14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr am y cwestiynau ychwanegol. Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio’n galed i dreial gwneud mwy i roi’r ffigurau ailgylchu yn y lle ble rŷn ni i gyd eisiau eu gweld nhw. Bydd strategaeth newydd o flaen y cabinet yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos hon…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Mae Gweinidogion a swyddogion wedi bod yn trafod yn uniongyrchol â Chyngor Caerdydd am ei berfformiad ailgylchu, ac mae’r trafodaethau hynny yn parhau.
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Darren Millar am y cwestiynau yna. Gwn pa mor fawr yw ei ddiddordeb mewn materion llifogydd ac erydu arfordirol yn ei etholaeth, a gwn fod ganddo, yn ei hanes personol ei hun, brofiad uniongyrchol o'r hyn y mae'n ei olygu i ddioddef o…
14 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n asesu digonolrwydd amddiffyn rhag llifogydd. Yna maen nhw'n cynllunio, yn hyrwyddo ac yn darparu cynlluniau i leihau perygl llifogydd yn eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Wel, rwyf yn anghytuno'n llwyr. Rwy'n credu bod pwynt sylweddol ar y diwedd yno, ac, mae arnaf ofn, mae'r Aelod wedi'i gael yn gwbl anghywir. Rwyf yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi ymrwymo i ddileu'r gwaith o geisio gwneud elw preifat yng ngofal plant yma…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Sioned Williams, a dwi'n cytuno ein bod ni'n lwcus. Rydym ni yn lwcus yng Nghymru i gael nifer o asiantaethau yn y trydydd sector a phobl sy'n gwneud ymchwil sy'n ein helpu ni i greu polisïau sy'n addas i'r pethau rydym…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Dirprwy Lywydd, gallaf ddweud yn onest nad oeddwn i'n gwybod bod Rhianon Passmore y tu ôl imi yn ystod y datganiad—fel arall, byddwn i wedi gwneud hyd yn oed mwy o'r buddsoddiad a gyhoeddodd Jeremy Miles mewn gwasanaethau cerddoriaeth. Rwy'n siŵr fy mod…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Diolch i'r Aelod; mae hwnnw'n bwynt pwysig. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â sefydliad trydydd sector llwyddiannus iawn ym maes iechyd meddwl, ynghyd â'r Gweinidog, Lynne Neagle. Ac mae'r pwynt a drafodwyd gennym yno yn un y gwn fy mod wedi'i ymarfer droeon…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Pan fydd y gyllideb ddrafft yn cael ei gosod, Llywydd, rwy'n credu y bydd aelodau'n gallu gweld buddsoddiad parhaus ym maes ehangach iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau brys ac argyfwng sy'n mynd y tu hwnt i'r rhan benodol o iechyd meddwl yr ydym wedi…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Wel, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, ac, wrth gwrs, dwi'n cytuno am bwysigrwydd iechyd meddwl, yn enwedig gyda phobl ifanc, fel dwi wedi'i ddweud fwy nag unwaith ar lawr y Senedd. Bob tro dwi'n cwrdd gyda grwpiau o bobl ifanc, mae lles ac iechyd meddwl yn…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Dyna yn hollol pam yr wyf i wedi bod o'r farn bod cytundeb mor bwysig. Rwy'n cofio dweud wrth arweinydd Plaid Cymru, yn un o'r trafodaethau cynharaf a gawsom ni, nad oedd cytundeb ar bethau hawdd yn apelio rhyw lawer i mi, oherwydd mae'n debyg y gallwn ni…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Diolch i Llyr Gruffydd am y sylwadau. Dim ond 30 o bleidleisiau sydd gyda ni yn y Blaid Lafur yma ar lawr y Senedd, ac os ydyn ni eisiau bwrw ymlaen gyda phethau radical ac uchelgeisiol, dydy hwnna ddim yn ddigonol. A dyna pam bod y cytundeb yn bwysig, achos…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Mae arnaf i ofn, Llywydd, fod yr Aelod wedi camddeall yn llwyr yr hyn yr ydym ni wedi ei gytuno. Nid yw'n fater