8 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Rwy'n falch o allu dweud wrthi fod swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfarfod â'r cwmni sy'n gweithio gyda'n cydweithiwr Steve Rotheram, yn ninas-ranbarth Lerpwl ac yn datblygu'r ateb arloesol iawn hwnnw ar…
8 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn yna, Llywydd. Darparwyd cysylltedd band eang ffeibr llawn i 9,200 o gartrefi a busnesau ledled y gogledd drwy ein buddsoddiad presennol o £56 miliwn. Mae cynlluniau Allwedd Band Eang Cymru a'r gronfa band eang lleol hefyd…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid oes unrhyw gynlluniau i ddileu unrhyw wasanaethau o Lwynhelyg, gan gynnwys ei ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys, cyn unrhyw newidiadau ehangach a allai fod yn y gwasanaethau iechyd yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n annog unrhyw un sydd â…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r bwrdd iechyd wedi datblygu cynllun ar gyfer dyfodol gwasanaethau yn ardal Hywel Dda dros yr 20 mlynedd nesaf. Datblygwyd y strategaeth honno gyda chlinigwyr, cleifion a thrwy ymgynghori â'r cyhoedd yn ehangach. Cyflwynwyd achos busnes rhaglen…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i James Evans am y cwestiwn yna. Mae'n dda iawn cael y cwestiwn hwn, wrth i Ddydd Gŵyl Dewi lanio ar ddydd Mawrth eleni. Ac mae'n rhoi llwyfan gwirioneddol i ni allu codi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru. Roeddwn i'n falch iawn fy hun i…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ein diwrnod cenedlaethol fel llwyfan i godi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru ledled y byd. Heddiw yn unig, cynhelir digwyddiadau yn Tokyo, Dulyn, Llundain, Washington, Brwsel…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn. Mae'n wir, Llywydd, pan yw hi'n dweud bod nifer y milfeddygon o'r Undeb Ewropeaidd yma yn y Deyrnas Unedig wedi cwympo, ac wedi cwympo gan 68 y cant rhwng 2019 a 2021. Nawr, dŷn ni yn gwneud nifer o bethau yma yng…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn, Llywydd. Mae mwyafrif y milfeddygon yng Nghymru yn gweithio mewn practis preifat, sy'n gweithredu fel busnes preifat. Mae rhai, drwy gontract, hefyd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr ag Adam Price nad ydym wedi disbyddu o bell ffordd y camau y mae angen eu cymryd. Mae Rwsia'n parhau i ennill $1 biliwn y dydd o werthu nwy ac olew i Ewrop, ac, ar yr un pryd, mae Wcráin yn talu, fel y dywedodd yr Aelod…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob rhan o'r Deyrnas Unedig i bwyso am y lefel uchaf o sancsiynau economaidd, ac ochr yn ochr â sancsiynau economaidd, y mathau eraill hynny o weithredu ym meysydd y celfyddydau ac mewn chwaraeon, a mathau eraill o…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwynt olaf y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei wneud, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i atal llongau sy'n defnyddio baner Rwsia rhag defnyddio porthladdoedd y DU, a gwnaeth hynny gan fod llong ar fin cyrraedd yr Alban…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n bosibilrwydd brawychus y mae'r Aelod yn ei amlinellu, ond mae'n iawn i wneud hynny, oherwydd, er na fyddai modd ei ddychmygu ychydig wythnosau yn ôl, mae'n rhaid i ni feddwl am yr hyn a fyddai'n digwydd pe bai ymosodiad ar wladwriaeth NATO yn y ffordd…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn bersonol, Llywydd, rwy'n credu y bydd angen system wahanol arnom ni. Roeddem ni'n falch iawn o groesawu teuluoedd o Affganistan i Gymru, ac fel y bydd yr Aelodau yma yn gwybod, roedd llawer ohonyn nhw yn byw ar draws y ffordd, yn llythrennol, o'r Senedd yn…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd am gefnogaeth ei blaid i'r ymdrechion a fydd yn cael eu gwneud i groesawu ffoaduriaid yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod ei fod yn golygu hynny yn ddiffuant iawn yn bersonol ac ar ran ei blaid. Rwy'n ei…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, wel, mae'n un o ofynion 'Polisi Cynllunio Cymru' bod yn rhaid i awdurdod lleol, wrth lunio cynlluniau, ystyried amcanestyniadau tai diweddaraf Llywodraeth Cymru ar lefel awdurdod lleol, ac fel y mae Rhys ab Owen wedi ei ddweud, mae'r amcanestyniadau…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mater i gyngor dinas Caerdydd yw hwn. Mae’r cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldeb i lunio cynllun datblygu lleol cyfredol gyda’r fframwaith a amlinellir gan Lywodraeth Cymru.
