22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mi fuasai awdurdodau lleol yn dod yn ôl ac yn dweud, 'Wel, mae'n amhosib, bron', neu mae'n annheg disgwyl iddyn nhw ddelifro yn llwyr ar ofynion y ddeddfwriaeth oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu hariannu yn ddigonol er mwyn gwneud hynny. Oes gennych chi…
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Diolch. Felly, os awn ni ymlaen i'r camau nesaf, yn absenoldeb atebion gan awdurdodau lleol—a dwi'n derbyn eich bod chi'n aros am y rheini—mae gennych chi brofiad yn y maes ers dros 18 mis bellach o fod yn Weinidog, ac mi ydych chi wedi sôn bod yna Ddeddf…
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ocê. Felly, pa mor hyderus ydych chi, o ystyried cyn lleied o ofalwyr di-dâl sy'n cael eu hasesu, ac yn sgil hynny yn derbyn unrhyw fath o gymorth, fod anghenion gofalwyr di-dâl yn cael eu hateb yn gywir yng Nghymru ar hyn o bryd, a bod y cyrff delifro yn…
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Diolch am yr ateb yna, Weinidog, a diolch am eich gonestrwydd chi yn fanna. Dwi'n ei weld o'n rhyfeddol ein bod ni mewn sefyllfa lle nad ydyn ni'n gwybod y data am ofalwyr di-dâl. A fyddech chi'n cytuno, felly, yn absenoldeb data cywir, nad oes gennym…
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ac ymddiheuriadau os nad oeddwn i'n gwneud fy hun yn glir. Mae'r sector iechyd yn casglu data ar ofalwyr di-dâl, neu mae yna botensial iddyn nhw gasglu data ar ofalwyr di-dâl. Ac yn y maes yna, felly, dwi'n edrych, yn benodol, ar yr anghysondeb.
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
A gaf i, felly, dorri ar draws? Mae'n flin gen i.
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Diolch. Os caf i, yn sydyn felly, fynd ymlaen at elfen arall, sef data, rydych chi wedi cyffwrdd â data, ac wedi rhoi un dyddiad i ni. Ond ymhellach i'r anghysondeb mewn casglu data, sydd wedi bod yn ganolog i'r dystiolaeth rydym ni wedi'i derbyn yn ystod yr…
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ar y pwynt yna, os caf i, rydych chi newydd ddweud eich bod chi wedi ymestyn y grant yna am flwyddyn arall, ac mae o wedi'i rewi. Felly, mae yna gyfle yn fanna i fod wedi cynyddu i gyd-fynd gyda chwyddiant—ac rydyn ni'n clywed bod chwyddiant yn mynd yn…
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Wel, dwi'n falch bod y Gweinidog wedi cyfeirio yn fanna at y grant cynaliadwyedd gwasanaethau cymdeithasol, y sustainable social services grant. Dwi'n cael ar ddeall fod y grant yna, mewn termau go iawn, wedi cael ei rewi ers 2022 neu 2023, sydd yn golygu bod…
22 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Bore da, ac ymddiheuriadau unwaith eto fy mod i'n methu bod gyda chi lawr yn fanna. Dwi eisiau jest cyffwrdd, i gychwyn, cyn fy mod i'n mynd ymlaen i fy maes cwestiynau, ar y partneriaid rydych chi'n gweithio efo er mwyn delifro. Rydych chi wedi sôn am…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Yr angen am gynllun cenedlaethol i wella gwasanaethau syndrom Tourette
Yn ôl beth dwi'n ei ddeall, mae yna gefnogaeth wyddonol i'r teimlad yna, ac mae yna gymorth mewn lle ar gyfer pobl sydd yn byw efo tics a Tourette's, a chymorth ydy o ar gyfer rheoli ymddygiad. Dwi eisiau gweld os ydy'r Llywodraeth yma wedi ystyried…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Yr angen am gynllun cenedlaethol i wella gwasanaethau syndrom Tourette
'mae'r rhai sy'n ei ddioddef yn dweud bod y teimlad ychydig bach fel tisian. Gallwch ei deimlo'n dod a rhaid i chi ei adael allan.'
