12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Ni chefais wybod. Mae'n ddrwg gennyf.
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, fe fyddwch wedi clywed fy ateb cynharach i Sam Kurtz, ac rydych chi'n hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith nad yw pawb yn microsglodynnu eu cathod er ei fod ar gael, fel y dywedais—fe sonioch chi am y gost o'i wneud. Felly, nid yw'r ffaith nad ydym yn…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae ein cynllun lles anifeiliaid yn ymrwymo i ystyried ymestyn microsglodynnu gorfodol i gynnwys cathod erbyn 2026. Er nad oes ymgynghoriad wedi'i gynllunio ar gyfer 2023, mae fy swyddogion yn ystyried adroddiad ar y cyd ar ficrosglodynnu i lywio'r gwaith hwn…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr, rydym yn mwynhau ein bwyd a'n diod Cymreig yn fawr, ac mae'n wych dechrau ar dymor y sioe amaethyddol nawr oherwydd pa le gwell i ddangos y bwyd a'r diod gwych sydd gennym yma yng Nghymru, ac arddangos ein cynhyrchwyr sy'n gwneud…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r sector diodydd ledled Cymru, ac mae ganddi raglen gynhwysfawr o fesurau cymorth busnes ar waith. Mae hyn yn cynnwys clwstwr diodydd hynod lwyddiannus, sy'n hyrwyddo cydweithrediad ar draws y sector…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd y trên dosbarth 230 newydd ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston ar 3 Ebrill, ac rwy'n credu ei bod unwaith eto yn deg iawn dweud bod yr oedi cyn eu cyflwyno wedi bod yn siomedig. Ac rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi gorfod mynd ati'n drylwyr i…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch pobl yn bod yn amyneddgar. Rwy'n defnyddio'r lein honno fy hun, fel rwy'n siŵr eich bod chi, ac nid yw perfformiad y gwasanaethau ar y lein honno wedi bod yn ddigon da. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud hynny, a gwn…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys y lein rhwng Wrecsam a Bidston. Rwy'n croesawu'r cynllun gwella y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i ddatblygu, a bydd…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Wel, rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau o famaliaid sydd wedi'u heintio â'r ffliw adar a grybwylloch chi, ac mae swyddfa'r prif swyddog milfeddygol yn gweithio'n agos iawn gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, a chydag Adran yr…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Maent yn sicr yn barod. Rydym wedi cael cyfanswm o wyth achos yng Nghymru. Mae'r cyfnod adrodd yn dechrau ar 1 Hydref, felly ers 1 Hydref 2022, rydym wedi cael wyth achos o ffliw adar wedi'u cadarnhau mewn adar a gedwir yng Nghymru. Roedd dau ar Ynys…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Yng ngoleuni risg llai i ddofednod, codwyd y parth atal ffliw adar ar 4 Gorffennaf. Er nad oes parthau rheoli clefydau yng Nghymru ar hyn o bryd, rydym yn parhau i fonitro lefelau risg i ddofednod ac adar gwyllt, ac mae gwaharddiad ar grynoadau rhywogaethau…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd Janet Finch-Saunders o ran hynny. Nid wyf yn credu y gallaf roi ateb llawnach na'r ateb a roddais i Heledd Fychan, ond i dawelu eich meddwl, pan ofynnais i fy swyddogion ysgrifennu at bob un o'r 22…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rydych yn dal i'w gofio.
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n credu y dylwn innau ddatgan buddiant mae'n debyg; rwy'n cofio cael pysgodyn aur. Nid wyf yn meddwl bod fy un i wedi para ychydig wythnosau, mewn gwirionedd; rwy'n credu mai ychydig ddyddiau ydoedd. Ond fel y dywedwch, mae'n rhywbeth nad ydym, dros y…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru ar y mater hwn. Ysgrifennwyd at awdurdodau lleol yn flaenorol er mwyn casglu gwybodaeth. Mae gan gynghorau bŵer i wahardd yr arfer o roi anifeiliaid fel…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Gallaf eich sicrhau fy mod yn ymwybodol iawn—rwyf bob amser yn ymwybodol iawn o unrhyw beth lle mae'n rhaid ichi ystyried cyllideb. Bydd yn rhaid i mi a fy olynwyr eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet a dadlau dros gyllid yn y ffordd y mae'n rhaid i bob…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rydych yn llygad eich lle, fe ddywedais hynny, ac mae'n hollol wir nad oes gennym sicrwydd ynglŷn â'n cyllideb y tu hwnt i 2025. Soniais ei bod yn hynod gymhleth ac yn anodd cynllunio cynllun pan nad ydych yn gwybod beth yw'r gyllideb. Felly, mae'n rhaid ichi…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Ar ddiwedd eich cwestiwn olaf, ynghylch yr RSPCA, mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i barhau i fynd ar ei drywydd. P'un a fyddai'n cael ei wneud yn ystod tymor y Llywodraeth hon, oherwydd nid mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn, yn amlwg, byddai'n…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae hyn yn sicr yn rhywbeth roeddem yn edrych arno, yn ôl pob tebyg cyn tymor y Llywodraeth hon. Fe euthum gyda'r RSPCA a gweld gyda fy llygaid fy hun pa mor anodd oedd hi oherwydd nad oedd ganddynt ddigon o bwerau i allu ymdrin â phethau fel roeddent hwy'n…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, mae'n rhaglen bum mlynedd. Rwy'n credu y dylwn wneud hynny'n glir iawn o'r cychwyn cyntaf. Rydym ym mlwyddyn 3 erbyn hyn. Rydym wedi gwneud llawer iawn o gynnydd, yn enwedig gyda'n codau ymarfer a'n rheoliadau, yn enwedig mewn perthynas â chŵn. Rydym…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Wel, bydd y cynllun yn cefnogi'r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, ochr yn ochr â'n rhwymedigaethau rhyngwladol hefyd, drwy gamau gweithredu sy'n cynnwys hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer priddoedd byw iach, drwy'r adolygiad sylfaenol…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn. Pan fydd pobl ar dir cyhoeddus yn y ffordd rydych newydd ei nodi, mae'n bwysig tu hwnt eu bod yn deall yn iawn mai busnes rhywun ydyw. Mae'n aml yn gartref i rywun, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn deall hynny. Rydym yn…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Cyflwynodd Cymdeithas y Cerddwyr eu hymateb i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn yr ymgynghoriad diwethaf a gawsom, ac yn amlwg fe wnaethant gyfrannu at y broses gydgynllunio, ynghyd â llawer o ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, ac rwy'n ddiolchgar i bawb…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy sy'n cael ei gydgynllunio ar hyn o bryd yn cefnogi ffermwyr i wella mynediad uwchlaw eu gofynion cyfreithiol i helpu pobl i ryngweithio â'n diwylliant, tirweddau a threftadaeth wledig a chreu buddion iechyd sylweddol.
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Byddwn yn falch iawn o gael y sgwrs honno gyda chi. Rydym wedi cael trafodaethau blaenorol ynghylch parc cynhyrchu bwyd. Rwy'n credu bod gogledd-orllewin Cymru yn lleoliad da iawn i gael y fath beth. Rydym yn gwybod, onid ydym, os oes gennym gwmnïau yn…