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r mudiad siediau dynion yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan dyfu weithiau o unigolion lleol a brwdfrydig iawn i'r hyn sydd bellach yn fudiad sydd i'w gael mewn cynifer o rannau o Gymru, ac mae'n fudiad pwysig iawn. Rydym yn gwybod bod…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rwy'n cytuno ag ef am bwysigrwydd y gwaith y mae'r Samariaid yn ei wneud ym mhob rhan o Gymru—y Samariaid yn ein prifddinas, wedi eu lleoli yn fy etholaeth i—ac am wasanaeth rhyfeddol sy'n cael ei gynnal bron yn…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Sarah Murphy am hynna, ac rwy'n llongyfarch pob un o'i hetholwyr sy'n rhan o'r fenter honno ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd y trydydd sector a gweithgarwch gwirfoddol ym maes iechyd meddwl, wedi'i gefnogi, wrth…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Amser i Newid Cymru wedi bod yn fenter fawr, barhaus, sy'n mynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru yn eu hwynebu. Ar 23 Chwefror, fe wnaethom gyhoeddi cyllid i…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiwn Brys: Ymosodiad Rwsia ar Wcráin
Llywydd, ym mharagraff olaf fy llythyr at Brif Weinidog y DU ddoe, ar ôl trafod y meysydd niferus yr ydym ni'n dymuno cydweithio arnyn nhw, rwy'n symud ymlaen i ddweud bod yn rhaid i mi fanteisio ar gyfle'r llythyr eto i bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiwn Brys: Ymosodiad Rwsia ar Wcráin
Llywydd, ni all unrhyw un yn y Siambr a welodd y lluniau torcalonnus hynny o'r plentyn hwnnw a mam y plentyn hwnnw fethu â bod wedi eu hysgwyd ganddyn nhw. Fel y dywedodd Alun Davies, y bobl gyffredin sy'n byw eu bywydau yw dioddefwyr cyntaf gwrthdaro o'r…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiwn Brys: Ymosodiad Rwsia ar Wcráin
Wrth gwrs, Llywydd. Bydd y rhai ohonom ni a oedd yn gallu bod yma neithiwr wedi clywed araith rymus iawn gan arweinydd Cyngres Undebau Llafur Cymru, Shavanah Taj, a wnaeth yn uniongyrchol y pwyntiau y mae Delyth Jewell wedi eu gwneud y prynhawn yma, bod…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiwn Brys: Ymosodiad Rwsia ar Wcráin
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Rwy'n croesawu cyhoeddiad Prif Weinidog y DU yn gynharach heddiw, ond rwy'n credu bod mwy y gellid ac y dylid ei wneud, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfleoedd i archwilio hynny gyda Llywodraeth y DU a chydweithwyr eraill yr…
1 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiwn Brys: Ymosodiad Rwsia ar Wcráin
Llywydd, a gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o weld yr hyn yr oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu ei wneud yn gynharach yr wythnos hon, heb sicrwydd gan FIFA wrth wneud hynny? Gweithred ddewr gan ffederasiwn bach, ond un a oedd yn cyd-fynd yn…