24 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil diogelwch cladin
Diolch yn fawr iawn i ti, Rhys, os caf i, Ddirprwy Lywydd, ddiolch iddo fo am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni heddiw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i Mike Hedges a Peter Fox am gefnogi'r ddadl. Mae gennym ni yma, yn syml, fater o gyfiawnder sylfaenol, onid oes?…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd
Ar gyfer y record, mae gen i dŷ lle mae gen i denant hirdymor yn byw ynddo hefyd, lawr yn Aberystwyth. Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Mae yna genedlaethau o bobl wedi bod yn ymgyrchu er mwyn ceisio cael llywodraethau i weithredu ar yr…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Diolch yn fawr iawn, Janet. Mae'r diwydiant pysgota yn un andros o bwysig i'n cymunedau ni yng Nghymru, ac i gymunedau Dwyfor Meirionnydd. Mae gan y sector botensial aruthrol ac mae'n syndod cyson i mi nad ydy'r Llywodraeth yn gwneud mwy i fuddsoddi yn y…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mi fuaswn i wrth fy modd yn gweld y transition plan yna, ac rwy'n croesawu'ch geiriau chi ar ynni y môr hefyd, achos dyna, wedi'r cyfan, yw'r ffordd ymlaen. Dwi am droi yn olaf at fater taliadau tai dewisol—discretionary housing…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr ateb hwnnw i gwestiwn gwleidyddol mewn siambr wleidyddol. Dwi am droi rŵan at fater pwerdai nwy. Er gwaethaf ymrwymiad ymddangosiadol Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio, fel sy’n cael ei ymgorffori yn eich strategaeth…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gobeithio bod y Gweinidog yn well ar ôl ei hannwyd wythnos diwethaf. Yn dilyn yr etholiad, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, a fydd yn cynnwys ardal beilot. Mae yna gymunedau…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-net
Y cwestiwn olaf, felly. Os rydyn ni am weld lliniaru ar newid hinsawdd a bod rhywbeth go iawn yn digwydd i'n cymunedau gwledig ni, yna mae'n rhaid i hynny fynd law yn llaw efo buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ein cymunedau, ac, yn fwy na hynny, mewn…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-net
Dwi'n croesawu'r uchelgais sydd wedi cael ei gyfeirio ato yma y prynhawn yma. Gadewch i ni obeithio na fydd e'n dioddef yr un ffawd â'r uchelgais oedd gan eich Llywodraeth chi o waredu tlodi plant yng Nghymru. Amser a ddengys, wrth gwrs. Maddeuwch fy…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch, Weinidog. Wel, dwi’n lleisio barn fy etholwyr yn fan hyn, a nifer o bobl eraill hefyd, wrth ddweud eu bod nhw wedi colli trywydd yn llwyr ar eich strategaeth chi wrth ddelio efo coronafeirws, mae’n flin gyda fi ddweud. Mi ddaru chi gyflwyno COVID…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A wnewch chi fel Gweinidog amaeth, neu hyd yn oed Gweinidog yr Economi, ddod â chyhoeddiad ger ein bron ynghylch y camau dŷch'n eu cymryd i fynd i’r afael â’r arferiad cynyddol yma o gwmnïau mawr rhyngwladol yn prynu tir amaethyddol yng Nghymru er mwyn ei…
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Wel, mae cymorthyddion dosbarth yn rhan hanfodol o weithlu addysg ein gwlad. Maen nhw'n partoi gwersi i'r disgyblion, yn cymryd grwpiau allan i ddysgu, yn rhoi sylw un-i-un i ddisgyblion ag anghenion dysgu, yn cymryd gwersi…
19 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cynorthwywyr dysgu mewn ysgolion? OQ57082
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch, Gweinidog. Mae'r parthau perygl nitradau yng Nghymru yn cyfyngu amaethwyr i wasgaru dim mwy na 170 kg o nitradau yr hectar, tra bod parthau mewn gwledydd eraill yn galluogi ffermwyr i wasgaru hyd at 250 kg yr hectar. Mae'r cyfyngu yma yn golygu bod…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
10. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith parthau perygl nitradau? OQ57004
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, dwi’n meddwl eich bod chi a’r Llywodraeth yn bod braidd yn annheg yn dweud nad oedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddod dechrau’r flwyddyn ddiwethaf a'i fod o'n hawdd gwneud penderfyniadau ag edrych yn ôl—hindsight, fel…
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Cynnydd ar y Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’
Weinidog, 10 mlynedd yn ôl, profodd etholwr i fi ddirywiad yn ei iechyd meddwl, a olygodd ei fod o'n gorfod mynd am ofal arbenigol. Presgreibiwyd cyffuriau gwrthiselder a gwrthseicotig iddo, ac mae o wedi bod yn eu defnyddio nhw ers hynny. Ond, er hynny, dydy…
29 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Cyhoeddi adroddiad Holden—Amser ar gyfer tryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru
Diolch yn fawr iawn i ti, Llyr, am ddod â'r ddadl yma gerbron. Dwi am ddechrau fy nghyfraniad byr i drwy dalu teyrnged i etholwr i mi yn Nwyfor Meirionnydd, David Graves—mab y diweddar Jean Graves, a fu farw ym Mehefin 2016. Mae David wedi bod yn ddygn yn ei…
29 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Weinidog, mae nifer o fusnesau bach yn y sector lletygarwch wedi cysylltu efo fi dros y misoedd diwethaf yn cwyno nad ydy’r cymorth ariannol COVID i fusnesau lletygarwch wedi bod yn deg, gan fod y cymorth hynny yn seiliedig ar nifer y bobl mae’r busnes yn ei…
28 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad
Weinidog, fyddech chi'n cytuno bod hwn yn fath arall o chumocracy sydd yn nodwedd o'r Llywodraeth Geidwadol yma efo nhw'n trio ceisio cadw cyfoeth ymhlith eu cyfeillion breintiedig nhw tra'n gwadu ardaloedd tlotaf y Deyrnas Gyfunol o arian sydd yn…
28 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Drefnydd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol o'r twf aruthrol yn achosion COVID yn ein hysgolion ni. Yn yr wythnos ddiwethaf, mae yna 9,500 o achosion wedi bod ymhlith pobl ifanc o dan 20 mlwydd oed—y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ein hysgolion. Flwyddyn yn ôl…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb. Flwyddyn diwethaf, fe gododd eich Llywodraeth chi y gyfradd uwch o'r dreth trafodiadau tir gan 1 y cant, a hynny er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng ail dai. Bryd hynny, roedd hyd at 44 y cant o'r tai a werthwyd yn…
15 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith y dreth trafodion tir? OQ56810
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Wel, mi ges i gyfarfod yn ddiweddar efo swyddogion Llywodraeth De'r Tyrol yng ngogledd yr Eidal, un o'r rhanbarthau cyfoethocaf yn Ewrop, ac yno does nemor ddim ail dai ac mae twristiaeth yn llewyrchu. Ond er gwaethaf…
14 Medi 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gynlluniau’r Llywodraeth ynghylch tai cymdeithasol? OQ56811
15 Gorffennaf 2021 , Local Government and Housing Committee
Papurau i'w nodi
Diolch.