4 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 eiliad
Diolch yn fawr iawn unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Heddiw, dwi am dynnu sylw'r Senedd at Reilffordd Llyn Tegid, sy'n teithio o Lanuwchllyn i'r Bala ac sydd yr wythnos yma yn dathlu 50 mlwyddiant ers gosod y traciau cyntaf ar gyfer y rheilffordd bresennol. Roedd…
4 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Bydd y Migraine Trust yn darparu pecyn cymorth, toolkit, i Aelodau'r Senedd y mis yma er mwyn ein helpu ni i roi cymorth i bobl sy'n dioddef o feigryn, gan gynnwys y staff sy'n gweithio efo ni ac yn wir holl staff y Senedd…
4 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
3. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Senedd yn lle sy'n ystyriol o feigryn? OQ57960
4 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn i Carolyn am y cwestiwn yma. Mae gen i drigolion yn Nwyfor Meirionnydd, yn Islaw'r-dref, er enghraifft, sy'n methu â chynnal eu busnes ar-lein ac sy'n gorfod symud i ffwrdd neu gau'r busnes i lawr. Mae gen i blant bach sy'n cael eu…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Mae gan y Llywodraeth darged, wrth gwrs, o adeiladu tai cymdeithasol, ac mae eu mawr angen nhw er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros ar gyfer tai. Mae yna ddatblygiadau tai yn yr arfaeth ar hyn o…
3 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
8. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gynorthwyo'r sector tai cymdeithasol yn wyneb y cynnydd mewn costau adeiladu? OQ57948
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Does unman yn debyg i gartref: Tai amlfeddiannaeth ac ymrymuso cymunedol
Diolch yn fawr iawn i Peredur am ddod â'r ddadl yma ger ein bron, achos mae e'n un hynod o bwysig, yn enwedig o ystyried yn nifer o'r HMOs sydd gennym ni, os ydych chi'n meddwl am lefydd fath â Bangor, Aberystwyth, Abertawe, Wrecsam, Caerdydd—yr ardaloedd yna…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob un ohonoch am y cyfraniadau ystyriol ac adeiladol iawn i'r ddadl hon heddiw. Rwy'n cytuno â’r Dirprwy Weinidog pan gyfeiriodd at gyfraniad Janet Finch-Saunders a’i phryder ynghylch nifer y bobl nad ydynt yn…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai
Erbyn hydref y llynedd ac ar draws y 10 awdurdod lleol yr edrychwyd arnynt, dengys ymchwil gan Sefydliad Bevan mai dim ond 3.8 y cant o’r holl eiddo ar y farchnad a hysbysebwyd ar gyfraddau a oedd ar lefel y lwfans tai lleol neu’n is. Roedd y sefyllfa'n fwy…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai
Gadewch inni ddechrau gyda ffaith, rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei wybod. Rydym yng nghanol argyfwng tai ac un o'r argyfyngau costau byw gwaethaf y gallwn ei gofio. Mae’r argyfyngau hyn sy’n ein hwynebu yn rhyng-gysylltiedig. Mae’r argyfwng tai—neu’n…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau nodi ar y cychwyn fan hyn—neu roi datganiad o ddiddordeb sydd ar y record gyhoeddus. A gaf i hefyd ddweud fy mod i'n nodi mai'r Dirprwy Weinidog sy'n ymateb heddiw, ac ein bod ni oll ar yr ochr yma yn estyn ein…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi ysgrifennu at Rishi Sunak ac wedi gofyn iddo wrthdroi'r toriadau niweidiol. Tybed a wnewch chi ymuno â mi ac ysgrifennu at Rishi Sunak hefyd i'w annog i wrthdroi'r toriadau hyn. Mae'r Torïaid yn gywir i ddweud bod…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth
Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf. Mae'r busnesau hyn yn galw am help yn awr—[Torri ar draws.]—ac mae'r Torïaid yn troi eu cefnau.
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth
Nid wyf am dderbyn ymyriad yn y cyfraniad hwn, mae'n ddrwg gennyf, Andrew. Rwyf weithiau'n anobeithio ynghylch tactegau'r Blaid Geidwadol. Mae'r cynnig hwn yn cyfeirio at y posibilrwydd o ardoll dwristiaeth, a'r cyfan y mae'n ei wneud yw tynnu sylw oddi ar…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth
Na, wnaf i ddim cymryd un y tro yma, mae'n flin gennyf fi, â phob parch.
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth
Dwi'n gwaredu, mae'n rhaid dweud, weithiau, pan dwi'n gweld cynigion y Ceidwadwyr sy'n dod ger ein bron. Mae'r cynnig yma'n dangos nad oes gan y grŵp yna unrhyw ddiddordeb mewn cyfrannu'n adeiladol, ond yn hytrach yn trafod potensial hwyrach fod yna dreth yn…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ddod yma a rhoi'r ateb. Ond y gwir ydy bod yna sawl person wedi cysylltu efo fi ac eraill yma dros yr wythnosau diwethaf yn cwyno ac yn pryderu'n arw eu bod nhw wedi cael eu heithrio o'r bonws yma. Yn wir, maen nhw'n dweud…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Fel y gwyddom, mae'r sector yn hanfodol ar gyfer ein diogeledd bwyd. Fel y nodwyd gennym, mae ganddo botensial aruthrol. Fodd bynnag, fel sectorau eraill, mae'r sector hwn hefyd yn dioddef canlyniadau'r amryfal argyfyngau sy'n wynebu cymdeithas heddiw. Mae'r…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Dwi'n siŵr y bydd yr ateb yna yn rhoi gobaith o leiaf i rai yn y sector.
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae ffigurau swyddogol ar laniadau fflyd Cymru yn awgrymu bod fflyd bysgota Cymru bellach ar drai peryglus o isel, ac os bydd y trywydd presennol yn parhau, mae mewn perygl o ddiflannu’n fuan. Yn gyffredinol, mae glaniadau cychod o Gymru wedi gostwng o…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am barhau â chwestiwn cyntaf Sam Kurtz, os caf i.
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf: gaf i ofyn am ddatganiad ar unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella atebolrwydd democrataidd yn ein byrddau iechyd? Byddwch chi'n gwybod bod yna newidiadau sylweddol wedi bod yn y byrddau…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr
Dwi am ganolbwyntio ar un elfen o'r cynnig, sef e-bresgreibio. Mae dadlau am systemau technoleg gwybodaeth o fewn iechyd yn un o'r pethau anacronistaidd yma, onid ydy? Mae'r sector iechyd yn torri tir newydd yn ddyddiol bron efo technoleg, ond eto mae…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hwnna. Dwi'n croesawu'r cynnydd sydd wedi cael ei weld yn y gyllideb tuag at dai cymdeithasol. Os ydyn ni i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, yna mae'n rhaid, wrth gwrs, wrth rhagor o dai cymdeithasol, ond…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
8. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau tai addas i ateb galw cymunedol? OQ57882