o beidio â newid y polisi o gwbl—ond yn fater o beidio â newid y rheoliadau a basiwyd ar lawr y Senedd hon tua diwedd y tymor diwethaf. Mae'r…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae hi'n llygad ei lle; brechu, er mai dyma'r amddiffyniad pwysicaf sydd gennym ni, nid dyna'r unig un o bell ffordd. Mae'r pethau syml hynny yr ydym ni wedi dysgu eu gwneud yn ein bywydau ein hunain—gorchuddion…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Mae saith deg pump y cant o'r rhaglen lywodraethu, yn wir, y tu allan i'r cytundeb, ac fe fydd diwrnodau pan fydd gennym ni wahaniaeth barn ar lawer o'r eitemau hynny, ond dyna'n union y gwnaethom ni ei gydnabod a fyddai'n digwydd pan wnaethom ni ddechrau ar…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Diolch yn fawr i Adam Price am ei sylwadau. Wrth gwrs, dwi'n cytuno â beth ddywedodd e am ysbryd y rhaglen rŷn ni wedi cytuno arni gyda'n gilydd. Lle allwn ni gydweithio, mae'n bwysig i ni gydweithio, ac mae hynny wedi bod yn rhan o hanes datganoli yma yng…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Wel, rwy'n diolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am y cwestiynau manwl yna, ac a gaf i ddiolch iddo am y ffordd y dechreuodd, am ei gefnogaeth i'r alwad i bobl ddod ymlaen i gael eu brechu? Mae gan bob un Aelod o'r Senedd gyrhaeddiad yn ei gymuned ei hun…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Brechu yw ein hamddiffyniad cryfaf ni o hyd yn erbyn y feirws creulon hwn. Erbyn yr adeg hon yr wythnos nesaf, fe fydd miliwn o bobl yng Nghymru wedi derbyn trydydd, dos atgyfnerthu. Ond mae yna ormod o bobl o hyd nad ydyn nhw wedi manteisio ar y cynnig o…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Llywydd, wrth i mi roi'r datganiad hwn rydym ni'n parhau i ymateb i'r pandemig, gan gynnwys i'r datblygiadau er gwaeth diweddaraf, er mwyn cyflawni ein prif flaenoriaeth yn y rhaglen lywodraethu, sef diogelu Cymru mewn cyfnod o argyfwng iechyd cyhoeddus…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu—Diweddariad
Llywydd, cyhoeddwyd ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y tymor hwn o fewn wythnosau i'r etholiadau ym mis Mai, a gwnes i ddatganiad i'r Senedd ar 15 Mehefin. Cyhoeddwyd y rhaglen yn gynnar er mwyn i ni ddechrau ar y polisïau radical ac uchelgeisiol sydd eu…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n credu, lle mae busnesau—ac rwy'n gwybod bod Technovent ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd, yr wyf i'n siŵr, yn adnabyddus i'r Aelod, yn un o'r busnesau hynny sydd wedi mynegi diddordeb o'r fath—wrth gwrs lle mae busnesau sy'n penderfynu ei fod o fudd…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae trafodaeth reolaidd yn cael ei chynnal rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar amrywiaeth o faterion, ac mae hynny'n cynnwys yr achos dros wythnos waith o bedwar diwrnod.
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i Carolyn Thomas am hynna, ac mae'n iawn i gyfeirio at gymhlethdod cynllunio gwasanaethau trafnidiaeth dros ddaearyddiaeth sy'n cynnwys crynodiadau trefol, ond llawer iawn, iawn o ardaloedd gwledig hefyd. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, bydd…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol yn y gogledd i baratoi cynllun cynhwysfawr i wella gwasanaethau bysiau lleol yn rhan o'n cyhoeddiad diweddar i greu rhwydwaith metro trafnidiaeth gyhoeddus…
7 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n diolch i'r Aelod am gwestiwn pwysig iawn arall y prynhawn yma. Roedd y ffigurau hynny a gafodd eu cyhoeddi yn annymunol ac, fel erioed, mae'n anodd iawn gwahaniaethu rhwng y llwyddiant y mae sefydliadau ar lawr gwlad wedi ei gael yn argyhoeddi mwy o…