4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am y cwestiwn. Mae fy swyddogion yn edrych yn ofalus ar yr ymchwil. Un cwestiwn rwyf wedi ei ofyn iddynt yw i ba raddau y byddai'n gwneud gwahaniaeth i'r fformiwla—a fyddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol ac ystyrlon i'r swm o arian y byddai awdurdodau…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dyrannwyd dros chwarter y setliad llywodraeth leol diweddaraf ar sail 22 o ddangosyddion amddifadedd, gan alluogi awdurdodau lleol i nodi a darparu cymorth i’r ardaloedd lle mae fwyaf o angen.
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n awyddus iawn i barhau â’r trafodaethau hynny gyda llywodraeth leol, a bod mor agored a gonest gyda nhw ag y gallwn fod ar bob pwynt o'r broses hon. Fel y dywedais, bûm yng nghynhadledd CLlLC ac fe gyfarfûm â swyddogion gweithredol llywodraeth leol Cymru…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag awdurdodau lleol yn yr is-grŵp cyllid a’r cyngor partneriaeth i drafod cyllidebau a phwysau. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet hefyd yn cyfarfod yn aml â chynghorau i drafod materion sy’n ymwneud â’u portffolios.
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
—yna, rwy’n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny. Mae’r Aelod yn dweud ei fod yn ateb stoc, ond mae’r Aelod yn gofyn y cwestiwn i mi drwy’r amser, ac nid yw’r ateb wedi newid.
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, hoffwn ddweud bod 72 y cant o’r cyllid yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol, ac mae hynny’n cynnwys y data poblogaeth, sy’n 25 y cant o’r cyllid. Mae hwnnw eisoes yn defnyddio'r data poblogaeth diweddaraf. Daw hwnnw o gyllideb 2020-21. Rhoddais yr wybodaeth…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n trafod y fformiwla gyllido yn rheolaidd gydag is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth. Mae’r fformiwla gyllido’n parhau i gael ei datblygu a’i chytuno gyda’r is-grŵp dosbarthu i ddiweddaru ac adolygu’r data a’r ffactorau yn y fformiwla gan gynnwys…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am y cwestiwn. Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod cefnogaeth drawsbleidiol sylweddol i beth o'r hyblygrwydd cyllidol eithaf syml rydym yn gofyn amdano. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi awgrymu y byddai’n beth rhesymol i…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr â hynny. Mae ein terfynau benthyca yn fach iawn, a dyna un o’r rhesymau pam ein bod wedi gor-raglennu ein cyllideb gyfalaf eleni o £100 miliwn, er mwyn ceisio diogelu rhag unrhyw lithriant ac i wneud y defnydd mwyaf posibl o’r bunt…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwyf wedi dadlau dros fwy o bwerau benthyca i Lywodraeth Cymru dro ar ôl tro. Pan wneuthum gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fis diwethaf, dadleuais y dylai’r gwelliannau diweddar i derfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn o fewn fframwaith cyllidol…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Un darn pwysig iawn o waith rydym wedi bod yn ei wneud gyda'n grŵp cynghori ar y gyllideb oedd edrych ar sut rydym yn diffinio ac yn mesur gwariant ar atal a chamau ataliol. Rwy’n credu bod y gwaith hwnnw wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn helpu pob un ohonom i…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n credu bod yr Aelod yn bod braidd yn anonest yn y cyfraniad hwnnw, mae arnaf ofn, oherwydd mae’n methu cydnabod bod ysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu drwy lywodraeth leol a thrwy’r grant cynnal refeniw. Ar ôl datganiad y gwanwyn, roeddwn yn glir…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog sy’n arwain y gwaith o ddatblygu’r strategaeth hon yn ymwybodol o’r sylwadau hynny, er y credaf ei bod, yn ôl pob tebyg, wedi derbyn sylwadau gan yr un sefydliadau. Ond o ran sut rydym yn ystyried hawliau plant a’r effeithiau…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae adolygu llinellau’r gyllideb wedi bod yn broses gymhleth, ac nid yw wedi digwydd allan o gyd-destun. Rydym wedi bod yn gweithio’n adeiladol ar draws y Llywodraeth i ddeall effeithiau penderfyniadau a sicrhau bod yr effeithiau cronnol—gan gynnwys y rheini…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwyf wedi bod yn falch iawn o fod mewn cysylltiad ag arweinydd cyngor Llafur Abertawe—er y dylwn ddweud, Lywydd, fod hynny yn fy rôl fel AS yn hytrach na fy rôl weinidogol—ond y nod yw cael sgwrs cyn bo hir i drafod y pryderon penodol hynny. Nodais fy niolch…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyllid, y fframwaith deddfwriaethol a’r canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn ffordd sy’n darparu hyblygrwydd er mwyn adlewyrchu anghenion lleol.
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yr hyn yr hoffwn ei ddweud yw y buaswn yn disgwyl i bob awdurdod lleol weithredu’n unol â’r safonau uchaf wrth recriwtio i swyddi o fewn eu sefydliadau, a gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw. Credaf fod digon o ddeddfwriaeth ar waith i gefnogi hynny. Ond…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae deddfwriaeth yn gosod llawer o ofynion ar awdurdodau lleol i fod yn agored ac yn dryloyw. Hefyd, cyhoeddais ganllawiau statudol diwygiedig yn ddiweddar i gynorthwyo cynghorau i ymgysylltu’n effeithiol â thrigolion. Mae archwilwyr a rheoleiddwyr yn…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Felly, ychydig o bwyntiau allweddol i’w dweud. Yn gyntaf oll, rydym wedi diogelu’r grant cynnal refeniw yn y flwyddyn ariannol hon, ond wrth gwrs, bydd awdurdodau lleol yn teimlo effaith chwyddiant eu hunain, felly ni fydd eu harian yn mynd mor bell ag y…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yn sicr. Felly, yn gyntaf, hoffwn gydnabod a derbyn y pwynt y mae Peredur wedi’i wneud ynglŷn â'r pryder y mae sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus yn ei deimlo ar hyn o bryd. Ac o ran sut y cyrhaeddwyd y ffigur o £900 miliwn, cynhaliwyd ymarfer gan…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n cyfarfod ag awdurdodau lleol yn rheolaidd, ac yn ddiweddar, bûm yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â gweithrediaeth CLlLC. Mae’r grant cynnal refeniw wedi’i ddiogelu mewn penderfyniadau ynghylch cyllideb…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Felly, yr asesiad o argaeledd cronfeydd wrth gefn i awdurdodau lleol ar hyn o bryd yw y byddai cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu heb eu dyrannu, ar lefel Cymru gyfan, yn talu am 10 diwrnod yn unig o gostau llywodraeth leol. Nawr, rwy'n gwybod, wrth gwrs…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, rwyf am ddechrau drwy fyfyrio ar y sylwadau a wnaed gan y Canghellor ddoe am y sefyllfa o ran economi’r DU. Ymddengys ei fod yn fodlon iawn ar ei pherfformiad ar ôl Brexit. Wel, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Canghellor, mae ffigurau swyddogol…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae hynny fel cael rhywun yn mynd â £100 o'ch poced ôl, cael £5 yn ôl a bod disgwyl ichi fod yn ddiolchgar amdani. Hynny yw, mae hwn yn arian a ddylai fod wedi dod i Gymru ac a fyddai wedi dod i Gymru pe bai Llywodraeth y DU wedi cadw at ei haddewid i…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gallaf gadarnhau nad wyf yn cael unrhyw drafodaethau ar hyn o bryd gydag unrhyw gyngor ynglŷn ag ardoll ar barcio yn y gweithle.