15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cydnabod y dicter a'r siom y mae llawer o weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn eu profi ar hyn o bryd. Pan fydd eich cyflogau wedi cael eu cadw i lawr drwy ddegawd o gyni, ac rydych chi bellach yn wynebu codiadau cyflog o dan lefel…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, dydw i ddim yn mynd i ymateb i awgrym nad ydw i erioed wedi ei weld, pan nad oes un darn o bapur o fy mlaen i yn egluro beth mae arweinydd yr wrthblaid yn credu y bydd yn ei osod ger bron y Senedd. Wrth gwrs, pan fydd yn gwneud ei feddwl i fyny…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwyf wedi egluro dro ar ôl tro, ac nid wyf yn bwriadu gwastraffu amser y Senedd y prynhawn yma yn ailadrodd yr hyn a ddywedais i ar 19 Hydref y llynedd, 30 Tachwedd, 25 Ionawr, 23 Mai—mae'r rhain i gyd yn achlysuron pan wyf wedi ateb y cwestiwn hwn…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, yn gyntaf oll, diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd. Gwyddom ei fod ef ei hun wedi cael profiad o ba mor anodd y gall COVID fod, ac mae'n iawn iddo dynnu sylw at y ffaith bod miloedd o bobl yn parhau i fynd yn sâl â COVID bob wythnos…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am dynnu sylw yn enwedig at y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Mae'n arloesi yma yng Nghymru, mae £65 miliwn bellach wedi'i ddarparu iddi, ac rwyf wedi rhyfeddu at y ffordd y mae awdurdodau lleol blaengar a…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno â Heledd Fychan bod gan brosiect Unnos ran i'w chwarae, rhan bwysig i'w chwarae, wrth ein galluogi ni i gyflymu'r gwaith o adeiladu cartrefi fforddiadwy hirdymor i bobl ym mhob rhan o Gymru. Ni fydd yr uchelgais honno'n helpu'r…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae’r argyfwng costau byw, ac argyfyngau mewn rhannau eraill o'r byd, yn creu pwysau ar y system dai. Ar gyfartaledd, mae dros 1,400 o bobl yn cyflwyno eu hunain i wasanaethau digartrefedd bob mis sydd angen llety dros dro. Mae dros 6,000 o bobl sy'n…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rydw i'n cytuno â Ken Skates bod HyNet yn cynrychioli cyfle pwysig i economi gogledd-ddwyrain Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr. Yn gynharach yn yr hydref, llwyddais i drafod datblygiad HyNet gyda maer metro…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Joel James am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, ac rwy'n ei groesawu fel recriwt i'r rhai ohonom sydd wastad wedi credu mai swyddogaeth y Llywodraeth yw camu i'r adwy pan fo'r farchnad yn methu. Felly, mae'n dda gwybod bod y syniad hwnnw'n fyw ar y…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O'r gogledd i'r de a'r gorllewin i'r dwyrain, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau ymarferol ar gyfer defnyddio hydrogen er mwyn datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru.
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Joel James am y cwestiwn yna. Fel mae'n digwydd, oherwydd nid wyf i'n gwneud unrhyw honiadau fy mod i'n arbenigwr yn y maes hwn, roeddwn i'n trafod yr union fater yna gyda phrif swyddog digidol Cymru yn ddiweddar iawn. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gall technolegau digidol gynorthwyo'r ymdrech angenrheidiol i ddatgarboneiddio Cymru yn sylweddol. Fodd bynnag, gall y weithred o ddefnyddio, ei hun, greu ôl troed carbon. Datgarboneiddio digidol cynaliadwy felly yw uchelgais strategaeth ddigidol Cymru.
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n siŵr y bydd aelodau ar draws y Siambr eisiau nodi Diwrnod Strôc y Byd, ac i gydnabod y datblygiadau sylweddol iawn sydd wedi bod yn ddiweddar mewn triniaethau sydd ar gael i gleifion strôc a'r ffordd y mae'r GIG wedi gallu ymateb i hynny. Nid ydw i'n…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel i'w phoblogaeth leol, wedi'i seilio ar y dystiolaeth a'r cyngor clinigol diweddaraf.
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Jane Dodds; mae'r rheiny i gyd yn bwyntiau pwysig iawn. Mae hi'n hollol gywir—nid yr unigolyn yn unig sydd yma, teulu'r unigolyn sy'n cael ei ddal mewn diagnosis canser. A dim ond un o'r anawsterau mae teuluoedd yn ei wynebu yw effaith gorfforol…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Rydw i wedi gallu darllen ei lythyr at y Gweinidog iechyd ac rydw i wedi gweld ei hateb. Gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth sy'n ddefnyddiol i'w etholwr yn yr hyn sy'n amlwg yn amgylchiadau unigol sy'n peri…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae arloesedd, buddsoddiad ychwanegol a recriwtio staff arbenigol ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd ochr yn ochr ag arweinwyr clinigol i leihau amseroedd aros canser.
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rydym wedi trafod droeon yma y galwadau a ddaw o wahanol rannau o Gymru i ddiwygio'r fformiwla ariannu, ac rydym ni bob amser wedi dweud, fel Llywodraeth, y byddwn ni, wrth gwrs, yn barod i drafod y peth gydag awdurdodau lleol pan fyddan nhw'n…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, fe wnaeth Hefin David gyfres o bwyntiau pwysig yn y fan yna, yr wyf i'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno â phob un ohonyn nhw ac sydd i gyd yn feysydd yr ydym ni'n parhau i wneud ein hymdrechion ynddyn nhw. Soniais am y £43 miliwn yr…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Hefin David am y cwestiwn. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid gofal cymdeithasol i wella telerau ac amodau cyflogaeth y gweithlu. Mae £43 miliwn wedi cael ei ddarparu i'r sector i'w helpu i gynyddu cyflogau i'r cyflog byw…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud, a gomisiynwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, i hyrwyddo gwell rheolaeth o'n lleiniau ffyrdd a'n glaswelltiroedd ar draws y gogledd? Mae Carolyn…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, wnes i wir ddim dychmygu'r prynhawn yma y byddem ni'n clywed bod plaid Geidwadol Cymru yn erbyn blodau. [Chwerthin.] Maen nhw yn erbyn bron popeth arall, ond doeddwn i ddim wedi disgwyl gweld dolydd blodau gwyllt yn cael eu hychwanegu at eu…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, cofnododd prosiect blodau gwyllt sir Ddinbych 268 o rywogaethau blodau gwyllt ar eu safleoedd yn 2021. Nid oedd 136 o'r rhywogaethau hynny wedi cael eu canfod yno o'r blaen, ac mae rhwydwaith safleoedd y prosiect yn tyfu bob blwyddyn, wedi'i gefnogi…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i Jack Sargeant am hynny a'i longyfarch, wrth gwrs, ar y ffordd y daeth ef ei hun drwy'r system brentisiaeth honno a gwneud hynny'n llwyddiannus. Yr hyn y gallwch chi ei ddweud yn eithaf sicr wrth y fforwm busnes yw bod ganddyn nhw, yng Nghymru…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwyf i wedi mwynhau cyfraniad diweddaraf Laura Anne Jones at ei hymgyrch arweinyddol, ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: y bydd angen iddi arafu ar y niferoedd er mwyn caniatáu i bobl ddilyn y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud. Rwy'n edrych…