8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, llongyfarchiadau i Mr Giffard ar ei gwestiwn cyntaf yma ar lawr y Senedd y prynhawn yma.
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, edrychaf ymlaen at weithio gyda phlaid yr Aelod ar yr agenda aer glân. Ydy, mae'r Papur Gwyn wrth gwrs yn cynnwys syniadau am sut y gallwn ni annog pobl i beidio â defnyddio mathau o drafnidiaeth sy'n achosi llygredd aer. Dim ond posibilrwydd…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan y gogledd ddyfodol cryfach, gwyrddach a thecach. Byddwn yn parhau â'n perthynas waith ragorol â'n partneriaid ar draws y rhanbarth, gan seilio dyfodol yr economi ym margen twf y gogledd.
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolchaf i Altaf Hussain am y cwestiwn. Mae'n dda clywed ganddo eto ar lawr y Senedd. Dywedais wrth ateb Mr Fletcher fod yr ymgynghoriad y tynnodd Mr Hussain sylw ato wedi cau heddiw. Hyd yn hyn, mae gennym ni oddeutu 250 o ymatebion iddo, ac mae…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Fel mae'n digwydd, rwy'n gyfarwydd iawn â phroblemau'r groesfan reilffordd ym Mhencoed, gan eu bod wedi eu codi gyda mi yn rheolaidd iawn gan yr Aelod lleol Huw Irranca-Davies, ac rwyf hyd yn oed wedi bod i…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i'r Aelod. Rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn y de-orllewin, gan gynnwys gorsaf newydd yn San Clêr, cerbydau newydd sbon a gwelliannau i orsafoedd ledled y rhanbarth. Mae ein hymgynghoriad ar wella gwasanaethau…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar amrywiaeth o wahanol lefelau i geisio sicrhau bod ymwybyddiaeth o anffurfio organau cenhedlu benywod, ac y gellir cyfleu gwybodaeth amdano mewn modd y gall pobl ei…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. O ran y materion penodol sydd wedi dod i'r wyneb yn ystod cyfnod y pandemig ac sy'n effeithio ar gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y modd y mae Jane Dodds wedi ei ofyn, nhw yw'r rhai a fydd, gwaetha'r modd, yn gyfarwydd…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, eleni, mae'r gyllideb refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael cynnydd o fwy nag 8 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn cyn y pandemig. Mae dros £0.5 miliwn o'r arian hwn wedi ei gyfeirio at gynllunio strategol a…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Jane Dodds am beth ddywedodd hi i ddechrau, a llongyfarchiadau mawr, wrth gwrs, i chi hefyd ac am roi y cwestiwn cyntaf yma ar lawr y Senedd y prynhawn yma.
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, wrth gwrs bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau bod menywod yng Nghymru yn ymwybodol o'r hawliau sydd ganddyn nhw. Aeth ei phlaid hi, wrth gwrs, i'r etholiad diwethaf gan ddweud y byddai'n tynnu yn ôl yr holl arian y mae Llywodraeth…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson. Fe wnaeth hi ddisgrifio'r sefyllfa, yn fy marn i, yn glir iawn yn wir. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn honni yr ysgrifennwyd at fenywod y trodd eu gwŷr yn 65 oed cyn 17 Mawrth 2008, ac mai eu cyfrifoldeb nhw oedd gwneud…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig iawn yna? Rydym ni wedi cyfleu ein pryderon dro ar ôl tro ac yn glir i Lywodraeth y DU ynghylch materion pensiwn y wladwriaeth yn ymwneud â menywod. Unwaith eto, rwyf i'n annog yr Adran Gwaith a Phensiynau i…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am dynnu sylw at Wythnos y Gofalwyr, sy'n wythnos bwysig iawn yma yng Nghymru. Mae gennym ni gyfran uwch o'n poblogaeth sy'n darparu gofal anffurfiol nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, ac roeddwn i'n falch iawn…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yr hyn y byddaf yn ei ddweud, Llywydd, yw'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud eisoes. Rydym ni wedi darparu ein tystiolaeth i'r corff adolygu annibynnol. Byddwn yn aros i weld beth y bydd ganddo i'w ddweud. Nid oes unrhyw bwynt sefydlu cyrff a mynd drwy'r…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, wrth gwrs dwi'n cytuno â Rhun ap Iorwerth yn ei ddymuniadau gorau i Adam a'i deulu hefyd. Rŷn ni wedi rhoi ein gwybodaeth i'r pwyllgor sy'n gwneud yr argymhellion ar gyflogaeth yn y maes iechyd ac mae lan iddyn nhw i ddod at gasgliadau. Dyna pam y…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, wrth gwrs, wrth i fwy o fanylion am sut y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal fod ar gael—a byddwn ni yn rhan o'r trafodaethau ynghylch hynny—byddaf i'n sicr yn sicrhau bod datganiadau'n cael eu darparu i'r Aelodau yn y fan yma hefyd, fel bod…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, gadewch i mi ymdrin â rhan gyntaf cwestiwn yr Aelod yn gyntaf, gan fy mod i'n credu bod rhai pethau pwysig dim ond i sicrhau eu bod wedi eu deall a'u bod yn gyhoeddus, oherwydd efallai nad yw pob Aelod wedi gweld y ffigurau a gafodd eu cyhoeddi…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na, Llywydd, ni fyddaf yn gwneud hynny, gan fy mod i wedi cytuno â'i Lywodraeth ef yn San Steffan y byddwn ni'n rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus y mae'r Prif Weinidog wedi ei gyhoeddi. Hyd y gwn i, dyna'r unig ymchwiliad cyhoeddus sydd wedi ei gynnig yn y…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Paul Davies. Rydyn ni wedi cael cyfleon i drafod y pwnc yma gyda'r Gweinidogion yn San Steffan, ac, fel dywedais i pan oeddwn i'n ateb Mike Hedges, mae Gweinidogion y Deyrnas Unedig ar y record yn dweud dydyn nhw ddim yn meddwl…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae Mike Hedges yn iawn bod yr arfer wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dangosodd tystiolaeth a gyhoeddwyd gan y TUC ym mis Ionawr eleni fod bron i un o bob 10 o weithwyr wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ailymgeisio am eu…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae rhai cyflogwyr yng Nghymru wedi defnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi. Ni waeth pa mor brin y gallai'r achosion hyn fod, rwy'n rhannu barn y Prif Weinidog eu bod yn annerbyniol. Mae angen i Lywodraeth…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid oes gen i'r ffigur gwirioneddol ar gyfer y cwestiwn olaf y gofynnodd yr Aelod i mi amdano—cyfran Cymoedd y de a gwmpesir gan gynllun rheoli dalgylchoedd dŵr, Llywydd. Rwyf i yn gwybod bod y strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol, sy'n un o ofynion…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd e ar y dechrau a beth a ddywedais i hefyd—pan fydd y Law Commission yn cyhoeddi eu hadroddiad nhw yfory, bydd pobl yn gallu gweld y ffigurau yn yr adroddiad yna…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna, ac mae e'n iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cryfhau'r camau yr ydym wedi eu cymryd a'r cyngor yr ydym yn ei roi i atal datblygiadau ar dir sy'n agored i lifogydd a thir a allai fod yn agored i lifogydd yn y…