31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn bendant. Os gofynnwch chi i unrhyw un, 'Beth mae ffermwyr yn ei wneud?', dyna'r peth cyntaf y byddan nhw'n ei ddweud, 'Maen nhw'n cynhyrchu ein bwyd.' A bydd Jane Dodds yn gwybod wrth wraidd y Bil mae'r amcan i sicrhau cynaliadwyedd ein ffermydd ac mae'n…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ie, mewn cysylltiad â rhan olaf eich cwestiwn, rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael trafodaethau cynhyrchiol iawn ynghylch hynny i weld beth allwn ni ei wneud. Yn sicr, roedd y cyhoeddiad ynglŷn â chau—neu'r bwriad i gau—safle dofednod 2…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae'r strategaeth bwyd cymunedol yn ymrwymiad maniffesto yr oeddwn yn sefyll arno. Rydyn ni'n cyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol fel rhan o'r cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru, ac, yn amlwg, mae gennym bum mlynedd i gyflwyno'r strategaeth honno…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Fel y dywedais i, mae cyflenwad bwyd wedi'i integreiddio'n llwyr ar draws y DU. Mae gennym gadwyni cyflenwi rhyngwladol amrywiol iawn hefyd ar gyfer mewnforion ac allforion. Nid wyf yn credu bod prinder cyffredinol o ffrwythau a llysiau. Maen nhw ar…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r system fwyd yn gweithredu ar sail y DU gyfan. Felly mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig i nodi risgiau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w rheoli. Yng Nghymru, rydym ni'n hyrwyddo diogelwch bwyd trwy…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i chi, ac yn sicr fe fyddwn i'n cytuno â'r Aelod ei fod yn bryderus iawn, a dedfrydu'r person ifanc o Gaerdydd y cyfeirioch chi ato—roedd yn ystod o droseddau, gan gynnwys troseddau o dan ddeddfwriaeth derfysgol. Beth mae hynny'n ei wneud mewn…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gan weithio mewn partneriaeth â phlismona gwrthderfysgaeth, rydym wedi cynhyrchu fideos ac adnoddau ar atal radicaleiddio ac eithafiaeth, a gyflwynir mewn ysgolion gan ein swyddogion SchoolBeat. Mae ein bwrdd Prevent yn dod â phartneriaid at ei gilydd i…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn ôl y ffigurau sydd gen i o fy mlaen ynghylch ystadegau gweithlu'r GIG—ac mae hyn yn ymwneud â staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol—mae'r gweithlu bellach ar y lefelau uchaf erioed. Mae gennym fwy na 105,000 o bobl, 90,943 cyfwerth ag amser llawn…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn anffodus, byddai hyd yn oed cynnydd o 1 y cant dim ond yn rhoi—rwy'n credu ei fod tua £55 miliwn, sydd, yn amlwg, ddim yn agos at fod yn ddigon o arian ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnom. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynnydd yn ein cyllideb. Byddwch…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur. Rwy'n gwybod bod ei swyddogion hi wedi cwrdd â'r undebau llafur heddiw ac rwy'n credu eu bod nhw'n bwriadu cwrdd eto'r wythnos nesaf…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, wrth gwrs, mae'n ddrwg iawn gennym fod unrhyw un yn gorfod byw gyda'r pryderon hynny. Ond, fel rwy'n dweud, roedd hi'n bwysig iawn ein bod ni wedi cymryd cam yn ôl ac edrych ar ba waith y gellid ei wneud, ac, fel rwy’n dweud, mae gan y Gweinidog raglen…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, mewn cysylltiad â rhan gyntaf eich cwestiwn ynghylch cyweirio, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau rhaglen waith y gellir ei hamlinellu, fel bod pobl yn ffyddiog, oherwydd ni allaf ddychmygu dim byd gwaeth na bod yn…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Wel, fel