9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch. Bydd y Bil yn tacluso'r llyfr statud drwy gael gwared ar ddarpariaethau sy'n anarferedig, wedi darfod, heb fod o ddefnydd ymarferol neu heb effaith ymarferol mwyach neu heb unrhyw obaith realistig o gael eu cychwyn. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r holl bwyntiau a wnaethoch. Yn yr haf, mynychais gynhadledd Cymdeithas Prydain ac Iwerddon, ac yno, fe wneuthum y pwynt fy mod yn meddwl ei bod hi'n sylfaenol anghywir i geisio mynd i'r afael â…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch. Ni chawsom unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth y DU cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Mae gennym bryderon difrifol yn ei gylch, gan gynnwys y pwerau eang iawn y mae'n eu rhoi i Weinidogion y Goron a'i oblygiadau posibl i'r setliad datganoli. Rydym yn…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Argymhelliad 11 oedd y dylai'r Senedd gael ei hethol gyda chwotâu rhywedd statudol. Argymhelliad 17 o'r adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau priodol i sicrhau nad yw ein hargymhellion ar ddiwygio'r Senedd ar gyfer 2026 yn cael eu rhoi mewn…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn atodol. Efallai y gwnaf ymdrin â'r pwynt a godwyd gennych pan ddywedoch chi mai'r unigolyn gorau sy'n cael y swydd. Efallai yr hoffech egluro pam mai dim ond 18 y cant o aelodaeth y Torïaid yn y Senedd hon sy'n fenywod. Nid wyf yn siŵr pa…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn. Cyflwynodd y pwyllgor diben arbennig ei adroddiad ar 30 Mai a gwnaeth 31 o argymhellion, gan gynnwys un yn ymwneud â chyflwyno cwotâu rhyw. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn datblygu polisi ar gyfer deddfwriaeth mewn perthynas â'r…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn atodol. Wrth gwrs, byddwn yn monitro beth sy'n digwydd yn ofalus iawn. Rwy'n deall bod yr Ail Ddarlleniad wedi'i ohirio. Rwyf wedi bod yn darllen drwy'r Bil. Mae gennyf gopi ohono yma mewn gwirionedd. Mae'n eithaf anodd gweld sut yn union…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil a'i effeithiau yng Nghymru yn cael eu hasesu ar frys gan fy swyddogion. Rwy'n hynod bryderus, unwaith eto, ynglŷn â'r diffyg ymgysylltu a fu ar y Bil hwn cyn ei gyflwyno, a'r wybodaeth gyfyngedig sydd ar gael am ei gynnwys.
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn atodol. Ac rwy'n eich llongyfarch am y ffordd y gwnaethoch barhau i fynd ar drywydd hyn a rhai o'r achosion arwyddocaol eraill o gamweinyddu cyfiawnder. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn eu trafod ac yn eu hystyried ar lawr…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn. Ysgrifennais at Is-ysgrifennydd Gwladol y Senedd dros Gyfiawnder am y galw sylweddol am gyfraith Hillsborough ym mis Awst eleni, ac rwyf wedi codi'r mater yn y gorffennol mewn cyfarfodydd a gohebiaeth â Gweinidogion Llywodraeth y DU.
