r bwlch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Golyga hyn fod Gweinidogion yn wynebu penderfyniadau anodd wrth inni baratoi ar gyfer y gyllideb…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yn sicr, ein nod yw defnyddio’r holl arian Ewropeaidd sydd wedi dod i Gymru, ac mae hynny, a dweud y gwir, yn un o’r arfau sydd gennym i allu rheoli ein cyllideb o fewn y flwyddyn ariannol—i wneud penderfyniadau ynghylch pryd yn union rydym yn defnyddio'r…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n fwy na pharod i egluro'r sefyllfa ar y ddau fater hynny, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud hynny, yn enwedig mewn perthynas â’r cwestiwn cyntaf. Ar 5 Awst, ysgrifennais at y Pwyllgor Cyllid, ac ers hynny, mae’r llythyr hefyd wedi’i rannu â'r…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddwn yn dweud bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod yn gweld pwysau a bylchau enfawr yn eu cyllideb, yn y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf, a’u bod yn dibynnu ar eu cronfeydd wrth gefn, yn rhannol, i fynd i'r afael â'r her honno…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n deall y cwestiwn, ac a bod yn deg â’r Aelod, mae’n gwestiwn y mae’n ei godi’n rheolaidd. Nid wyf yn rhannu’r lefel honno o bryder ynghylch lefel y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol, gan y credaf, a ninnau ar drothwy blwyddyn neu ddwy anodd…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol i gydweithiwr yr Aelod, ond rwyf am ddweud hefyd fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd iawn ag arweinwyr llywodraeth leol. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â swyddogion, yn cynnwys trysoryddion ar draws llywodraeth…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddaf yn goleuo’r Aelod ar 13 Rhagfyr, Lywydd, pan fyddaf yn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft. Nid oes llawer i aros tan hynny, ond mae llawer o waith y mae angen ei wneud yn gyflym rhwng nawr a'r adeg honno. Ond ar 13 Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi cyllideb ddrafft…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei chwestiwn, ac am ailadrodd yr un neges a glywaf gan arweinwyr hefyd o ran y pwysau penodol ar ofal cymdeithasol. Maent hefyd yn awyddus iawn i dynnu fy sylw at y pwysau ym myd addysg, a dyna ddau o'r prif feysydd gwariant…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cyn datganiad yr hydref, galwais ar y Canghellor i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Er bod rhywfaint o arian ychwanegol wedi'i ddarparu yng nghyhoeddiadau Llywodraeth y DU, nid oedd yn ddigon fynd i’r afael â’r bylchau sylweddol yn y cyllid ar…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yn sicr. Credaf fod awdurdodau lleol wedi bod yn hynod dryloyw o ran yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu, ac rwy'n falch eu bod wedi gallu cynnig cyfleoedd, ar sail ranbarthol, i holl Aelodau'r Senedd ddeall y pwysau hwnnw'n well ar lefel leol iawn. Gwn…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb gwreiddiol, sy’n rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau o'r Senedd fy mod yn trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gyda hwy yn rheolaidd fel rhan o’n trafodaethau cyffredinol mewn perthynas â chyllid. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn…
30 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o’n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i fynd i'r afael â'u pwysau presennol ac yn disgwyl…
22 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gloi'r datganiad y prynhawn yma trwy nodi rhai o'r pethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gefnogi'r rhai mwyaf bregus ac i amddiffyn dinasyddion yma yng Nghymru, oherwydd dyna'n wir yw'r gwaith sydd o'n blaenau nawr…
22 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol
Rwy'n cytuno â Joyce Watson ar y pwynt arbennig hwnnw. Ond, ydy, rwy'n credu ei bod hi'n ddigon hawdd dyfynnu rhai ffeithiau dethol, ond, na, mae'n ffaith sicr bod y gyllideb fach wedi costio i'r wlad hon, wedi costio pob un ohonom ni, pawb yng Nghymru…
22 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol
Ydw, rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny, ac mae Carolyn Thomas bob tro yn amddiffyn y llywodraeth leol yn gryf ac yn gwneud achos cryf drosti. Cefais i gyfle i gwrdd ag arweinwyr y llywodraeth leol a phrif weithredwyr bore ddoe, i siarad am…
22 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol
Diolch yn fawr iawn am godi'r pwyntiau penodol hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn wir y dylem ni fod yn ystyried defnyddio'r arian yn ddoeth, ac i fod yn meddwl yn arbennig am beth yw'r canlyniadau o ran y penderfyniadau y gallem ni fod yn eu gwneud, a…