2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn falch, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o allu darparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol mewn perthynas â'r pwysau sy'n gysylltiedig â chyflogau athrawon, ond mewn gwirionedd, nid yw'r ffordd honno o weithio wedi bod…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gwnaf. Ar gyfer 2022-23, bydd Ynys Môn yn cael cynnydd o 9.2 y cant yn ei dyraniadau setliad craidd. Dyma gynnydd mwyaf yr awdurdod ers dechrau datganoli. Yn ogystal, bydd yr awdurdod yn derbyn ei gyfran o £1.1 biliwn o grantiau refeniw penodol.
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr am hynny, a hefyd am roi cyfle imi, fel chithau, i adleisio ein diolch i RhCT a chynghorau eraill ledled Cymru a weithiodd mor galed i gael y cyllid hwnnw i gyfrifon banc busnesau mor gyflym ac mor ddidrafferth â phosibl. Credaf eu bod wedi…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi defnyddio pob sbardun at ein defnydd i gefnogi busnesau Cymru, gan ddarparu mwy na £2.8 biliwn a diogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru. Byddwn yn parhau i gefnogi'r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf, gan gynnwys drwy…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf fod dechrau'r cwestiwn wedi'i osod ar sail nad yw'r dystiolaeth yn ei chefnogi. Nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiad fod ardollau twristiaeth yn rhwystr mawr i dwristiaeth. Pam y byddai gan y rhan fwyaf o ogledd Ewrop ardollau twristiaeth pe…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ydw, yn bendant. Felly, i'r awdurdodau sy'n penderfynu yr hoffent godi ardoll ymwelwyr, yn amlwg bydd yn rhoi refeniw ychwanegol iddynt i'w cymunedau fuddsoddi yn y pethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, a chredaf y bydd cyfraniad cymesur a theg gan…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gwnaf. Mae'r gwaith o ddatblygu polisi wedi dechrau ac mae trafodaethau ar y gweill gydag awdurdodau lleol. Cynhelir ymgynghoriad yn yr hydref eleni, i alluogi'r holl safbwyntiau i gael eu hystyried ar weithrediad ardoll ymwelwyr.
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dyna gwestiwn diddorol. Mae'n un y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda chyd-Weinidogion. Mae gennym fwrdd o Weinidogion sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth o fewn eu portffolios sy'n dod at ei gilydd yn aml iawn i drafod cynnydd deddfwriaeth, a chredaf y gallai…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gallaf. Cyfrifoldeb pob Gweinidog portffolio fydd yr adolygiadau hynny, ond mae gennyf rai yn fy mhortffolio i a fydd yn berthnasol yma. Er enghraifft, rwyf newydd gyhoeddi adolygiad o'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hynny wedi'i osod mewn deddfwriaeth, y…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, nid wyf am ymddiheuro am fuddsoddi i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol a'r gwaith sydd ei angen ochr yn ochr â hynny, a gwn—. Mae'n ymddangos bod gan Janet Finch-Saunders a minnau safbwyntiau gwahanol ar yr hyn sy'n ddeddfwriaeth angenrheidiol a'r hyn…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Telir cost deddfwriaeth o ddyraniadau cyllidebau portffolio, ac mae Gweinidogion yn ystyried costau wrth flaenoriaethu gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol. Pan fydd Gweinidog yn cyflwyno Bil, caiff ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer monitro, adolygu a…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Hoffwn atgoffa Mark Isherwood mai’r cynnydd cyfartalog ledled Cymru ar gyfer y setliad llywodraeth leol y flwyddyn nesaf yw 9.4 y cant a bod sir y Fflint yn cael cynnydd o 9.2 y cant, felly nid yw’n bell iawn oddi ar y cyfartaledd.
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch i Carolyn Thomas am godi’r pwynt hwn. Credaf ei bod yn werth atgoffa ein hunain pam y dyfeisiwyd cyllid gwaelodol yn wreiddiol. Y bwriad bob amser oedd iddo fod yn fesur dros dro i liniaru effaith newidiadau negyddol na ellid eu rheoli yng nghyllid…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n sicrhau cyllid teg i bob awdurdod lleol yng Nghymru drwy roi blaenoriaeth i lywodraeth leol a gwasanaethau iechyd wrth wneud penderfyniadau ar y gyllideb a thrwy fformiwla ddosbarthu dryloyw a theg a gynhyrchir ar y cyd â’n partneriaid llywodraeth leol.
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddai’r Aelod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ymateb i gwestiwn blaenorol fy mod wedi ysgrifennu heddiw at arweinwyr awdurdodau lleol i gadarnhau £70 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac roedd hynny’n rhannol mewn ymateb i’r…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnal a chadw ein rhwydwaith ffyrdd, sy’n cynrychioli ased o £17 biliwn. O fewn y portffolio newid hinsawdd, rydym yn buddsoddi £0.5 biliwn i gynnal rhwydwaith diogel a dibynadwy. Yn ogystal â hyn, mae’r setliad llywodraeth leol…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae cymaint i ymateb iddo yno. Rwy'n sicr yn rhannu eich pryderon ynglŷn â'r diffyg hyblygrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru. Gwn fod hyn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi ennyn cytundeb ar draws y Senedd yn y gorffennol, o ran yr angen i Lywodraeth Cymru gael mwy…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ydw, rwy'n cytuno. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Yn fy marn i, bob tro y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud addewid nad yw’n ei gadw i Gymru ac i bobl Cymru, mae'n mentro chwalu'r Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig fod yn grŵp o genhedloedd lle mae…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Roedd tipyn o bethau yn eich cwestiwn. Ni chredaf mai mân newid ar yr ymylon yw ailbrisio. Hyd yn oed yn yr ailbrisiad diwethaf, fe ddywedoch chi fod biliau traean o'r eiddo wedi cynyddu. Mae hynny'n eithaf dramatig, ac mae'n debyg y byddai biliau nifer…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, gwneuthum ddatganiad ar 7 Rhagfyr, yn nodi ein hymateb cynnar i'r gwaith a gomisiynwyd gennym dros gyfnod y Senedd ddiwethaf, a gyhoeddwyd yn ein crynodeb o'r canfyddiadau. Roedd hwnnw'n dod â modelau posibl ar gyfer y dyfodol ynghyd, fel yr ymchwiliwyd…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diwygio fyddai gwneud newid, ac yng nghyd-destun Llywodraeth Cymru, yn amlwg, nid ydym am wneud newidiadau er mwyn gwneud newidiadau, ac ni fyddem yn dymuno gwneud diwygiadau anflaengar. Felly, yng nghyd-destun y dreth gyngor, er enghraifft, byddai diwygio'n…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am godi mater y gronfa gynghori sengl. Mae’r polisi sy'n sail i’r gronfa honno a’r broses o'i rhoi ar waith yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn cael sgwrs gyda hi ynglŷn â hynny. Ac…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am eich cwestiwn. Fel y nodais yn fy ateb i’ch cyd-Aelod, Luke Fletcher, rydym wedi defnyddio bron iawn yr holl gyllid sydd ar gael i ni felly ni fydd cyfleoedd i ailagor cyllidebau yn yr ystyr honno yn y flwyddyn ariannol nesaf, oni cheid cyllideb gan…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae cyllidebau awdurdodau lleol a theuluoedd yn teimlo effaith biliau ynni sydd ar eu lefel uchaf erioed, costau bwyd cynyddol, a’r cyfraddau chwyddiant uchaf ers degawd. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r argyfwng costau…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am godi'r mater hwn. Mewn sawl ffordd, mae'r hyn y gallwn ei wneud y tu hwnt i 2024-25 yn dibynnu ar y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU drwy unrhyw adolygiad cynhwysfawr o wariant yn y dyfodol. Ac mae'n wych ein bod, yn y…