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Yr angen am gynllun cenedlaethol i wella gwasanaethau syndrom Tourette
Diolch i Lee am ddod â’r ddadl yma ger ein bron ni. Mae'n sicr yn bwnc nad ydyn ni ddim yn ei drafod yn ddigonol. Yn wir, roedd yna ddadl, os ydw i'n cofio'n iawn, ar lawr y Senedd nôl yn 2022. Roedd yna ddeiseb gerbron y Pwyllgor Deisebau yn galw am lwybr ar…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hosbisau
Mae'r neges yn y cynnig yma yr un mor wir heddiw ag ydoedd pan wnes i gyflwyno dadl ar yr union bwnc yma ddwy flynedd yn union yn ôl. Ac mae'n werth ein hatgoffa o'r hyn a ddywedais i ddwy flynedd yn ôl. Mae hosbisau yn rhan hollbwysig o'n system iechyd a…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hosbisau
Rydym yn croesawu'r cynnig hwn am ei fod yn edrych ar y tymor hir. Mae'r lefel honno o flaengynllunio yn wych. Ac o ystyried digwyddiadau diweddar ar y meinciau gyferbyn, ni ellir ei gymryd yn ganiataol bob amser. Ac wrth feddwl am Reform: bydd Reform yn…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Atal iechyd gwael—gordewdra'
Papur ymchwil sy'n dangos £73 miliwn ar hyn o bryd, ond synnwn i ddim eich bod chi'n iawn ei fod o dan beth ydy'r brif gost pan ydych chi'n ystyried holl effaith gordewdra ar y gwasanaeth iechyd. Ffigur uniongyrchol ydy hynny, yn ôl y papur ymchwil, ond mae…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Atal iechyd gwael—gordewdra'
Roedd hwn yn ymchwiliad arbennig o ddiddorol ac arbennig o dda, a dwi'n ddiolchgar iawn i bawb oedd yn rhan o'r ymchwiliad yma. Roedd o'n un oedd yn agor llygad. Dwi wedi defnyddio'r term sawl gwaith bellach fod gordewdra fel y rhinoseros llwyd sy'n dod lawr…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn olaf, rwyf wedi codi pwysigrwydd ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sawl gwaith yn y Siambr hon. Maent yn hanfodol os ydym am ddatblygu gwasanaeth iechyd ataliol cynhwysfawr, sy'n allweddol i sicrhau bod pobl yn ailymuno â'r gweithlu, ac sy'n…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dim ond symptomau o broblem ehangach yw rhestrau aros hir a chamweithredu cronig bwrdd Betsi Cadwaladr, sef methiant Llafur dros 27 mlynedd i ailgynllunio sylfeini'r system iechyd i adlewyrchu'r boblogaeth fel y mae heddiw ac fel y bydd, yn hytrach na fel yr…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Y llynedd, fe addawodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai arosiadau o fwy na dwy flynedd yn cael eu dileu yn llwyr erbyn diwedd 2025. Yn dilyn ymchwiliad annibynnol i fylchau yn y data yn y bwrdd iechyd, rydyn ni…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Hybiau Iechyd Menywod
Felly, mae yna bwrpas amgenach i hyn. Nid yw'r cwestiwn a ydy'r bwriad yn gywir—mae'r uchelgais yn glir, ac mae hynny i'w ganmol—ond a fydd menywod ledled Cymru yn teimlo gwahaniaeth go iawn yn eu profiadau bob dydd o'r system iechyd? Diolch.
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Hybiau Iechyd Menywod
'Mae gwerth $250 biliwn yn cael ei golli mewn cynhyrchiant bob blwyddyn o ganlyniad i ganser mewn menywod, sef 0.3 y cant o gynnyrch domestig gros byd-eang.'
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Hybiau Iechyd Menywod
Mae cynllun iechyd menywod cyntaf Cymru ac agoriad y ganolfan ymchwil yn gerrig milltir pwysig, ac yn adlewyrchu'r gydnabyddiaeth hirddisgwyliedig fod iechyd menywod wedi cael ei dan-flaenoriaethu dros ddegawdau, ond nid yw uchelgais ar ei ben ei hun yn…
15 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr byrddau iechyd lleol
Diolch. Ac yn olaf gen i, Gadeirydd, yn sydyn iawn, yr hyn rydyn ni hefyd yn ei glywed ydy'r angen am ofal neu ddarpariaeth respite i ofalwyr di-dâl. Beth ydy'ch dealltwriaeth chi o'r sefyllfa o ran darpariaeth respite? Ydych chi'n meddwl ei bod hi'n…
15 Ionawr 2026 , Health and Social Care Committee
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr byrddau iechyd lleol
Yn dilyn o hynny yn gryno, felly, ar yr un llwybr o ran llesiant yr unigolion, y gofalwyr yma, mae nifer ohonyn nhw wedi dweud wrthym ni eu bod nhw'n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn sgil y gofal, yn enwedig pobl ifanc. Felly, beth ydych chi'n credu y…