10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Russell George am y cwestiwn, Llywydd. Rydym wedi darparu mwy na £71 miliwn i weithgareddau rheoli risg llifogydd ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn cynrychioli ein cyllideb fwyaf erioed. Mae'r £39.5 miliwn sy'n cael ei…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n credu mai'r BMA a ddisgrifiodd GIG Cymru fel y GIG agosaf at egwyddorion gwasanaeth iechyd sefydlol mudiad Bevan o unrhyw un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n safbwynt y byddwn yn dymuno ei weld yn cael ei gynnal. Roedd…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, bydd y Llywodraeth yn cynnal ein trafodaethau gydag undebau llafur, gyda'r undebau llafur. Dyna'r ffordd gywir i ddatrys y materion hyn, a dyna, mewn gwirionedd, yw'r ffordd rwy'n credu sy'n barchus i'n cydweithwyr yn yr undebau llafur, sef ein…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae yna ddewisiadau gwleidyddol yma, Llywydd, ac mae ffeithiau caled hefyd, ac mae'n ffaith galed na allwch wario arian untro i dalu am filiau rheolaidd. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at ein cydweithwyr yn yr undebau llafur yn sicrhau ein…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r cyngor yn ymdrin yn uniongyrchol â sicrhau nad yw pobl yn cael eu rhyddhau o dan amgylchiadau a fyddai'n arwain at eu haildderbyn yn gyflym. Mae'n siarad am bobl sydd, er enghraifft, yn aros am asesiad, ac yn awgrymu ei bod hi'n well i rywun…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, ni frysiwyd y cyngor mewn unrhyw ffordd; cafodd ei gyhoeddi ar 30 Rhagfyr. 27 Rhagfyr oedd y diwrnod unigol prysuraf yn hanes 75 mlynedd y GIG yng Nghymru. Ar y diwrnod unigol hwnnw, cafodd 550 o gleifion eu derbyn i welyau yn y GIG yng Nghymru…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n gwrthod yn llwyr y cymeriadu a wnaeth arweinydd yr wrthblaid, a dylai wybod yn well. Mae'n gwbl anghyfrifol yn camgyfleu'r cyngor, nid gan Lywodraeth Cymru, ond gan Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru. Mae gennyf…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Alun Davies am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'n ein hatgoffa ni o ba mor ffyrnig yr oedd y Blaid Geidwadol ar y pryd yn gwrthwynebu Aneurin Bevan. Ni fyddai gennym wasanaeth iechyd gwladol petai'r blaid honno wedi cael ei ffordd. Yr hyn sy'n sicr yn…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid wyf yn derbyn y darlun cyffredinol y mae'r Aelod yn ei bortreadu, sef bod hwn yn gyflwr sydd wastad wedi bod yn broblem yn GIG Cymru. Roedd amseroedd aros yn GIG Cymru wedi bod yn gostwng dros bedair a phum mlynedd yn olynol hyd at fis Mawrth…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prynhawn da Dr Hussain. Llywydd, yn y chwe mis ar ôl cyhoeddi'r rhaglen adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd, mae arosiadau hir yn GIG Cymru wedi gostwng 23 y cant. Mae hynny o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol sylweddol, cyfleusterau estynedig, diwygio…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Roedd yn dda iawn yr wythnos diwethaf cael cyfle yno, gyda thri chyd-Weinidog arall, i dynnu sylw at waith undeb credyd Caerdydd a'r Fro. Roedd cyd-Aelodau eraill, fe wn i, allan ar yr un diwrnod yn tynnu sylw at y…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n cydnabod y ddilema y mae Peter Fox yn cyfeirio ato. Rwyf i'n dymuno, fel y gwnaeth ef, dalu teyrnged i'r gwaith gwych y mae mudiadau gwirfoddol a'r trydydd sector yn ei wneud yma yng Nghymru. Ac nid yw'n syndod clywed bod llawer o'r sefydliadau…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru yn darparu cymorth hanfodol i eraill yn yr argyfwng costau byw ac mae'n effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw hefyd. Rydym wedi cynyddu cyllid i'r sector ar gyfer y ddau beth hyn…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, blwyddyn newydd dda i chi a phawb hefyd.
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Jayne Bryant am yr hyn y dywedodd hi am y datganiad ansawdd gofal lliniarol, y rhoddodd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan gyhoeddusrwydd iddo yn ddiweddar. Mae'n codi llawer o'r pwyntiau y mae'r Aelod newydd eu gwneud, Llywydd. Dydym ni ddim yn dda am…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal hosbis wedi arwain at gynnydd o £2.2 miliwn i gyllid hosbisau o'r flwyddyn ariannol hon ac ymlaen. Mae hynny'n cynnwys gwasanaeth gwych Gofal Hosbis Sefydliad Dewi Sant sy'n gwasanaethu ardal Casnewydd. Mae…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Llywydd. Dwi'n cytuno, mae yn dda i weld popeth rydym ni'n ei wneud gyda'n gilydd i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor yn mynd ymlaen mewn ffordd lwyddiannus, ac, wrth gwrs, fel Aelod lleol, mae uchelgais gyda Siân Gwenllian i…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Llywydd. Mae’r niferoedd derbyn wedi cael eu cytuno, ac mae’r cyllid wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer 140 o fyfyrwyr bob blwyddyn, pan fydd yr ysgol yn cyrraedd y capasiti uchaf. Cafodd llythyr o sicrwydd ei anfon at…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Mike Hedges. Roedd yn braf iawn bod yn Abertawe gydag ef ddechrau'r mis hwn, a chyfle i roi ar gof a chadw unwaith eto: llongyfarchiadau i Matt Warren, a sefydlodd Veeqo lai na 10 mlynedd yn ôl, ac sydd wedi ei wneud yn llwyddiant mor…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Buddsoddi mewn seilwaith, sgiliau a busnesau newydd yw'r cynhwysion hanfodol yng nghamau'r Llywodraeth i ddatblygu ein heconomi. Mae rhaglen ardal ddigidol bargen ddinesig bae Abertawe, wedi'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn enghraifft o sut rydym…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Jack Sargeant. Mae'n rhaid mai un o waddolion llwyddiant Cymru i gyrraedd rownd derfynol cwpan y byd yw ysbrydoli'r genhedlaeth newydd honno o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon o bob math, ac os ydyn nhw'n mynd i…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach yna. Gadewch i mi roi dwy enghraifft iddo o ffyrdd y byddwn ni eisiau dilyn ein presenoldeb yng nghwpan y byd yn y meysydd y mae'n eu crybwyll. Felly, dywedais yn fy ateb gwreiddiol y byddai camau…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, fe wnaeth presenoldeb Llywodraeth Cymru yn Qatar ganiatáu i ni gynyddu ymwybyddiaeth o Gymru ar draws y byd a lleisio'r gwerthoedd sy'n bwysig i ni. Bydd manteision diwylliannol ac economaidd ymhlith sgil-gynhyrchion yr ymgysylltu hwnnw.
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Fel y bydd llawer o Aelodau o'r Senedd yn gwybod, fe wnaethom ni greu pwyllgor Cabinet newydd yn ôl ym mis Medi, sydd wedi cyfarfod bob wythnos yn ystod yr hydref hwn, i edrych ar fesurau costau byw. Ddoe, ymunodd…
13 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn mae'r Aelod yn ei ddweud am y cyfnod caled iawn y mae cynifer o gymunedau yma yng Nghymru yn ei wynebu, yn enwedig dros y gaeaf hwn. Nid yw'r cefndir cyffredinol mor llwm ag y byddai'n ei bortreadu. Atebais gwestiwn yn…