12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rwy'n credu ei fod yn rhoi cyfle inni, gyda rhaglen prydau ysgol am ddim mor fawr yn cael ei chyflwyno ledled Cymru, i sicrhau bod gennym gymaint o gynnyrch Cymreig â phosibl. Rwy'n credu mai Cyngor Sir Fynwy sy'n adolygu eu prydau ysgol, a chredaf eu…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gweithio'n agos gyda'n busnesau, gyda'r tair canolfan arloesi bwyd ledled Cymru y soniais amdanynt yn fy ateb agoriadol ichi, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, y credaf i chi ei hagor ychydig flynyddoedd yn…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr i gefnogi arloesedd mewn cwmnïau bwyd a diod ledled Cymru. Rydym yn ariannu Prosiect Helix, sydd wedi ennill gwobrau, a ddarperir gan rwydwaith o dair canolfan fwyd ledled Cymru, yn ogystal â chefnogi…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp gwleidyddol
Yn ffurfiol.
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i sefydlu pwyllgor
Yn ffurfiol.
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Yn ffurfiol.
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun ffermio cynaliadwy
Diolch. Wel, dydw i ddim yn credu y gallaf i fod yn fwy clir mai cynllun i ffermwyr gweithredol yw hwn. Yn sicr, dydw i ddim am weld unrhyw gwmnïau rhyngwladol yn dod i mewn ac, fel rydych chi'n ei ddweud, yn taflu tenant oddi ar ei dir, a dyna'n union pam…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun ffermio cynaliadwy
Diolch i chi. Rwyf i newydd sylweddoli, pan soniodd Huw Irranca-Davies am newydd-ddyfodiaid, fod Sam Kurtz wedi fy holi i am newydd-ddyfodiaid hefyd, ac ni wnes i ateb y cwestiwn hwnnw. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cynllun yn gweithio i newydd-ddyfodiaid…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun ffermio cynaliadwy
Diolch i Jane Dodds am y pwyntiau a'r cwestiynau yna. Fe glywsoch chi'r hyn a ddywedais i yn fy atebion blaenorol i Sam a Llŷr ynghylch y 10 y cant o goed. Fe gawsom ni adborth, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, yn ystod y cyfnod cyd-ddylunio, y dylem ni…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun ffermio cynaliadwy
Diolch yn fawr iawn i chi. Fe wnaethoch chi sôn am gyhoeddiad ar gynllun y taliad sylfaenol cyn y Sioe Frenhinol. Nid wyf i'n siŵr a oeddech chi'n cyfeirio at Glastir, oherwydd rwyf i wedi ymrwymo i barhau â chynllun y taliad sylfaenol tan 2024. Rwyf i wedi…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun ffermio cynaliadwy
Diolch yn fawr iawn, a diolch i chi am y pwynt olaf yna. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n cymryd agwedd wleidyddol ynglŷn â hyn, a'n bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cynllun hwn yn gwbl gywir. Rwyf i wedi dweud hynny…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun ffermio cynaliadwy
Fe gawsom ni adborth ar nifer y newidiadau y bydd yn rhaid i rai ffermwyr eu gwneud, ynghyd â chais i roi digon o amser i ffermwyr ddeall a gweithredu'r newidiadau. Felly, rydyn ni'n ystyried dull gweithredu graddol. Fe allai hyn olygu ein bod ni'n…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun ffermio cynaliadwy
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw ynglŷn â datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy. Dyma'r fenter fawr gyntaf a danlinellwyd gan ein Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) ni a fydd yn nodedig cyn bo hir, ac…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Ac rwy'n credu mai hwnnw yw'r diffiniad yn gyfan gwbl: rydyn ni'n genedl noddfa i bob un sydd ei hangen hi. Rwyf i o'r farn mai siarad yn fwy cyffredinol yr ydych chi am ddiffyg parch yn y Siambr hon, ac rwy'n credu bod hynny'n digwydd yn rhy aml yn y Siambr…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, rwy'n sicr yn credu ein bod ni wedi gweld enghreifftiau gwych eleni o weirgloddiau a chylchfannau blodau gwyllt. Fe wn i, yn fy etholaeth i yn Wrecsam—ac efallai y caf i roi hysbyseb i hynny, achos fe wn i eu bod nhw mewn cystadleuaeth Cymru yn ei Blodau…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Fel yr ydych chi'n ei nodi, nid yw'r cynllun Cychwyn Iach wedi'i ddatganoli, ond mae yn darparu cymorth ariannol tuag at brynu bwyd iach, llaeth a fformiwla. Mae'r taliadau ar gyfer plant dan un oed yn £8.50 yr wythnos, ond ar gyfer babanod rhwng un a…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Nid mater i Weinidog yr Economi yw hwn; mater i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip. Fodd bynnag, caiff pob cais ei asesu gyda meini prawf cymhwysedd llym iawn. Byddwn i'n meddwl mai'r ffordd orau ymlaen, mewn gwirionedd, fyddai i'r clwb—…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwyf yn cydnabod gwerth ein coed a'n coetiroedd a'n gwrychoedd, ac, yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, byddaf yn gwneud datganiad ar sefyllfa bresennol y cynllun ffermio cynaliadwy, lle bydd hynny'n cael ei gydnabod yn bendant. Maen nhw o…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Gwyddom fod diagnosis o ganser yn aml yn dod â goblygiadau ariannol difrifol. Efallai na fydd pobl yn gallu gweithio ac efallai y bydd ganddyn nhw gostau ychwanegol am ynni. Fe wnaethoch chi sôn am ynni yn…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn ymwybodol iawn o ymgyrch Credit their Service y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac rwy'n gwybod bod ei swyddogion wedi cwrdd â'r elusen, ac yn parhau i weithio'n agos gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu ei fod yn werthfawr iawn i sefydliadau fel Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o'r cymorth sydd eisoes ar gael. Rwy'n credu ei bod hi'n wych eu bod nhw'n gwneud hyn yn enw Jamie wrth symud ymlaen. Yn sicr fe…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, o ran y mater yr ydych chi'n ei godi am fanciau bwyd, mae'n sicr yn fater difrifol iawn, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gweld gyda banciau bwyd ar draws ein hetholaethau nad ydyn nhw wedi cael eu stocio cystal ag yr oedden nhw o'r…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran eich cais cyntaf, eich ymadrodd oedd 'lefel amhriodol o graffu democrataidd'. Wel, mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw hwnnw o ran sut maen nhw'n penderfynu gwario'r arian sy'n cael ei ddyrannu iddyn nhw. Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yfory, bydd y Pwyllgor Busnes yn ceisio atal Rheolau Sefydlog i'n galluogi i ystyried tri chynnig sy'n ymwneud â phwyllgorau'r Senedd. Mae'r busnes drafft ar gyfer tair wythnos nesaf tymor yr hydref wedi'i nodi ar y datganiad a…
4 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu sylwadau. Os caf ddechrau gydag Alun Davies, ar ran y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad, rwy'n ddiolchgar am y ffordd y mae wedi adlewyrchu ymateb Llywodraeth Cymru, a byddaf…