sy'n digwydd yn Lloegr, mae'r Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda datblygwyr, er enghraifft, ac rwy'n gwybod, ynghylch cytundeb y datblygwyr, mae'r Gweinidog wedi bod yn gwneud hynny. Mae hi hefyd wedi sicrhau bod Aelodau'n cael yr…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n anghytuno â'r Aelod yn ddirfawr nad yw Cymru'n lle deniadol i wneud busnes ac i ddod â busnesau newydd yma. Rwy'n credu bod angen i chi edrych ar ein hanes blaenorol a hefyd y gwaith mae Banc Datblygu Cymru wedi ei wneud. Soniais am y rhaglen gwella…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed am y busnesau a'r sefydliadau yn eich etholaeth sydd wedi gorfod cau yn anffodus. Fel y gwyddoch chi, yma yng Nghymru, mae gennym Busnes Cymru, ac mae hwnnw ar fin dathlu ei ddegfed pen-blwydd, ac maen nhw wedi…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru. Rydyn ni'n cryfhau'r sectorau ledled economi Cymru drwy ganolbwyntio ar gymorth i gwmnïau arloesi ac arallgyfeirio, cyflymu datgarboneiddio busnesau, a buddsoddi mewn seilwaith…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. A diolch i Joyce Watson am ddod â'r pecyn cymorth aflonyddu rhywiol yn y gweithle i'n sylw ni heddiw. Rwy'n credu y bydd yn adnodd defnyddiol dros ben, wedi iddo gael ei lansio, ac mae wedi'i ddatblygu ar y cyd gyda Cymorth i Fenywod Cymru a TUC…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod y sefyllfa anodd iawn y mae ein hawdurdodau lleol ynddi, wrth geisio arbed arian, hyd yn oed gyda'r cyllidebau rydyn ni wedi gallu eu rhoi iddyn nhw gan Lywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedwch, gwnaeth y…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fel y mae Buffy Williams wedi amlinellu, yng Nghymru, rydym yn gwybod bod gormod o bobl yn dal i brofi cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae ein strategaeth yn rhoi atal yn gwbl ganolog iddi, gan symud y pwyslais o symptom i achos trwy ddull…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dim ond gweithredu unedig o bob rhan o gymdeithas all ddod â chamdriniaeth i ben a sicrhau bod pawb yng Nghymru wir yn gallu byw heb ofn. Mae ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, VAWDASV, yn nodi ein nodau…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad y Llywydd
Diolch, Llywydd. Diolch i chi i gyd am y foment yna o fyfyrdod er cof am Clare Drakeford ac i gydnabod ei bywyd. Rwy'n gwybod bod meddyliau pawb yn y Senedd, ac ar draws Cymru, gyda'n Prif Weinidog a'i deulu ar yr adeg drist iawn hon, ac rwy'n gwybod y bydd…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Yn sicr roedd hi'n siomedig iawn, am yr eildro, i'r cais ffyniant bro, fel roeddech chi'n sôn, gan grŵp o bartneriaid ym mhartneriaeth Porth Wrecsam, gael ei wrthod gan Lywodraeth y DU. Yn amlwg, rwy'n datgan buddiant gan mai fi yw Aelod yr etholaeth…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bob amser wedi bod yn glir iawn am ei hymrwymiad i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae'n broblem gymdeithasol ac yn amlwg mae angen ymateb cymdeithasol. Mae'r Gweinidog yn gwbl bendant bod yn…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato ac wedi galw ar URC i'w gyhoeddi, nid ar un achlysur, ond ar sawl achlysur, rwy'n credu, ac yn parhau i wneud hynny. Fel y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn ei…
24 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Fy nealltwriaeth i yw nad yw ymddiriedolaethau Lloegr yn trin trigolion Cymru yn wahanol, yn y ffordd yr ydych chi wedi awgrymu, ac rwy'n credu mai'r ffordd orau ymlaen, y ffordd orau o weithredu, mae'n debyg fyddai gofyn i'r Gweinidog Iechyd a…