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, yn gyntaf, rydych chi'n hollol gywir ynglŷn â'r Bil hawliau, ac wrth gwrs, 10 Rhagfyr yw Diwrnod Hawliau Dynol, a gobeithio y bydd dadl sylweddol yn y Siambr hon. Ar un adeg, roedd yn edrych fel pe gallem fod wedi dadl ar Ddiwrnod Hawliau Dynol heb fod…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn a diolch am y sylwadau. Rwy'n sicr yn cytuno â chi fod y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd yn cynnwys gwybodaeth wirioneddol arwyddocaol. Ac wrth gwrs, mae'n codi'r pwynt: un o'n prif bryderon—roeddwn yn bwriadu sôn am hyn gyda'r cwestiwn…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, rwy'n credu eich bod chi newydd roi rheswm da iawn dros ddatganoli cyfiawnder, oherwydd dyna'n union yw un o'r rhesymau pam y buom yn gwneud hynny, pam ein bod yn gweithio mewn partneriaeth lle gallwn, ond mae angen datganoli cyfrifoldebau'n briodol, yn…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn. Nid yw'r trafodaethau sy'n digwydd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn rhywbeth a ddigwyddodd yn ystod y misoedd diwethaf yn unig—mae'n broses hir, barhaus. Un o'r rhesymau ei fod yn rhan o'r broses hir honno yw oherwydd bod yna gamweithredu…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Nid fy rôl i yw ateb dros gomisiwn Thomas, na mynd i'r afael â materion penodol sydd o fewn comisiwn Thomas neu beidio. Fy rôl i—rôl Llywodraeth Cymru—yw ystyried cyfanswm yr argymhellion a wnaed gan gomisiwn Thomas, eu gwerthuso ac ystyried sut gellid mynd…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch. Mae'r Bil yn amlwg yn rhywbeth sy'n arwyddocaol iawn; mae'n trosglwyddo pwerau enfawr i Weinidogion Llywodraeth y DU, a fyddai â'r opsiwn o beidio â sefydlu, neu beidio â chadw, deddfwriaeth benodol yn Llywodraeth y DU, yn ôl eu disgresiwn eu hunain…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn monitro cynnydd y Bil drwy'r Senedd gan barhau â'n hymgysylltiad â Llywodraeth y DU ar yr amserlen arfaethedig iddo ddod i rym a gweithrediad darpariaethau a beth fydd hyn yn ei olygu o ran y goblygiadau i Gymru.
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch i chi am y cwestiwn atodol hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr: mae angen ymgysylltiad rheolaidd, ymgysylltiad cyson, ac ymgysylltiad wedi'i gynllunio'n briodol hefyd, a dylai'r ymgysylltiad hwnnw fod yn digwydd mewn perthynas â phob agwedd ar raglen…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Gallaf bwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf ac ymgysylltiad agored rhwng y Llywodraethau ar bob cyfle. Mae ansefydlogrwydd Llywodraeth y DU a newid Gweinidogion yn fynych wedi ei gwneud yn anodd ffurfio cysylltiadau hirhoedlog…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
A gaf i ddiolch i chi am y sylwadau yna? Rwy'n credu bod hwn yn ymgynghoriad cyffrous iawn, oherwydd mae wedi dangos y gallwn ni, yng Nghymru, wneud rhywbeth gwahanol, y gallwn ni ei wneud yn well ac y gallwn ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni. Rwy'n credu…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
Diolch i chi. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethoch chi gyntaf ynghylch cynhwysiant, mewn gwirionedd, am rai sydd ag anableddau, yn alluoedd synhwyraidd efallai ac yn y blaen, yn wirioneddol bwysig. Mae digideiddio ac yn y blaen yn creu llawer o gyfleoedd ar…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
Rwy'n credu bod y sefyllfa ychydig yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon, o ran ei phroses arbennig hi. Rwy'n credu, o ran y farn gyffredin sydd ymysg pob un o'r pleidiau, ein bod ni i gyd yn gytûn o ran yr angen i wleidyddion fod yn ysbrydoli pobl, ac mae honno'n…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
A gaf i ddiolch i chi am eich sylwadau? Roeddwn i'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r sylwadau, ac rwy'n cytuno yn bendant â'r sylwadau a wnaethoch chi o ran profi hunaniaeth pleidleiswyr. Er mae'n debyg y byddwn i'n anghytuno â chi ar hynna, oherwydd fe geir llawer…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
Diolch am y sylwadau hynny, a diolch, hefyd, am groesawu'r amcan cyffredin o fod ag awydd am system etholiadol sy'n gweithio yn iawn, yn effeithlon a chadarn. Rwy'n credu mai craidd hyn yw bod y byd yn newid: mae'r dechnoleg gennym ni, rydym ni wedi dysgu am…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
Dirprwy Lywydd, fis Gorffennaf y llynedd fe gyhoeddais i fframwaith eglur ar gyfer diwygio etholiadol gyda chwe egwyddor a oedd yn adlewyrchu gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol a'r gwerth a roddwn ni ar ddemocratiaeth yng Nghymru: tegwch, hygyrchedd…