11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, buddsoddi'n uniongyrchol, ymgyrchoedd cyfalaf a refeniw, ymgyrchoedd hyrwyddo yn y Deyrnas Unedig a thramor, ac mae cydweithio â'r diwydiant i wella sgiliau a chyfleoedd gyrfa yn rhai o'r camau yr ydym yn eu cymryd i annog twristiaeth gynaliadwy yng…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn ychwanegol. Ces i gyfle i gwrdd â Keir Starmer yn Lerpwl yng nghynhadledd y Blaid Lafur, a ches i gyfle i dreulio diwrnod gyda Gordon Brown yn yr Alban yn yr wythnos ar ôl y gynhadledd. Roedd hynny’n gyfle i siarad…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Rhys ab Owen, Llywydd, am y cwestiwn. Mae'r cyfleon i drafod gyda Llywodraeth ddiweddaraf y Deyrnas Unedig wedi bod yn brin. Ond cafodd datganoli cyfiawnder ei drafod yn helaeth mewn digwyddiad o bwys ym mhencadlys Heddlu De Cymru ar 30 Medi…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o allu noddi, unwaith eto, weithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi yma yn y Senedd yr wythnos nesaf. Mae'r rhain ymhlith y profiadau mwyaf dinistriol y gall teuluoedd eu profi. Rydym wedi eu trafod droeon yma ar lawr y…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau profedigaeth ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys bydwragedd profedigaeth arbenigol, i helpu teuluoedd yn yr amgylchiadau unigryw hynny sy'n peri gofid mawr.
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gadewch i mi orffen yr ateb am un eiliad, Llywydd, dim ond i ddangos y rheswm pam y mae pobl o dan bwysau yn y sector hwnnw. Y gyfradd morgais ym mis Rhagfyr 2021—gallech fenthyg arian ar gyfradd o 2.34 y cant. Ar y diwrnod y cyhoeddodd y Canghellor…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n gyfarwydd â gwaith Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl. Maen nhw'n galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r lwfansau tai lleol, i roi terfyn ar rewi budd-daliadau tai a rhoi diwedd ar yr arfer o aros am bum mis ar gyfer gredyd…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru mae'r rhaglen cynllun lesio Cymru werth £30 miliwn. Mae'r cynllun hwn yn galluogi awdurdodau lleol i lesu eiddo'r sector rhentu preifat gan landlordiaid, gan ddarparu incwm gwarantedig i'r…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n croesawu'n fawr y fenter sydd wedi'i sefydlu yn sir y Fflint. Rydym yn gwybod nad yw anghydraddoldeb yn effeithio'n gyfartal ar bob rhan o'r gymdeithas, ac mae pobl ag anableddau wedi adrodd ers tro byd am effeithiau gormodol o ran cyflogaeth…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r grŵp y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, a da o beth oedd ymuno ag ef yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas y Mudiadau Gwirfoddol yn Wrecsam yn ddiweddar. Mae trefn y digwyddiadau y mae'r Aelod yn eu hamlinellu yn un cywir…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae gan awdurdodau lleol eu mandad a'u cyfrifoldebau democrataidd eu hunain. Mae dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn cael eu rhoi yn uniongyrchol ar gyrff cyhoeddus perthnasol. Gallwn annog a chefnogi…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwyf i a'r Gweinidog cyllid wedi dweud y byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y pwerau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y ffordd yr ydym yn eu gwneud bob amser, fel rhan o'r broses o osod y gyllideb, pan fydd gennym yr wybodaeth lawn sydd ei…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, cyfraniad hynod o wag yw ailadrodd y broblem drosodd a throsodd, heb un frawddeg sy'n ein helpu i ddod o hyd i ateb. Mae'r Llywodraeth hon yn talu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol; y tro cyntaf erioed i hynny gael ei wneud yn hanes…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, tynnodd arweinydd Plaid Cymru sylw at y penderfyniad a basiwyd yng nghynhadledd y Blaid Lafur. Dyna bolisi fy mhlaid, ac mae'n bolisi y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno'n fawr ein bod ni mewn sefyllfa i'w weithredu. Bydd yn gwybod bod pob codiad…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yr hyn a ddywedaf i, Llywydd, yw bod arosiadau hir yn y GIG yng Nghymru wedi gostwng dros bedwar mis yn olynol, ac mae pobl ledled y system yn gwneud eu gorau glas i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y targedau y mae'r gwasanaeth iechyd wedi ymrwymo iddyn…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae angen i bryderon yr unigolyn gael eu trafod gan y clinigwyr sy'n gyfrifol am ei gofal, oherwydd byddai'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'i ddweud yn amlwg yn annerbyniol, ac mae angen i'r rhai a oedd yn gyfrifol drafod gyda hi sut mae hi'n…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n well i mi ddyfynnu geiriau'r teuluoedd mewn profedigaeth eu hunain, fel nad oes amwysedd o ran yr hyn rwy'n ei ddweud. Felly, dyma—. Rwy'n dyfynnu nawr yn uniongyrchol o'r datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ganddyn nhw ddydd…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r nonsens ein bod ni rywsut—er ein bod ni ar restr hir iawn, iawn o bobl eraill y mae Prif Weinidog y DU wedi nodi nad ydyn nhw'n rhannu ei barn hi ar y byd, mae'n debyg. Tyfodd economi Cymru, yn ôl y ffigurau a gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Jane Dodds. Ar ddiwrnod sobreiddiol iawn, mae'n hollol sobreiddiol dychmygu y gallai'r bobl sy'n ymdopi ar bron i ddim yn ein cymdeithas ac sy'n gweld eu biliau'n cynyddu drwy'r amser, fod yn wynebu'r ffaith na fydd eu budd-daliadau hyd yn oed yn…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, bydd unrhyw beth yr wyf i ar fin ei ddweud, gall yr Aelod fod yn sicr, yn bitw o gymharu ag effaith y toriadau y gwyddom bellach eu bod ar eu ffordd. Felly, mae angen rhyw fath o realaeth bwyllog, hyd yn oed gan Aelodau ar y meinciau Ceidwadol…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Joyce Watson am hynna, a diolch iddi am dynnu sylw at y ffaith ei bod hi'n ddiwrnod y ferch heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae ein rhan, ynghyd â llywodraethau o amgylch y byd yn hynny o beth. Rwy'n falch iawn yn wir o roi gwybod i'r…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, ni ddaeth cyfle i drafod hwn nac unrhyw fater arall o du Prif Weinidog diweddaraf y DU.
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae Peter Fox, yn siarad bob amser ag awdurdod mewn cysylltiad â llywodraeth leol, o ystyried ei brofiad o arwain awdurdod lleol. Bydd yn gwybod sut mae arweinydd awdurdod lleol yn teimlo pan fo'n ystyried gostyngiad o 15 y cant yn ei gyllidebau. Ac…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein pwerau i amddiffyn pobl ym Mlaenau Gwent ac mewn rhannau eraill o Gymru rhag yr ymosodiadau hyn arnom. Llywydd, nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gorbwysleisio'r…
11 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, pobl ym Mlaenau Gwent fydd yn talu am bolisi Llywodraeth y DU o doriadau treth heb eu hariannu ar gyfer y cyfoethog. Gofynnir iddyn nhw dalu am y dyledion y bydd y Llywodraeth ddi-hid hon yn eu cronni. Toriadau i wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill…