4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gennyf fod yn rhaid i Coco a chithau fynd drwy'r profiad hwnnw. Rydych yn llygad eich lle, rwy'n credu bod pethau y gallwn eu gwneud, ond efallai fod pethau ychwanegol hefyd. Holl bwynt cael yr uwchgynhadledd oedd dod â’n…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Nid yw'r cyfreithiau sy'n diogelu'r cyhoedd rhag ymosodiadau gan gŵn wedi'u datganoli. Rwy'n croesawu'r newyddion fod Llywodraeth y DU yn gweithredu o'r diwedd. Byddaf yn cynnal uwchgynhadledd amlasiantaeth ar 18 Hydref i sefydlu pa gamau ychwanegol y…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n iawn i groesawu'r consensws. Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud—rwy'n edrych ar Darren Millar nawr—fod pob rheolwr busnes yn hapus iawn i edrych ar eich cynnig deddfwriaethol. Rwy'n credu ein bod i gyd yn meddwl ei fod mor…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Yn bendant, rwy'n ymrwymo i hynny, fel y dywedais yn fy ateb agoriadol. Rwyf wedi ysgrifennu at amryw o Weinidogion, o Weinidogion y Swyddfa Gartref i Weinidogion DEFRA, ar o leiaf wyth achlysur. Roeddwn i'n edrych yn ôl ar nifer y llythyrau. Ni chafwyd…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n ymrwymo'n llwyr i wneud hynny. Fel y dywedwch, rwy'n credu bod y cam y mae Llywodraeth y DU yn ei roi ar waith nawr i'w groesawu er yn hwyr yn y dydd. Roedd yn siomedig iawn; cefais gyfarfod gyda'r Gweinidog cyfatebol yn DEFRA y diwrnod cyn i'r Prif…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac wedi ysgrifennu at wahanol Weinidogion ar wyth achlysur yn gofyn am gamau i gryfhau deddfwriaeth nad yw wedi'i datganoli yn ymwneud â chŵn peryglus. Gan fod camau ar y gweill ar hyn bellach, mae…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Fel y dywedais mewn atebion cynharach ar y cynllun Cynefin, nid ydym wedi gallu cyhoeddi'r gyllideb hyd yma, ond nid wyf erioed wedi dweud y byddai yr un peth â Glastir, oherwydd ni feddyliais erioed y byddai gennyf yr arian ar gyfer hynny. Unwaith…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Agorodd y ffenestr ymgeisio ar gyfer cynllun Cynefin Cymru ar 29 Medi. Mae'r cynllun yn cynnig cymorth i reoli tir cynefin hyd nes y cyflwynir y cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025. Hoffwn annog pob ffermwr cymwys yng Nghymru i wneud cais.
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, soniais yn fy ateb gwreiddiol i Luke Fletcher y byddwn yn cael ein pedwerydd digwyddiad BlasCymru yn ddiweddarach y mis hwn. Nawr, gwerthu Cymru i'r byd yw nod hwnnw yn bennaf, oherwydd mae gennym brynwyr rhyngwladol yn dod draw, ond mae hefyd yn bwysig…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw waith penodol ar y cyd â Gweinidog yr Economi, ond yr hyn rwy'n sicr yn ei wneud yw sicrhau bod y cwmnïau hynny'n gallu dod o hyd i arbenigedd ariannol ac arbenigedd addas ar eu cyfer nhw. Felly, rydym yn cynnig amrywiaeth o…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i dyfu o ran maint ac enw da. Mae rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cynnwys cymorth ar gyfer arloesi, buddsoddiad cyfalaf, datblygu sgiliau a thwf busnes yng Nghymru, y DU a marchnadoedd tramor. Yn…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, ac mae iechyd meddwl y rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant amaeth yn peri pryder mawr i mi. A hoffwn annog unrhyw un sy'n dioddef o straen neu broblemau iechyd meddwl eraill i siarad ag arbenigwr yn y maes, ac fe…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Mae dros £18 miliwn o daliadau cynllun y taliad sylfaenol wedi'u gwneud i ffermwyr yn sir Benfro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn ychwanegol at ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio, sy'n parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor hanfodol i fusnesau yn…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Wel, soniais am y cynlluniau grant sydd gennym ar waith; soniais am yr edefyn ychwanegol sydd gennym o fewn Cyswllt Ffermio. Mae'r holl bethau hyn wedi'u cynllunio i helpu ein sector garddwriaeth i dyfu, oherwydd rydych chi'n pwyso ar ddrws agored…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Wel, fel y gwyddoch, mae rhan arddwriaethol y sector amaethyddol yn faes y bûm yn awyddus iawn i'w dyfu. Ac rydym wedi gweld gwelliant bach—rwy'n credu mai 0.1 y cant ydoedd pan ddechreuais yn y portffolio, ac roedd hynny'n rhyw lun o gyfateb i…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Er na chesglir ystadegau blynyddol ar gynhyrchu ffrwythau a llysiau, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i dyfwyr yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y cynlluniau datblygu garddwriaeth a dechrau busnes i ffermwyr. Hefyd…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wrth gwrs roeddwn i'n gwybod bod Glastir yn dod i ben eleni, ond yr hyn na wyddwn oedd a fyddai gennyf unrhyw gyllid ar gyfer cynllun amaeth-amgylcheddol. Roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau na fyddem yn cael gwared ar y manteision yn ogystal â'r anfanteision…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, rwy'n meddwl iddo gael ei ruthro—. Roedd rhaid gwneud rhywbeth ar frys. Roeddwn i'n meddwl mai dyna roedd pobl ei eisiau—ar hynny y cefais fy lobïo. Fel rwy'n dweud, ddydd Gwener y cafodd ei agor i geisiadau; rydym eisoes wedi cael dros 100, felly, yn…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, gan wisgo fy het AS, rwy'n sicr yn credu bod ymgysylltu yn digwydd. Fel y dywedais, mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, sydd yn ei sedd ac a fydd wedi clywed eich sylwadau, yn cadw llygad barcud ar hyn. Ond mater i Awdurdod Tân ac Achub…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Fel y dywedais, mae hwn yn fater lleol a gweithredol i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mater iddyn nhw yw dod o hyd i ateb sy'n gynaliadwy, yn fforddiadwy—mae'n rhaid iddo fod yn deg â'u gweithlu, mae'n rhaid iddo fod yn deg â chymunedau gogledd Cymru…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, yn amlwg, mae hwn yn gyfnod o ddewisiadau anodd iawn i bawb, ond rwy'n credu bod hwn yn fater lleol a gweithredol i awdurdod tân ac achub gogledd Cymru, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reswm i ymyrryd. Ar hyn o bryd, rwy'n gwybod bod y Gweinidog…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Nid yw hwnnw'n fater sydd wedi cael ei godi gyda mi o'r blaen, ond byddaf yn sicr o siarad gyda'r prif swyddog milfeddygol mewn perthynas â hynny, a hefyd, yn amlwg, gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion—rwy'n cyfarfod â phrif weithredwr…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Wrth gwrs, mae'n Ddiwrnod Anifeiliaid y Byd heddiw. Fe wnaethom ni ei ddathlu ddiwrnod yn gynnar eleni yma yn y Senedd ddoe gyda digwyddiad wedi'i noddi gan Luke Fletcher. Rwyf wedi ymrwymo i edrych ar ficrosglodynnu cathod fel y gwyddoch, ac er nad…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Ein huchelgais yw i bob anifail yng Nghymru gael ansawdd bywyd da. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yn 'Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26'. Mae'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau gweithredu allweddol yn erbyn…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n credu bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â phwrpas y cynllun Cynefin. Roedd pawb—pawb—yn gwybod bod cynlluniau Glastir yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn hon. Ni allwn ei ymestyn mwyach. Fe wneuthum ei ymestyn dro ar ôl tro. Mae'n amhosibl imi ei…