25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Credaf fod yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd gennych yn Ystrad Mynach yn ficrocosm o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru yn yr ystyr fod 376 o ganghennau banc wedi cau yng Nghymru ers mis Ionawr 2015. Mae honno'n…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rydym yn parhau i bwyso ar Cash Access UK, sy’n arwain ar ddatblygiad hybiau bancio a rennir, i gyflymu hyn yng Nghymru. Mae cyfanswm o 81 wedi eu hagor yn y DU hyd yma. Mae 15 arall i’w cyhoeddi cyn bo hir, gyda Threfynwy wedi’i chynnwys ar y rhestr.
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â hyn. Nid yw gwella cynhyrchiant yn ymwneud â gwneud i bobl weithio’n galetach. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gweithio yn yr amgylcheddau sydd eu hangen arnynt er mwyn bod yn gynhyrchiol, a bod y busnesau y maent yn…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Felly, mae llawer yn eich cwestiwn. Ond credaf fod yn rhaid imi gydnabod y cyfeiriad a wnaethoch at Tata, oherwydd, wrth gwrs, bydd cau ffwrnais chwyth 4 a'r asedau trwm sy'n weddill ym Mhort Talbot cyn bo hir yn dod â chynhyrchiant dur traddodiadol i ben yng…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac eto am y croeso i'r swydd. Roedd yn dda iawn siarad gyda chi ddoe am eich blaenoriaethau penodol a’ch meysydd arbenigedd, gan gydnabod bod gennym lawer o feysydd y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd arnynt hefyd rwy'n siŵr…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac fel chi, yn cydnabod pwysigrwydd buddion cymunedol, a hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y rheini'n cael eu cynnal yn y dyfodol. Felly, nid yw hyn o reidrwydd, fel y dywedwch, yn ymwneud â phethau bach unigol ond â…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr am y gwahoddiad i ymuno â chi ddydd Gwener. Mae’n ddrwg gennyf nad wyf yn gallu gwneud hynny oherwydd ymrwymiad blaenorol, ond roeddwn yn ddiolchgar iawn am y gwahoddiad a byddaf yn sicr yn dod i ymweld ar ryw adeg arall…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Wel, yn gyntaf oll, rwyf am ddechrau drwy ddiolch yn fawr iawn i Sam Kurtz am y croeso cynnes i’r rôl, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chi, ac at gyfarfod â Luke Fletcher hefyd. Gwn y bydd digon o adegau pan fydd gennym farn wahanol, o ran…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Wel, hoffwn ddechrau drwy ailadrodd ein bod yn canolbwyntio’n agos ar gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd, ac mae’r £25 miliwn y llwyddodd Llywodraeth Cymru i’w ddarparu yn ôl ym mis Mawrth 2021 yn hollbwysig i hynny gan ei fod yn galluogi’r prosiect i symud…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n fwy na pharod i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r prosiect, ac wrth gwrs, i gydnabod y ffaith bod Lesley Griffiths wedi hyrwyddo hyn ers amser maith hefyd. Mae ein brwdfrydedd dros hyn yn ddiamau. Gwyddom fod Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi egluro…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yn Wrecsam i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn ar Ffordd yr Wyddgrug. Mae ein huchelgeisiau cyffredin i ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig a theithio llesol a hwyluso pêl-droed…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, ac fel y dywed Russell George, mae’n broblem dda i’w chael, ond yn sicr, mae'n un y mae angen inni fod yn gweithio i’w datrys. Felly, mae'r eiddo y gallwn ei ddarparu a'i nodi yn rhan o'n cynnig economaidd i Gymru, gan…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy’n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma. Fel y mae'n cydnabod yn gywir ddigon, nid yw'n fater datganoledig, ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn fater nad yw Llywodraeth Cymru yn poeni amdano. Ac yn wir, yn ddiweddar…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae ein cynllun ar gyfer cefnogi’r economi ledled Cymru wedi’i nodi yn ein cenhadaeth economaidd, yn benodol i sicrhau pontio teg i economi werdd a chynhyrchiol, platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant, partneriaethau cryfach ar gyfer…
6 Awst 2024 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Eluned Morgan.
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Wynebu'r argyfwng: Mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru
Mae ein cynllun gweithredu rhoi diwedd ar ddigartrefedd, sy’n cynnwys camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc ym maes tai a chymorth, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lle mae gan bawb gartref diogel sy’n diwallu eu hanghenion ac sy'n cefnogi…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Wynebu'r argyfwng: Mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru
Diolch. Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma, ond hefyd i'r holl gyd-Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau fod atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26
Mae hynny'n garedig iawn; diolch. Hoffwn ddweud 'diolch' wrth gyd-Aelodau sydd wedi ymgysylltu â'r cwestiynau ynghylch arbedion ac effeithiolrwydd gwariant a defnyddio dulliau gweithredu eraill fel cynllunio. Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn ymyriadau pwysig…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26
Mae yna offer ar gael i Lywodraeth y DU wrth gwrs—er enghraifft, y cyhoeddiadau ynghylch pobl â statws byw tu allan i'r wlad, mewn perthynas â TAW ar gyfer ysgolion preifat. Dyma ychydig o feysydd lle mae wedi dweud y bydd yn gweithredu, ac fe welsoch chi…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw, a hoffwn ddiolch yn fawr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma, ac wrth gwrs hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymarfer ymgysylltu'r pwyllgor, sy'n…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r cyllid a ddarparwn ar gyfer tai yn gyfalaf, ac yn yr ystyr hwnnw mae'n cymryd cyfran lawer mwy o'r gyllideb gyfalaf. Ac mewn gwirionedd, mae ein hymrwymiad i dai cymdeithasol yn amlwg wedi'i ategu gan ein cyllid o dros £1.4…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Byddaf yn parhau i gael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio fel rhan o'n proses gyllidebol flynyddol, ac mae monitro rheolaidd hefyd yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r portffolio hwnnw. Er fy mod yn cydnabod yr…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Byddai angen i unrhyw benderfyniadau yn hynny o beth gael eu gwneud o fewn y prif grŵp gwariant penodol, ond gallaf ddweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i drafod ei gynigion, gyda fy nghyd-Aelod Lynne…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Yn ddiweddar, cytunais i ddyrannu £5 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i'r prif grŵp gwariant diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n gwybod y gellir comisiynu cwmnïau buddiannau cymunedol a busnesau eraill o fewn clystyrau gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaethau lleol i'r gymuned, ac rydym eisiau gweld mwy o fyrddau iechyd lleol a gwasanaethau llesiant yn cydweithio i ddarparu'r…