16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, mae fy nghwestiwn yn ymwneud â mater ehangach diogelwch ystad yr ysbyty ac ystad y GIG, sy'n berthnasol i'r cwestiwn a godwyd gan Altaf. Felly, gan feddwl am Ysbyty Tywysoges Cymru yn ogystal, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu at Rachel Reeves i…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am eich cwestiwn, Altaf, ac mae’n gwestiwn rhagorol. Wrth gwrs, mae'r digwyddiad hwn hefyd yn enghraifft o gyflwr dirywiol ystad y GIG yn fwy cyffredinol. O dan wyliadwriaeth Llywodraeth Cymru, mae'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw risg uchel yn unig…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Diolch. Mi wnaf i hynny, yn sicr. Yn ôl yr hyn dwi'n ei ddeall, mae yna tua £250,000 o bres y Comisiwn yn cael ei wario ar rent, yn bennaf i landlordiaid preifat. Dros gyfnod y Senedd, mi fydd hwnna'n golygu bod y rhan helaethaf o £1 miliwn o bres cyhoeddus y…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
5. Pa drafodaethau y mae’r Comisiwn wedi’u cael â’r Bwrdd Taliadau am opsiynau gwahanol ar gyfer llety preswyl i Aelodau o'r Senedd yng Nghaerdydd? OQ61712
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mi ddof i at y cwestiwn—diolch, Llywydd. Mae'n amlwg, felly, fod hyn wedi methu ac mae angen asesiad. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddod draw i Landderfel a Llanuwchllyn efo fi i weld hyn, a sicrhau bod y bws yn cael ei adfer ar gyfer yr hen lwybr?
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Diolch yn fawr iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Byddwch chi yn ymwybodol fod y newidiadau i’r T3, er enghraifft, wedi bod mewn grym rŵan ers tua blwyddyn. Ac yn y flwyddyn ers i’r T3 newid ei amserlen, does dim amheuaeth fod ansawdd bywyd nifer…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei wneud o lwyddiant newidiadau i amserlenni bysiau TrawsCymru? OQ61711
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24
Dwi'n falch o weld bod adroddiad y comisiynydd plant wedi adnabod iechyd meddwl fel maes blaenoriaeth i'w gwaith hi, oherwydd, fel dwi wedi sôn amryw o weithiau erbyn hyn, mae sicrhau triniaeth iechyd meddwl prydlon ac effeithiol i blant yn hollbwysig ar…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Llenwi’r bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor
Dwi ddim yn gwybod lle mae'r Llywodraeth yma yng Nghymru’n cael y syniad bod yna wersi i'w dysgu gan Lywodraeth San Steffan o Gymru pan fydd hi'n dod i ddeintyddiaeth achos, os ydy fy inbox i yn unrhyw ffon fesur, mae'n amlwg bod yna argyfwng yn mynd ymlaen…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1474, 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas'
Diolch am roi ffordd. Ydych chi'n derbyn serch hynny, er gwaethaf eu bod nhw'n dweud nad ydy'r llefydd yma'n mynd i gau, y canolfannau ymwelwyr, y gwir ydy, mewn cyfarfod efo fi, maen nhw wedi dweud mai rhyw fath o external catering fyddan nhw'n ei gael—rhyw…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1474, 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas'
—a chynrychiolwyr lleol er mwyn trafod yr opsiwn yna, os gwelwch yn dda? Diolch am eich amynedd.
