7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac yn croesawu cefnogaeth adolygiad Hendy i'n metro ac argymhellion comisiwn Burns. Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod â Gweinidog y DU sy'n gyfrifol am yr adolygiad ar 15 Rhagfyr i drafod yr…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Jack Sargeant, Llywydd, am hynny i gyd, ac ar bob cyfrif, estynnwch fy llongyfarchiadau i'r bobl ifanc hynny am eu hymrwymiad i'r agenda hon a'u diddordeb ynddi. Rwy'n credu ei bod yn nodweddiadol o bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru. Rwyf i wedi…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu nifer o fentrau yng Nghymru yn y maes hwn, gan gynnwys rhaglen eco-sgolion Cadwch Gymru'n Daclus, gan rymuso pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i'w hysgol a'u cymuned, a gweithredu ar newid hinsawdd.
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n diolch i Alun Davies am hynna. Roeddwn i'n falch iawn o weld adolygiad llawn Hendy, Llywydd. Roeddwn i'n falch o weld y ffordd yr oedd yn cymeradwyo dull Cymru o wella trafnidiaeth ledled Cymru, y dylai fod yn aml-foddol, y dylai gynnwys…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n ddiolchgar i'n holl gydweithwyr sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, am eu hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau yn ein cymunedau. Maen nhw'n hanfodol i helpu i amddiffyn ein pobl ac, yn wir, ein…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd. Mae'n llygad ei le bod y £30 miliwn, sef ail gam y gronfa adfer diwylliannol, i gyd wedi ei ddyrannu erbyn diwedd mis Medi. Siaradais ag uwch swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio ar y gronfa…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae theatrau wedi cael cefnogaeth gref yng Nghymru yn ystod y pandemig, o'r gronfa adfer diwylliannol gwerth £93 miliwn a'r gronfa gweithwyr llawrydd—ffrwd adfer sydd ar gael yn unigryw yng Nghymru. Mae Theatr Hafren…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig iawn yna, ac am ei chefnogaeth gref iawn i brydau ysgol yn gyffredinol, ond hefyd i ansawdd a natur y prydau hynny. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol o brosiect cronfa her Cyngor Sir Gaerfyrddin, y…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynny, Llywydd. Rydym ni wedi ymrwymo i gynyddu cyfran y bwyd sydd wedi ei dyfu yn lleol sydd mewn prydau ysgol, a fydd o fudd i economïau lleol drwy gaffael a chadwyni cyflenwi cynaliadwy a chyfrifol. Er enghraifft, cafodd…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n diolch i Buffy Williams am hynna. Mae hi'n llygad ei lle i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol y gweithlu gofal cymdeithasol a'r pwysau sydd arno hefyd. Mae yna gamau y gellid eu cymryd i'n helpu i leddfu hynny. Ar 12 Hydref, ysgrifennodd…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd. Mae gwell cydnabyddiaeth ariannol, hyfforddiant am ddim a chydnabyddiaeth broffesiynol ymysg y camau sy'n cael eu cymryd, gyda phartneriaid, i helpu i adeiladu'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, nid wyf i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Cymru sydd â'r cynllun cymorth ardrethi busnes mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac nid dim ond ar hyn o bryd y mae hynny, pan fo busnesau Cymru wedi cael sicrwydd o flwyddyn o wyliau o…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Rwyf i, fel yntau, yn edrych ymlaen at fod gyda busnesau bach ddydd Sadwrn nesaf—Dydd Sadwrn Busnesau Bach—a chael siarad â busnesau am y cymorth y maen nhw eisoes wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru a'r cymorth…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, fel conglfaen cymunedau ledled Cymru, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo yn llwyr i gefnogi busnesau bach yn Ogwr a phob rhan o Gymru i ffynnu, i gynnal ac i dyfu drwy wasanaethau allweddol, gan gynnwys Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, cafodd arweinydd Plaid Cymru gyfle i fynd i Lanelwedd heddiw. Treuliais i nos Wener yng nghwmni Clwb Cinio Caerfyrddin, a noson braf iawn oedd hi hefyd. Roedd pawb o fy nghwmpas yn bobl sy'n gweithio yn y diwydiant ffermio, a'r hyn a ddywedodd…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae'r Gweinidog, Julie James, a'r Gweinidog, Lesley Griffiths, wedi cwrdd gyda'r undebau i drafod beth rŷm ni'n clywed sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd. Y peth pwysig i ni yw i gasglu'r wybodaeth, i fod yn glir am y sefyllfa a beth sydd yn digwydd…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, a allaf i ddechrau drwy longyfarch pob un sydd wedi bod yn rhan o greu gŵyl y gaeaf yn Llanelwedd, mewn ffordd sy'n addas i'r cyd-destun rŷm ni'n wynebu? Fe gefais i gyfle i siarad gyda'r Gweinidog, Lesley Griffiths, am ei hymweliad hi i…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, byddai'n well pe na bai'r Aelod yn darllen ei sgriptiau a baratowyd ymlaen llaw i ni, oherwydd wedyn byddai wedi cael cyfle i wrando ar yr atebion yn hytrach na darllen yr hyn yr oedd yn mynd i'w ddweud, beth bynnag oedd yr ateb yn digwydd bod. Mae…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae mwy o bobl yn gweithio yn GIG Cymru heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes, ac mae hynny yn cynnwys mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o ffisiotherapyddion, mwy o therapyddion galwedigaethol, a'r holl dîm sy'n cyfrannu at ddarparu…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nac ydw, nid yn y ffordd or-syml honno, Llywydd. Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn iawn bod y GIG yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd o dan y gofynion y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â nhw ar hyn o bryd, ac mae hynny ar fin gwaethygu a mynd yn fwy anodd oherwydd yr…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwyf i wedi esbonio o'r blaen ar lawr y Senedd, cyn belled ag y mae tlodi plant yn y cwestiwn, y gellir rhannu'r cyfnod datganoli yn ddau gyfnod yn hawdd iawn. Yn y cyfnod cyntaf, y degawd cyntaf, gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr am y cwestiwn, wrth gwrs, a diolch i'r Aelod am beth ddywedodd hi am y cytundeb. A nawr mae cyfleon gyda ni i gymryd camau pellach, drwy ymestyn prydau ysgol am ddim ac ymestyn darpariaeth gofal plant. Bydd y Llywodraeth yn canolbwyntio ar beth…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Sioned Williams am y cwestiwn, Llywydd. Er y rhwystrau sydd wedi eu creu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, byddwn ni’n bwrw ymlaen gyda’r mesurau sydd yn ein rhaglen lywodraethu a’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru i fynd i’r afael â…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna ac am ei diddordeb cyson yn y pwnc hwn yn gyffredinol. Bydd hi'n gyfarwydd iawn â'r cynllun a gafodd ei dreialu yng Nghonwy yn gynharach yn y flwyddyn, a dysgwyd llawer iawn o'r gwaith hwnnw, yn ogystal â chynllun…
30 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, y peth cyntaf, Llywydd, oedd i gymryd y pwerau. Heb y pwerau, does dim cyfle gyda ni i gael unrhyw fath o gynllun, a dydy hwnna ddim yn ein dwylo ni fel Senedd; mae'n rhaid i ni dynnu'r pwerau nôl i fan hyn i gael cynllun, a dyna beth sydd wedi digwydd…