8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, alla' i ddim ateb y cwestiwn a fydd y Prif Weinidog yn ailystyried ei bresenoldeb oherwydd, yn amlwg, nid wyf i'n gallu siarad ag ef—mae'n sâl—ond rwy'n siŵr y bydd ei swyddfa wedi clywed eich cwestiynau. Felly, nid wyf i wir yn teimlo y gallaf i ateb…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaethoch chi godi tri gwahanol bwynt yn y fan yna. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr Alban, ac rwy'n credu eich bod chi'n iawn, fe allwn ni ddysgu gan yr Alban. Yn ddiweddar, fis diwethaf, roedd y Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi a minnau yn bresennol yn…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn; mae'n bwysig iawn bod pob gwlad yn dangos arweinyddiaeth, ac rwy'n sicr yn credu y dylai arweinyddiaeth y DU, sef yr aelod-wladwriaeth, wneud hynny. Rwy'n falch iawn bod Prif Weinidog y DU wedi newid ei feddwl ac yn…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd arweinydd yr wrthblaid yn ymwybodol bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru—yn ei chyfanrwydd, y chwaraewyr a'r rheolwyr—eisoes wedi ymrwymo i ymgyrch rhwymyn braich 'One Love', er enghraifft, i fynegi undod â chymunedau LHDTC+ ar draws y byd, ac rydym ni wedi ei…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, fel Llywodraeth, rydym ni'n adolygu'n rheolaidd y ffordd orau y gallwn ni hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang, a'n penderfyniad yw ei bod hi'n gymesur i'r Prif Weinidog a Gweinidog arall fod yn bresennol yn nwy o'r gemau grŵp. Os byddwn yn symud…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu eich bod wedi cael pethau yn y drefn anghywir. Fe wnaethoch chi gael pethau yn y drefn anghywir.
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, nid wyf i'n credu ei fod yn fater o gywir ac anghywir. Rydym ni mewn llywodraeth, fel rydych chi'n nodi, ac rwy'n credu ei fod yn wahanol o safbwynt gwleidydd llywodraeth nag ydyw i rywun sydd yn yr wrthblaid. Nid yw Plaid Lafur y DU wedi galw am…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio gyda phobl ifanc a'n hysgolion yn hyn o beth. Fel y dywedais i wrth Delyth Jewell, nid yw'n ymwneud â'r wythnos hon yn unig; mae'n ymwneud â phob wythnos, on'd ydy, a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn y…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi gallu cymryd rhan y bore yma yn nigwyddiad COP ieuenctid Cymru. Mae'n bwysig iawn bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed. Ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wir wedi bod yn flaenllaw o ran dod â…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Mae COP ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal yr wythnos hon, pan fydd Llywodraeth Cymru yn noddi digwyddiadau lle gall pobl ifanc yng Nghymru drafod yr argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol gyda Gweinidogion ac Aelodau o'r Senedd. Mae'r cyfarfodydd hyn yn…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Wel, yn sicr, mae gan ardaloedd gwledig eu heriau unigryw eu hunain, a chyfleoedd hefyd, ac rwy'n credu bod y galluogwyr tai gwledig yn sicr wedi chwarae rhan bwysig. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn edrych ar gynlluniau treialu yn yr ardaloedd…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi newid defnydd, os hoffech chi, yng nghanol ein trefi. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod arferion siopa wedi newid am byth mae'n debyg, ac yn sicr mae angen i ni wneud rhywbeth ynghylch llawer o…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Wel, mae'n sicr yn dda iawn clywed bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili unwaith eto yn adeiladu tai cyngor. Rwy'n meddwl bod llawer o arbenigedd yr ydym ni wedi ei golli dros y 30 mlynedd diwethaf o ran adeiladu tai cyngor, ac mae wedi bod yn dda…
8 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r broses hon drwy oruchwylio'r asesiadau newydd o'r farchnad dai leol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o'r fath, ond, o fis Ebrill 2022 ymlaen, bydd eu cynnyrch yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ethol Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn
Yn ffurfiol.
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, fel y dywedais yn fy ateb i Sioned Williams, y cam nesaf fydd i’r cyngor ymateb; mater iddynt hwy, wedyn, yw dod at Lywodraeth Cymru gyda'u camau nesaf. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog—. Fel y soniais ar ddechrau fy ateb, yn amlwg, mae cyswllt etholaethol gan…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch. Wel, wrth symud ymlaen, yn amlwg, bydd swyddogion Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gweithio gyda’r awdurdod lleol. Yn amlwg, bydd rhaid iddynt ystyried yr hyn a gyflwynir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fel y dywedaf, y peth…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch. Mae cyswllt etholaethol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, felly rwy’n ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Deallaf fod y cyngor wedi nodi dyfarniad y llys mewn perthynas â chynnig cwm Tawe a'u bod yn ystyried eu camau nesaf. Mae gan y cyngor gyfnod o…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Ni allaf roi unrhyw ddiweddariad penodol i chi, oherwydd, fel y gwyddoch, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar hyn o bryd i ddatblygu dogfen o fewn y cynllun lles anifeiliaid i edrych ar yr holl ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol sy'n…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi’u nodi yn ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru. Mae’n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau gweithredu allweddol yn erbyn y pedwar ymrwymiad sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yn ein rhaglen…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Wel, byddwn yn dychmygu y bydd yr haen gydweithredol—. Rydym newydd fod yn cyfeirio at dair haen y cynllun ffermio cynaliadwy, a byddwn yn tybio y bydd haen gydweithredol y cynllun yn gallu cynnig cymorth i brosiectau ar lefel tirwedd ar wastadeddau…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i gydweithio i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar lefel tirwedd. Mae gwastadeddau Gwent yn enghraifft wych lle gall mabwysiadu arferion rheoli tir cynaliadwy…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud mewn ateb cynharach: rydym yn dal ar gam cyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, felly nawr yw'r amser i sicrhau bod pawb yn cyflwyno'u safbwyntiau. Soniais am yr arolwg—mae hwnnw'n agored tan 21 Tachwedd…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rwy'n credu imi gael fy holi am hynny yn sicr, rwy'n credu mai Sam Kurtz a ofynnodd i mi am hynny yn y pwyllgor, ac mae'n bwynt pwysig iawn. Ond fe fyddwch yn deall ar hyn o bryd nad wyf hyd yn oed yn gwybod beth yw fy nghyllideb, felly mae'n anodd…
26 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Mae cynigion y cynllun yn arwydd o newid mawr yn y ffordd y bydd ffermwyr Cymru'n cael eu cefnogi. Bydd y cynllun yn allweddol i gefnogi ffermwyr Cymru i chwarae…