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1474, 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas'
Mae'n bechod, mewn gwirionedd, fod y Llywodraeth heb wneud astudiaeth o werth economaidd beicio lawr mynydd. Rydym ni'n gwybod bod yr Alban wedi gwneud astudiaeth o'r fath, ac mae o'n sôn bod beicio lawr mynydd yn cyfrannu gwerth £150 miliwn at economi yr…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1474, 'Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas'
Diolch yn fawr iawn, Carolyn, am gyflwyno'r ddeiseb a'r drafodaeth yma, a llongyfarchiadau ar y penodiad i'r swydd, a phob lwc. Dwi yn mynd i sôn yn benodol am Goed y Brenin. Wrth gwrs, Coed y Brenin ydy crud beicio mynydd lawr allt Ewropeaidd, o bosib. Yno…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Dwi am ddechrau, os caf fi, drwy estyn fy nghydymdeimladau dwysaf i deulu June Fox-Roberts yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae ein meddyliau ni efo nhw. Yr hyn, wrth gwrs, sy’n gwneud y mater yma hyd yn oed yn fwy trist ydy bod yr erchylltra yn gwbl ataliadwy…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Twf Economaidd
Hoffwn godi dau bwynt os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, mae twf economaidd yn cael ei bennu, yn anorfod, gan iechyd y boblogaeth, ac mae gennym ni bob amser y cyfraddau o anweithgarwch economaidd sydd ymhlith yr uchaf yn y DU, sy'n cael ei ysgogi gan salwch…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Iechyd Meddwl a Llesiant
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Croeso i'r swydd a phob lwc efo'r swydd yma. Dwi am ddechrau fy nghyfraniad, os caf, drwy ddiolch i'r holl elusennau a chyrff trydydd sector sydd yn gwneud gwaith mor werthfawr yn y maes yma. Gaf i hefyd…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Natasha am y cwestiwn agoriadol yma. Os ydym ni wedi dysgu unrhyw beth o’r pandemig, yr angen i edrych ar ôl llesiant y gweithlu ydy hynny. Mae hyn yn golygu rhoi’r hyblygrwydd yna iddyn nhw er mwyn cael y balans rhwng gwaith a bywyd yn well, neu…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau offthalmoleg
Mae'r Aelod dros Orllewin Clwyd yn gwneud pwynt arbennig o bwysig. Mae ysbyty Stanley yn darparu gwasanaeth gwych, ac wrth gwrs mi fyddwn i'n cytuno efo'r angen i ehangu'r ddarpariaeth yno a sicrhau bod mwy yn cael ei wneud. Mae yna gwestiwn ehangach yn fanna…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau offthalmoleg
yn ein hwynebu yn tanlinellu’r brys yma. Ac wrth edrych ar gyflwr gofal llygaid yn ein gwasanaeth iechyd, yna does yna ddim syndod o gwbl eu bod nhw wedi dod i’r casgliad hwn. Mae tua un o bob wyth o bobl sydd ar restr aros yno oherwydd anghenion…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau offthalmoleg
'ton fawr o ddallineb'
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau offthalmoleg
a'r llywydd presennol wedi rhybuddio bod yna
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau offthalmoleg
'y cyfle olaf sydd gennym i gynllunio dyfodol hyfyw ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru',
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau offthalmoleg
Diolch, Llywydd, a diolch i Sam Rowlands am gyflwyno y ddadl amserol yma, ac mi fyddwn ni yn ei gefnogi. Oherwydd fel mae geiriad y cynnig yn awgrymu, mae gwasanaethau offthalmoleg ar y dibyn, a does yna ddim amser i golli er mwyn adfer y sefyllfa. Yn wir…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru—Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24'
Diolch i Llyr Gruffydd, y pwyllgor a'r tîm clercio ac ymchwil am y gwaith cynhwysfawr maen nhw wedi'i wneud yn yr adroddiad yma. Pan oedd y Llywydd presennol yn Weinidog dros Faterion Gwledig, sawl blwyddyn yn ôl bellach, fe ddangosodd Cymru weledigaeth ac…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
Fedraf i ddim dirnad beth mae merched yn gorfod ei ddioddef. Wrth gwrs, mae gennym ni yma yng Nghymru ddeilliannau gwaith mewn gofal canser, iechyd y llygad—a byddaf i'n cyfeirio at hynny maes o law, mewn dadl arall. Rydyn ni'n gweld gwasanaethau mamolaeth yn…